Dathliad o dda byw, cynhyrchion a chrefftau Cymru

Dathliad o dda byw, cynhyrchion a chrefftau Cymru

Canllaw Rhiant & Athro
Dathliad o dda byw, cynhyrchion a chrefftau Cymru

Cafodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei sefydlu’n wreiddiol fel Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru ym 1904. Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi bod yn rhan ganolog o esblygiad amaethyddiaeth yng Nghymru drwy gydol yr 20fed a'r 21ain ganrif.

Cafodd y sioe gyntaf ei chynnal yn Aberystwyth, gan ddenu 442 o dda byw i’r cystadlaethau. Bedair blynedd wedyn, ym 1908, daeth 23 o drenau arbennig gyda 224 o wagennni i wartheg a cheffylau i Aberystwyth. Roedd angen 100 o gerbydau trên hefyd i gludo’r ymwelwyr o bell i'r sioe. Cafodd y sioe ei gweld fel dathliad o dda byw yng Nghymru lle'r oedd yr anifeiliaid gorau yn cael eu dangos i'r cyhoedd.

Heddiw, mae'r Gymdeithas yn sefydliad cenedlaethol sy'n cael ei garu ledled Cymru a’r tu hwnt, nid yn unig gan ffermwyr a'r gymuned wledig ond gan bobl o bob cefndir, lawer ohonyn nhw wedi dod i weld Sioe Frenhinol Cymru fel uchafbwynt eu blwyddyn. I lawer, dyma’u gwyliau blynyddol a phrif wyliau'r flwyddyn!

Mae'r sioe yn llwyfan i arddangos amrywiaeth o dda byw Cymru a bwyd, diod a chrefft o safon sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Bob blwyddyn mae dros 240,000 o bobl yn ymweld â maes y sioe ac mae bras amcan o 8,000 o anifeiliaid yn cystadlu dros y pedwar diwrnod i fod yn orau o blith y goreuon.

Mae'r sioe yn cynnig rhywbeth at ddant pawb drwy ei hamrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  • coedwigaeth
  • garddwriaeth
  • peiriannau amaethyddol
  • crefftau
  • campau cefn gwlad
  • cneifio
  • cystadlaethau da byw
  • stondinau marchnad a siopau
  • ffair!

Mae'r sioe yn cael ei mwynhau gan y miloedd o gystadleuwyr, arddangoswyr ac ymwelwyr sy'n dod iddi flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae hefyd yn dod yn lle pwysig i wneud busnes, trafod gwleidyddiaeth ac mae unigolion, cwmnïau a sefydliadau dylanwadol a phwerus yn ei mynychu.

Profiad rhyfeddol sy’n llawn haeddu ymweliad.

1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
5
Sgwrs
6
Linc
7
Erthygl newyddion
8
Cyfres o luniau
9
Fideo
10
Rhyngweithiol