Gwyddau Canada mudol yn hedfan dros lyn adeg codiad haul

Ymfudo

Canllaw Rhiant & Athro
Ymfudo

Diffiniad o fudo neu ymfudo yw pobl neu anifeiliaid yn symud o un man, ardal neu gynefin i un arall. Mae anifeiliaid ac adar yn arddangos ymddygiad mudo pan mae llwyth, haid neu unigolyn yn symud o un cynefin i gynefin newydd. Y rheswm dros hyn yw'r newid yn nhymhorau’r Ddaear. Ymfudo ydi’r siwrnai neu symudiad rhwng ardaloedd. Gall haid o adar hedfan i o ardal neu wlad i wlad arall yn ystod tymor sy’n anaddas iddyn nhw. Mae rhai pobl yn ymfudo i fyw mewn gwlad newydd gan chwilio am amodau byw gwell. 

 

Pam bod adar yn mudo? 

Mae llawer o adar yn mudo rhwng cynefinoedd magu a gaeafu. Rheswm arall yw eu hangen am fwyd mewn tymor arbennig. Mae rhai yn hedfan rhwng Gogledd a De gan ddilyn llwybr awyr arbennig, ond mae llawer yn methu goroesi wrth symud cannoedd o filltiroedd rhwng un wlad ac un arall. 

 

Pam fod anifeiliaid yn mudo? 

Mae mamaliaid mawr Affrica sy’n byw ar y Safana yn mudo i chwilio am ddŵr. Gall tymhorau o sychder mawr y safana effeithio’n drwm ar eu bywoliaeth. Felly, mae anifeiliaid fel yr eliffant yn ddyddiol yn symud efo’r glawiad oherwydd ei angen am ddŵr. Rhaid i’r anifeiliaid ymateb i’r hinsawdd a hefyd ysglyfaethwyr. Caiff y sebra ei hela gan yr udflaidd a’i yrru i ardal ddiogel ar y safana. 

 

Pam fod pobl yn mudo? 

Mae rhai pobl yn dewis mudo i chwilio am fywyd gwell, hynny yw, oherwydd eu hangen am waith a gwell cyflog, neu eisiau tywydd braf. Rheswm arall fyddai gwell iechyd. Ond mae rhai hefyd yn mudo oherwydd rhyfel neu amodau byw anodd yn eu gwlad, yn aml nid o ddewis maent yn mudo. Gall newid amgylcheddol a chymdeithasol hefyd yrru pobl allan o’u cynefin un ai i wlad arall neu ardal newydd o fewn eu gwlad. 

Geirfa
Cynefin
ardal neu amgylchedd y mae rhywbeth byw yn gartrefol ynddi.
Safana
tir gwastad eang gwelltog yn un o rannau trofannol y byd.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Cofnod dyddiadur
6
Linc
7
Linc
8
Linc
9
Fideo
10
Rhyngweithiol