Safle Treftadaeth Byd UNESCO
Beth sydd yn gyffredin rhwng Wal Fawr China, y Taj Mahal yn India, Côr y Cewri yn Wiltshire ac ardal llechi Gwynedd? Wel maent i gyd wedi ennill safle Treftadaeth Byd UNESCO. Ardal llechi Gwynedd yw’r safle diweddaraf i ennill y statws. Hon yw’r pedwerydd Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru sydd wedi cael ei ychwanegu at restr UNESCO. Y tri arall yw Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward I. Mae oddeutu 900 o lefydd ar draws y byd.
O fewn ardal llechi Gwynedd yr ardaloedd penodol i gael y gydnabyddiaeth yma yw Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Dinorwig, Cwm Pennant, Ffestiniog ac Abergynolwyn. Mae’r ardaloedd hyn yn enwog am ddarparu llechi ar draws y byd. Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, “bydd cydnabyddiaeth UNESCO yn gymorth i ddiogelu gwaddol a hanes cymunedau ardal y llechi am genedlaethau i ddod”.
Mae’r cais i ennill y statws yma wedi bod ar waith ers 12 blwyddyn. Yn ardal llechi Gwynedd gwelir tirluniau godidog sy’n golygu rhywbeth i’r ddynoliaeth gyfan. Yn ei hanterth roedd dros 3,000 o bobl yn gweithio yn Chwarel Dinorwig ar lethrau Elidir Fawr yn Nyffryn Peris sef un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd ar un adeg.
Pa well ffordd i anrhydeddu ardal sydd â gwerth allweddol byd-eang?