Ysbrydoli yw teitl y rhifyn hwn ac mae’n cynnwys darnau amrywiol am bobl sydd wedi cael eu hysbrydoli ac am bobl a phethau sy’n ysbrydoli pobl eraill.
Mae beth neu phwy sy’n eich ysbrydoli yn unigryw i bob un. Dychmygwch pa mor ddiflas byddai bywyd os mai un peth fyddai’n ysbrydoli pawb drwy’r byd! Dyna beth sy’n wych am gael eich ysbrydoli gan amrywiaeth o bethau – mae’n cynnig ychydig o gyffro a dyhead ym mhob un ohonom ni!
Ydych chi erioed wedi bod mewn gwersi yn yr ysgol ac wedi cael eich cyffroi gymaint ei fod wedi eich ysbrydoli i wneud fwy o waith ymchwil?
Gall amrywiaeth o bobl ein hysbrydoli, er enghraifft:
Tybed ydych chi wedi ystyried beth wnaeth ysbrydoli Alun Wyn Jones i chwarae rygbi? Un peth sy’n sicr, mae e wedi ysbrydoli nifer o fechgyn a merched i ddilyn eu breuddwydion o chwarae rygbi.
Gall digwyddiadau hefyd ein hysbrydoli i ddilyn gyrfa neu hobi newydd, er enghraifft:
Mae astudiaethau’n dangos fod gwylio’r Gemau Olympaidd yn gallu ysbrydoli plant i gymryd diddordeb mewn amrywiaeth o chwaraeon newydd. Ydych chi’n mwynhau gwylio’r Gemau? Pa chwaraeon ydych chi’n hoffi ei wylio fwyaf?
Meddyliwch yn ofalus, pwy sy’n eich ysbrydoli chi? Oes rhywbeth allwch chi ei wneud er mwyn ysbrydoli eraill?