Y Chwyldro Pobi!

Y Chwyldro Pobi!

Canllaw Rhiant & Athro
Y Chwyldro Pobi!

Beth yw pobi?

Pobi yw’r dull o goginio gan ddefnyddio aer sych. Er bod pobl gan amlaf yn pobi mewn popty mae hefyd yn bosib pobi mewn lludw neu gerrig poeth.

Beth allwn bobi?

Mae pobl yn pobi amrywiaeth o fwydydd. Yr un mwyaf poblogaidd mae’n siŵr yw bara, ond mae’r dull yma o goginio hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cacennau, crystiau, pastai, cwcis, sgonau, dim ond i enwi rhai. Mae modd pobi rhain yn y cartref neu eu prynu o fecws.

Sut i bobi?

Mae cynnyrch wedi’u pobi fel arfer yn cynnwys blawd, dwr a deunydd codi. Cynhwysion cyffredin arall ydy wyau, olew, llaeth a chynhwysion melys fel siwgr. Mae modd cymysgu’r holl gynhwysion i greu toes yn gyntaf a dylai’r toes yma wedyn sefyll er mwyn sicrhau fod y deunydd codi yn cael amser i ddatblygu. Byddwch yn gwybod pan fydd hyn yn gweithio pan welwch y toes yn codi! Yn aml wedyn bydd angen siapio’r toes, gan ddefnyddio eich dwylo neu dorwyr arbennig, ac yna ei roi yn y ffwrn.

Tystiolaeth hanesyddol o bobi

Yn ôl bob sôn dechreuodd bobl bobi drwy socian glaswellt gwyllt mewn dŵr ac yna ei stwnsio i mewn i bast. Gan nad oedd unrhywbeth tebyg i ffwrn neu bopty ar gael ar y pryd roedd y past yma wedyn yn cael ei roi ar garreg boeth fflat i goginio – roedd y cynnyrch ar y diwedd yn gynnyrch tebyg i fara.

Ni chafodd y ffwrn ei ddyfeisio tan ganrifoedd yn ddiweddarach. Cafodd y ffwrn hynaf ei ddarganfod yng Nghroatia yn 2014. Cred yr arbenigwyr fod y ffwrn yma yn dyddio yn ôl 6,500 o flynyddoedd!

The Great British Bake Off

Mae’r rhaglen deledu yma wedi dod yn boblogaidd iawn ym Mhrydain ac edrychodd 10.87 miliwn o bobl ar y gyfres ddiweddaraf yn 2020. Mae’r rhaglen wedi ysbrydoli llawer o bobl i ddechrau pobi.

Ewch i ateb cwestiynau yn y gêm ryngweithiol i weld faint ydych chi’n ei wybod am The Great British Bake Off!

Geirfa
Becws:
Siop arbennig sy’n gwerthu nwyddau wedi’u pobi.
Cynhwysion:
Y bwydydd gwahanol sydd eu hangen er mwyn coginio rysáit.
Deunydd codi: Cynhwysion
Cynhwysion sy’n achosi’r toes i godi drwy gynhyrchu swigod aer. Enghreifftiau o ddeunydd codi yw burum, powdr codi a soda pobi.
1
Blog
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Linc
6
Cerdyn trump
7
Rhyngweithiol
8
Fideo
9
Fideo