Dyddiadur Agustin Ramirez
Mae hi wedi bod yn ddau fis ers i mi weld dad ddiwethaf, ac yfory, gobeithio, fe gaf i ei weld eto. Ers 33 o ddyddiau mae timau wedi bod yn gweithio'n galed, yn drilio twll i'r ddaear mewn ymgais i achub dad a'r 32 dyn arall sydd yno. Maen nhw wedi drilio siafft hir sy'n 66cm mewn diametr ac mae hwnnw'n ymestyn 700m dan y ddaear at y dynion. Y bwriad yw gollwng cawell arbennig i lawr y siafft. Mae'r gawell ddigon mawr i ddal un dyn, felly bydd dad a gweddill y gweithwyr yn cael eu codi o'r ddaear fesul un.
Rydyn ni wedi bod yn gwersylla yng Ngwersyll Gobatih ers wythnos. Er bod cwmwl uwch ein pennau yma, mae pawb yn ymdrechu i gadw hwyliau da ar ei gilydd. Rhaid i mi gael noson dda o gwsg heno, mae yfory yn ddiwrnod mawr a bydd angen pob egni arnaf i.