Ffoaduriaid
Person sy'n ffoi rhag rhywbeth neu'i gilydd yw ffoadur (Saesneg: refugee).
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn ei ddiffinio fel:
Owing to a well-founded fear of being persecuted for reasons of race, religion, nationality, membership of a particular social group, or political opinion, is outside the country of their nationality, and is unable to or, owing to such fear, is unwilling to avail him/herself of the protection of that country
Gelwir person sy'n ceisio gael ei adnabod fel ffoadur yn geisiwr lloches.
Ffoaduriaid Irac ac Affganistan
Mae’r rhan fwyaf o’r ffoaduriaid hynny sy’n cyrraedd Ewrop o Syria, Affganistan ac Irac wedi teithio trwy Groeg a’r Balcanau. Tra roedd y ffiniau ar agor, prif batrwm y mudo oedd trwy Groeg i Macedonia, i’r gogledd orllewin trwy Serbia, Croatia a Slofenia, tuag at Awstria a’r Almaen
Rydyn ni’n gweld adroddiadau newyddion dyddiol am nifer y cychod sy’n cael eu llwytho gyda phobl, gan gynnwys menywod a phlant, sy’n gwneud y daith beryglus ar draws y Sianel i gyrraedd y DU.
Fe wnaeth o leiaf 828 o ffoaduriaid groesi’r Sianel ar gychod bach mewn un diwrnod dros y penwythnos olaf o Awst 2021. Record newydd ar gyfer yr argyfwng presennol.
Er gwaethaf addewidion gan y Swyddfa Gartref i wneud y daith yn “anymarferol”, fe wnaeth 30 o gychod lwyddo i gyrraedd y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn 21 Awst, meddai’r adran. Mae nifer y bobol gyrhaeddodd yn torri’r record flaenorol a gafodd ei gosod lai na phythefnos yn gynt pan groesodd 592 mewn diwrnod.
Erbyn hyn, mae dros 12,400 o bobol wedi croesi’r Sianel i’r Deyrnas Unedig ers dechrau 2021, yn ôl data sydd wedi’i gasglu gan wasanaeth newyddion y Press Association.
Mae nifer o bobl wedi marw wrth groesi’r môr, gyda llywodraethau ar ddwy ochr y Sianel yn addo gweithredu.