Mae hyd arfordir tir mawr Cymru oddeutu 1,370 milltir (2,205km) a thrwy adio hyn at arfordir Ynys Môn a Ynys Gybi, mae’r cyfanswm oddeutu 1,680 milltir (2,704km). Mae’r arfordiroedd hyn yn gwneud Cymru yn lle delfrydol i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored, yn arbennig syrffio.
Mae Sir Benfro yn fan ddelfrydol i fwynhau gwefr tonnau’r môr gyda syrff Atlantaidd gwych a heriol. Yno mae ysgol syrffio Big Blue a ddechreuwyd gan y syrffiwr enwog Kirsty Jones a’i ffrind. Erbyn heddiw mae cyfleoedd yno i syrffio a phadlfyrddio. Hwn oedd y lleoliad mwyaf godidog i Kirsty Jones ei weld wrth farcudsyrffio ar draws Môr Iweddon o Rosslare i Farloes yn y Gorllewin. Wedi pump awr o fardcudsyrffio a’r gwynt wedi gostegu, tyndra yn cydio, ymddangosodd pâr o ddolffiniaid a nofio wrth ei hochr a’i hannog i gadw i fynd. Yma mae rhai o olygfeydd prydferthaf Cymru wrth agosáu at Ynys Sgomer, ac Ynysweryn (Wormshead).
Mae traethau syrffio Cymru yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid. Dyma i chi restr o’r traethau mwyaf poblogaidd i syrffio yng Nghymru:-