Estyn llaw

Trechu Pryder

Canllaw Rhiant & Athro
Trechu Pryder

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar tua un ymhob chwech o blant. Mae hyn yn cynnwys iselder, gofid a newid mewn ymddygiad. 

 

Dydy hyd at 75% o’r plant heddiw ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wella eu hiechyd meddwl. 

 

Mae lles meddyliol plant yr un mor bwysig â’u lles corfforol. Mae iechyd meddwl da yn helpu plant i ddatblygu’r gwytnwch i wynebu heriau bywyd, ymdopi â nhw a thyfu’n oedolion iach a chyflawn. 

 

Pethau a all helpu plant a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl:- 

  • Cael iechyd da, bwyta deiet gytbwys a gwneud ymarfer corff yn gyson. 
  • Cael amser a rhyddid i chwarae tu mewn a thu allan. 
  • Bod yn rhan o deulu sy’n cyd-dynnu.  
  • Bod mewn ysgol sy’n edrych ar ôl lles eu disgyblion. 
  • Chwarae rhan mewn gweithgareddau lleol. 

 

Pethau sy’n effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc: 

  • Gall digwyddiad trawmatig effeithio ar blentyn sy’n agored i niwed yn barod. 
  • Gall newid fod yn sbardun megis symud tŷ, newid ysgol neu enedigaeth aelod newydd o’r teulu. 
  • Mae pobl ifanc yn profi gofidiau hefyd pan mae eu cyrff yn newid a datblygu. 

 

Un cwestiwn allweddol i’w drafod ydi a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. 

Geirfa
Deiet gytbwys
Deiet i gynnwys y nifer digonol o faethion amrywiol.
Iselder
Teimlo’n isel o ran eich ysbryd.
Gwytnwch
Y gallu i ddod yn ôl o sefyllfaoedd anodd.
Cyfryngau Cymdeithasol
Gwefannau ac apiau sydd yn galluogi defnyddwyr i greu a rhannu cynnwys neu i gymdeithasu â’i gilydd.
1
Blog
2
Blog
3
Testun & llun
4
Testun & llun
6
Linc
7
Linc
8
Llythyr
9
Cerdyn trump
10
Rhyngweithiol