Plac coffa trychineb Aberfan

Trychineb Aberfan

Trychineb Aberfan

Pentref yn y De yw Aberfan, tua phedair milltir o Ferthyr Tudful. Tyfodd y pentref, fel cymaint o bentrefi yng nghymoedd y De, o ganlyniad i'r diwydiant glo. 

Ond ddydd Gwener, Hydref 21, 1966, digwyddodd trychineb enbyd yn Aberfan. Llithrodd tomen o sbwriel o'r gweithfeydd glo gan ddinistrio tai a chartrefi. Lladdwyd 116 plentyn a 28 oedolyn.

Dros gyfnod o 50 mlynedd, roedd gwastraff o faes glo Merthyr wedi cael ei daflu ar Fynydd Merthyr, ac er bod pobl wedi ceisio rhybuddio'r awdurdodau gan ddweud nad oedd y domen enfawr yn ddiogel, anwybyddwyd y rhybuddion.

Ar ôl tridiau o law trwm, roedd y domen wedi gwanio a dechreuodd lithro ar ei thaith drychinebus i lawr i'r pentref. Roedd plant Ysgol Pantglas wedi bod yn y gwasanaeth lle buon nhw'n canu 'All Things Bright and Beautiful'; ond toc ar ôl iddynt gyrraedd eu dosbarthiadau llithrodd y mynydd marwol a'u lladd.

Cafwyd achos llys hir ar ôl y digwyddiad a dedfrydwyd fod bai ar yr NCB - (Y Bwrdd Glo - National Coal Board) - am ei esgeulustod. Cynigwyd iawndal o £500 am bob plentyn marw. 

Mae'n anodd dychmygu effaith y drychineb ar y pentref. Mae un adroddiad yn nodi nad oedd rhieni'r plant a oroesodd yn gadael i'w plant fynd allan i chwarae wedi'r drychineb, am fod sŵn lleisiau'r plant byw yn codi gormod o hiraeth ar rieni'r plant marw.

Geirfa
Anwybyddu
Gwrthod cymryd sylw neu ddiystyru rhywbeth yn fwriadol.
Dedfrydu
Datgan cosb i droseddwr.
Iawndal
Rhywbeth (arian fel arfer) sy’n cael ei ddyfarnu i rywun i gydnabod colled, dioddefaint neu anaf.
Trychineb
Damwain sydyn neu ddigwyddiad naturiol sy'n achosi difrod mawr neu golli bywyd.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Cofnod dyddiadur
6
Linc
7
Llythyr
8
Erthygl newyddion
9
Cân / cerdd
10
Linc
11
Rhyngweithiol