Tywydd: Heulog, awyr las
Tymheredd: 22 gradd celsiws ganol dydd
Cyfeiriad y gwynt: De Ddwyrain
Cyflymder: 6 m.y.a.
Sôn am ddiwrnod! Rwy’n teimlo fy mod wedi treulio fy amser yn llafurio trwy’r dydd ar amrywiol dasgau. Allwch chi gredu fy mod mor flinedig fel bod fy esgyrn yn brifo! Codais cyn codiad yr haul bore ‘ma gan fod buwch yn dod â llo. Cyn pen dim roedd hi’n amser godro 250 o wartheg ffyddlon yn sefyll yn amyneddgar wrth ddrws y parlwr odro i agor. Fel pob diwrnod arall roedd Nico’r ci defaid ffyddlon wrth fy ochr yn cadw cwmni.
Yn dilyn pwt o frecwast sydyn roeddwn allan ar y tractor. Diwrnod gwair heddiw cyn i’r glaw ddod diwedd wythnos. Braf gweld yr haul er mwyn casglu’r byrnau gwair a’u llwytho yn y sied. Bwydo’r lloi oedd y gwaith ar ôl cyrraedd nôl i’r iard a charthu’r cit moch. Haleliwia amser am de pnawn a thoc o fara a chaws i gadw’r egni am y shifft hwyr!