Golygfa o'r awyr o oleudy Pen-caer, ger Wdig, Sir Benfro

Teithio Cymru

Canllaw Rhiant & Athro
Teithio Cymru

Mae llawer o resymau dros gynnwys Cymru fel cyrchfan i bobl ymweld â hi. Mae ei diwylliant a’i threftadaeth gyfoethog, ei pharciau cenedlaethol, ei gerddi, ei hantur, ei theithiau cerdded, ei bwyd a’i diod yn ei gwneud yn gyrchfan ddymunol iawn i ymwelwyr o bob rhan o'r byd. Gwlad Geltaidd yw Cymru ac mae hi tua 180 milltir o hyd a 60 milltir o led ac wrth ichi deithio o amgylch Cymru mae'r golygfeydd yn newid yn gyson o fynyddoedd i arfordiroedd hardd.

Gan fod rhyw 20% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, mae ymdeimlad cryf o hunaniaeth yn y wlad ddwyieithog.

Mae llawer i'w weld a'i brofi yng Nghymru o dros 600 o gestyll (mae gan bedwar ohonyn nhw Statws Treftadaeth Byd UNESCO), tri pharc cenedlaethol, traethau sydd wedi ennil gwobrau yn ogystal â nifer o drefi marchnad a dinasoedd. Gallwch brofi a mwynhau cefn gwlad ac arfordir helaeth ar hyd nifer o lwybrau cerdded neu feicio. Yng Nghymru mae bron 33,000km o lwybrau cerdded gan gynnwys tri llwybr cenedlaethol a Ffordd yr Arfordir.

Mae'r tri pharc cenedlaethol, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cwmpasu 20% o arwynebedd tir Cymru ac mae gan Gymru bump o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol hefyd. Mae’r mynydd uchaf, Yr Wyddfa, ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’n 1,085 metr o uchder.

Yn y brifddinas, Caerdydd, mae digon i'w weld a'i wneud o ymweld â'r castell, i'r Amgueddfa Genedlaethol, Amgueddfa Werin Sain Ffagan a Stadiwm Principality, sef cartref rygbi Cymru.

Mae'r tywydd yng Nghymru yn fwyn ac amrywiol. Y tymheredd cyfartalog ym misoedd yr haf yw rhyw 2°C a rhyw 6°C ym misoedd y gaeaf.

Dros y blynyddoedd mae Cymru wedi cynnal digwyddiadau byd-eang mawr gan gynnwys Cwpan Ryder yn y Celtic Manor yn 2010, Uwchgynhadledd NATO yn 2014, Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017 a Chwpan Criced y Byd yr ICC yng Ngerddi Sophia, Caerdydd 2019.

Mae Cymru'n croesawu tua 10,000,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys tua 1,000,000 o ymwelwyr rhyngwladol. Am le anhygoel i fyw! Beth sy'n gwneud Cymru'n arbennig i chi?

1
Testun & llun
2
Testun
3
Cofnod dyddiadur
5
Llythyr
6
Linc
7
Testun & llun
8
Fideo
9
Rhyngweithiol