Annwyl ddyddiadur!
Codais am 5 o’r gloch y bore. Yr un pryd ag arfer. Dyma’r awr lle mae’r dydd fwyaf llonydd. Yr amser i weddïo, a dim ond swn yr adar mân yn canu i’w glywed yn y coed. Mae rhai yn meddwl bod diwrnod mynach yn wag. Dim byd i’w wneud o fore gwyn tan nos. Ond dim ond pobl sydd heb ddeall bywyd mynach sy’n dweud pethau fel hyn.
Ar ôl gweddi, brecwast amdani. Bara a llaeth. A sôn am fara. Dyna waith y bore. Pobi bara. Does dim byd gwell nag arogl bara yn llenwi’r ffroenau. Blawd a dŵr, halen a burum. Tynnu’r toes rhwng y dwylo, a rhoi’r bara yn y ffwrn. Digon o amser i fynd i lawr at y môr i gael llond ysgyfaint o awyr iach. Nôl at y bara, a’i weld wedi crasu’n braf yn dod allan o’r ffwrn. Wedi cinio ysgafn, a gweddi fach eto, allan i’r ardd i chwynnu. Mae digon o waith gan fynach i’w wneud!
Dwy awr o ddarllen y Beibl ar ddiwedd y prynhawn. Pawb mewn tawelwch llwyr. Mae hyd yn oed yr adar yn dawel erbyn hyn. Stori dda ydy troi’r dŵr yn win. Dwi wedi rhoi cynnig arni fy hun ond heb lwyddo eto.
Gwely cynnar heno eto. Bydd yr adar yn siŵr o ’neffro i bore fory.