Ynni adnewyddadwy glân - tyrbinau gwynt yn y môr

Ynni Adnewyddadwy

Canllaw Rhiant & Athro
Ynni Adnewyddadwy

Mae rhewlifoedd yn toddi, lefelau'r môr yn codi, a choedwigoedd hynafol yn marw, gyda bywyd gwyllt yn sgrialu i gadw i fyny. Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod bodau dynol wedi achosi y rhan fwyaf o gynhesu byd eang yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae’r nwyon tŷ gwydr a grëwyd ar lefelau uwch yn awr nag ar unrhyw adeg yn ystod yr 800,000 mlynedd diwethaf. 

 

Mae ein hinsawdd yn newid a chynhesu byd-eang yn broblem gynyddol i wledydd a llywodraethau’r byd. Rhan o’r broblem yw ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac mae’n amserol i wledydd y byd edrych tuag at ffyrdd adnewyddadwy o gynhyrchu'r ynni sydd ei angen arnom i fyw ein bywydau yn y byd modern. 

 

Nid yw adnodd adnewyddadwy yn lleihau pan fo dyn yn ei ddefnyddio a dyna paham mae gwynt, dŵr, yr haul a phlanhigion yn ddeunyddiau delfrydol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.  

 

Yma yng Nghymru, rhai o’r prif ffynonellau ynni adnewyddadwy yw ynni hydro, ynni solar ac ynni gwynt. Yn ogystal mae yna gynlluniau ar y gweill i fanteisio ar gryfder llanw moroedd Cymru i gynhyrchu trydan. 

 

Manteision Ynni Adnewyddadwy 

  • Nid yw’n dod i ben ac mae’n adnewyddol
  • Mae’n lleihau niwed i’r amgylchedd
  • Gallwn ei gynhyrchu’n lleol

 

Anfanteision Ynni Adnewyddadwy 

  • Angen llawer o fuddsoddiad i’w sefydlu
  • Angen gwella’r dechnoleg i’w wneud yn gost-effeithiol
  • Nid yw bob amser yn effeithiol gan fod y tywydd yn newidiol yng Nghymru o ran gwynt a phelydrau’r haul.

 

Yn 2020 bu cynnydd o 2.2% yng nghyfraniad Cymru i’r broses o gynhyrchu egni adnewyddadwy yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys melinau gwynt Llyn Brennig, fferm solar Lamby Way yng Nghaerdydd a chynllun biomas Parc Adfer EfW, Glannau Dyfrdwy.  

 

Tybed beth fydd y cynnydd dros y blynyddoedd nesaf a pha ardaloedd eraill fydd yn cyfrannu at greu ynni adnewyddadwy yng Nghymru? 

Geirfa
Ynni hydro
Llif dŵr yn cael ei ddefnyddio i droi tyrbin i gynhyrchu trydan. 
Ynni solar
Paneli solar yn dal pelydrau gwres a golau’r haul i gynhyrchu trydan. 
Ynni gwynt
Gwynt yn cael ei ddefnyddio i droi troi tyrbinau. Maent yn cael eu gosod ar y tir ac yn y môr.  
Ynni'r llanw
Cryfder llanw’r môr yn cael ei ddefnyddio i droi tyrbinau ar wely’r môr i gynhyrchu trydan. 
1
Testun & llun
2
Testun & llun
4
Linc
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Fideo
8
Fideo
9
Rhyngweithiol