Bwthyn Llainfadyn

Tŷ Unnos

Canllaw Rhiant & Athro
Tŷ Unnos

Roedd y traddodiad o adeiladu tai unnos yn gyffredin ar draws Cymru rhwng y 17eg a 19eg ganrif. Yn ôl y traddodiad, gallai unigolyn hawlio cartref ar dir comin drwy adeiladu tŷ arno rhwng machlud a gwawr y diwrnod wedyn. Er mwyn hawlio’r adeilad a’r tir roedd hi’n ofynnol bod mwg yn codi o’r simdde cyn toriad gwawr. Yn ogystal â hawlio’r tir lle adeiladwyd y tŷ roedd rhai ardaloedd yng Nghymru gyda thraddodiadau a rheolau unigryw i gyd-fynd gyda’r arfer o adeiladu tŷ unnos. Yn ardal Sir Ddinbych roedd adeiladwyr y tŷ yn gallu hawlio tir o amgylch yr eiddo hyd at bellter roeddent yn gallu taflu bwyell o bedair congl y tŷ!


Yn gyffredinol strwythurau syml oedd y waliau wedi eu hadeiladu o blethwaith a dwb neu dywarchen gyda’r to yn cael ei doi a’i orchuddio a gwellt.


Unwaith y byddai’r strwythur wedi ei gwblhau rhwng machlud a chodiad y wawr buasai’r perchennog yn gallu gwella’r strwythur i’r dyfodol. Dros gyfnod o amser byddai’r perchennog yn mynd ati i sicrhau sylfeini cadarn i’r eiddo a’i hadeiladu o gerrig a gosod llechi i’r to. Yn aml iawn roedd gan y bythynnod lawr i greu llofft neu daflod ar gyfer y teulu.


Erbyn hyn does yna ddim llawer o dai unnos wedi goroesi oherwydd ei gwneuthuriad syml. Mae bwthyn Llainfadyn sydd wedi ei adleoli i Amgueddfa Werin Sain Ffagan a’i agor i’r cyhoedd yn 1962 yn enghraifft o dŷ unnos. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol yn 1762 yn Rhostryfan, Gwynedd. Chwarelwr oedd y perchennog gwreiddiol a dros gyfnod o amser rhwng 1762 a 1870 dodrefnwyd y tŷ. Byddai ystafelloedd yn cael eu creu trwy rannu tŷ a dodrefn e.e. dresel, bwrdd neu gwpwrdd bara caws. Dros gyfnod o amser byddai’r perchennog yn ategu at y bwthyn drwy adeiladau feudy a thwlc i gadw moch, buwch ac ieir er mwyn bwydo’r teulu.


Mae’n debyg bod traddodiad o adeiladu tai unnos wedi bodoli yn yr Iwerddon, yr Eidal, Ffrainc a Thwrci dros y canrifoedd.

Geirfa
Taflod:
Taflod yw ystafell wely neu lofft uwchben rhan o’r ystafell oddi tani.
Machlud haul:
Y machlud yw’r enw ar yr adeg pan fo’r haul yn diflannu o’r awyr bob dydd wrth i’r Ddaear droi ar ei hechel.
Plethwaith a dwb:
Mae plethu a dwbio yn ddull adeiladu i greu waliau diddos. Mae gwiail yn cael eu plethu rhwng stanciau pren, cyn gosod clai neu fwd drostyn nhw i gau’r bylchau.
Toriad Gwawr:
Dyma’r adeg sy’n nodi pryd mae’r haul yn dechrau codi
1
Blog
2
Testun & llun
4
Testun
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Cerdyn trump
8
Cyfres o luniau
9
Fideo
10
Rhyngweithiol