Y Senedd yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru.
Beth yw rôl y senedd?
Mae gan y Senedd bedair swyddogaeth allweddol:
Iaith y Senedd
Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn y Senedd. Nod Senedd Cymru yw bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog lle y gall Aelodau o'r Senedd, y cyhoedd a'r staff ddewis gweithio neu gyfathrebu'n naturiol drwy ddefnyddio'r nail iaith swyddogol neu'r llall neu'r ddwy iaith.
Sut caiff y Senedd ei ethol?
Ceir 60 Aelod o'r Senedd (AS). Cynhelir etholiadau bob pum mlynedd ac mae gan bob etholwr ddwy bleidlais. Dim ond pobl dros 18 mlwydd oed sydd yn cael pleidleisio. Mae’r etholiad nesaf i’w chynnal yn 2021.
Caiff y bleidlais gyntaf ei bwrw ar gyfer Aelod yr etholaeth leol. Mae Aelod yn cael ei ethol i bob un o’r 40 o etholaethau yng Nghymru. Yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill.
Pleidlais i ethol aelodau rhanbarthol yw’r ail bleidlais. Caiff yr Aelodau Rhanbarthol eu hethol drwy fath o Gynrychiolaeth Gyfrannol, ac mae’r etholwyr yn bwrw pleidlais dros blaid wleidyddol. Mae 20 Aelod yn cynrychioli’r pum rhanbarth.
Y pum rhanbarth yw:
Pwy yw eich aelod chi o’r Senedd? Dilynwch y ddolen i gael gwybod!
https://senedd.wales/cy/memhome/Pages/memhome.aspx
Beth mae Aelod o’r Senedd yn ei wneud?
Mae Aelodau o’r Senedd yn gwneud gwaith democrataidd y Senedd; maent yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Gwaith Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys hyd at 12 o Weinidogion a’r Prif Weinidog, sef Mark Drakeford (Llafur) ar hyn o bryd. Mae'r Llywodraeth fel arfer yn cael ei ffurfio o blith y blaid wleidyddol fwyaf, ond weithiau mae'n cynnwys cymysgedd o bleidiau neu aelodau annibynnol.
Un o swyddogaethau pwysicaf Aelodau’r Senedd yw archwilio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae hyn yn cynnwys trafod polisïau, gofyn cwestiynau manwl a cynnal ymchwiliadau ynghylch materion penodol.