Creadur chwedlonol yw’r bleidd-ddyn. Ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel person digon cyffredin, ond mae’n gallu newid ei siâp o ffurf dyn i ffurf blaidd neu fwystfil sy’n edrych fel blaidd. Gall ddewis gwneud hynny drwy daro bargen â’r Diafol, neu gall y newid ffurf ddigwydd ar ôl i berson gael ei gnoi gan flaidd-ddyn arall. Fel arfer, adeg lleuad lawn mae hynny’n digwydd!
Mae llawer o straeon am fleidd-ddynion yng Nghymru. Un o’r storïau mwyaf adnabyddus yw Bleidd-ddyn Gwenfô.
Un tro, roedd bachgen ifanc yn byw yn ardal Coed y Cymdda ar bwys Gwenfô. Er ei fod e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â merch o bentref Tregatwg gerllaw, penderfynodd briodi merch arall, gan dorri calon ei gariad cyntaf.
Heb yn wybod i’r bachgen, roedd ei gariad cyntaf yn nith i wrach. O weld ei nith mor ddigalon, penderfynodd y wrach ddial ar y bachgen. Felly, ar noson ei briodas, rhoddodd y wrach ei gwregys ar garreg drws cartref y priodfab. Byddai’n rhaid i unrhyw un oedd yn mynd i mewn ac allan o’r tŷ gamu dros y wregys honno. Wrth i’r priodfab a’r briodferch gamu i mewn i’r tŷ noson y briodas, cafodd y bachgen ei droi’n fleidd-ddyn a rhedodd i ffwrdd i guddio yng Nghoed y Cymdda gerllaw.
Bob nos ar ôl hynny, byddai’r bleidd-ddyn yn mynd o’r goedwig i gartref y wrach ac yn udo’n swnllyd o gwmpas y lle. Byddai’n codi ofn ar bawb yn yr ardal, ac roedd ei wraig newydd mor drist ynglŷn â’r holl beth nes iddi farw’n ifanc.
Roedd y wrach yn benderfynol o gael y bachgen yn ŵr i'w nith, felly aeth ati unwaith eto i drawsnewid y bleidd-ddyn yn ôl yn ddyn drwy daflu croen oen wedi'i swyno drosto.
Ond nid dyna ddiwedd y stori. Pan sylweddolodd y wrach pa mor wael roedd y bachgen yn trin ei nith, penderfynodd ei droi’n fleidd-ddyn unwaith eto. Bu farw'r wrach ac nid oedd neb yn y byd yn gallu dadwneud ei gwaith. Treuliodd y bleidd-ddyn naw mlynedd yn y coed cyn iddo gael ei saethu'n ddamweiniol a dod ag arswyd ardal Gwenfô i ben.
Os ydych eisiau cadw bleidd-ddynion draw, mae rhai pobl yn credu ei bod hi’n bosib defnyddio rhyg, uchelwydd, criafol a llysiau’r blaidd (Aconitum napellus) i wneud hynny.