Baner

Ynglŷn â’r adnodd hwn

Ynglŷn â’r adnodd hwn

Cylchgrawn digidol dwyieithog ar-lein am ddim yw 'Ein Byd' ac mae’n llawn erthyglau amserol a gweithgareddau sy’n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru. Prif ffocws yr adnodd yw rhoi un gyrchfan ar-lein i rieni ac athrawon, a honno’n cynnig deunydd newydd yn gyson i'w ddefnyddio fel sbardun ar gyfer dysgu yn yr ysgol neu gartref. Mae'r cylchgrawn yn thematig, yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, a bydd yn ysgogi ac yn ysbrydoli plant yn y grwpiau oedran isaf ac uchaf yn yr ysgol uwchradd i ymddiddori mewn pynciau cyfoes sy'n ymdrin â materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r adnodd wedi’i gynllunio gan athrawon ac arbenigwyr cwricwlwm ledled Cymru a hynny gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae amryw o erthyglau ar gael yn barod a chaiff tair erthygl newydd eu cyhoeddi bob tymor i roi cymorth sylfaenol i rieni ac athrawon ei ddefnyddio neu ei ehangu gyda'u dulliau addysgu a dysgu eu hunain a chyd-destunau tra-lleol.

Mae pob rhifyn o Ein Byd yn cynnwys:

  • Prif erthygl ar y thema gyda llinyn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd bob amser â chyd-destun neu gysylltiad â’r arwyddocâd Cymreig
  • 9-12 o ddeunyddiau ysgogi sy'n eich annog i ymchwilio a rhyngweithio’n fanylach ac sy'n gwau ffeithiau, syniadau a chreadigrwydd at ei gilydd
  • Nodiadau cyfarwyddyd i rieni ac athrawon i helpu athrawon yn eu gwaith cynllunio ac i helpu’r rhieni i gefnogi gwaith dysgu eu plant o'u cartrefi
  • Nodiadau sy’n mapio enghreifftiau o’r cwricwlwm

Mae pob erthygl yn aros ar y wefan er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol, ichi gael ailedrych ar y cynnwys a'i ailddefnyddio mor aml ag y dymunwch.

Croeso i’r cwricwlwm newydd, croeso i einbyd.cymru