Cronfa ddŵr Brianne, Sir Gaerfyrddin

Rhaid caru dŵr, neu ei wastraffu!

Canllaw Rhiant & Athro
Rhaid caru dŵr, neu ei wastraffu!

Yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni'n defnyddio 150 litr o ddŵr yr un ar gyfartaledd bob dydd. Mae gennym lawiad uchel yng Nghymru, ac yn aml nid ydyn ni'n meddwl am faint o ddŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio am fod cyflenwad toreithiog o ddŵr glaw gyda ni. 

Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi 825 miliwn litr o ddŵr y dydd i'n gwlad a hynny drwy rwydwaith o bibellau sy’n 26,500km o hyd! 

Mae llawer o waith yn mynd i gynhyrchu'r dŵr sy'n dod allan o'r tap. Rydyn ni'n defnyddio ynni trydan i symud y dŵr o un man i'r llall, trwy bibellau i gartrefi a busnesau neu o amgylch y gweithfeydd trin eu hunain. Trwy fod yn ofalus gyda'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio, rydyn ni'n arbed dŵr ond yn arbed ynni hefyd!  

 

Awgrymiadau a ffeithiau cadwraeth dŵr bob dydd 

  • Mae gadael y tap yn rhedeg am ddwy funud wrth frwsio’ch dannedd yn gallu gwastraffu hyd at 20 litr o ddŵr. 
  • Mae tap sy’n rhedeg yn defnyddio hyd at naw litr o ddŵr y funud. 
  • Gall tap sy'n diferu wastraffu hyd at 30 litr o ddŵr y dydd. 
  • Defnyddiwch bowlen yn y sinc wrth olchi ffrwythau, llysiau neu lestri. Gallwch ddefnyddio'r dŵr gwastraff i ddyfrioch planhigion. 
  • Mae sestonau tai bach hŷn yn defnyddio naw litr o ddŵr am bob fflysh ac mae'r rhai modern yn defnyddio chwe litr. Rhowch fag arbed fflysh yn y seston i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio wrth fflysio. 
  • Mae treulio pum munud yn y gawod yn defnyddio tua hanner llond bath o ddŵr (40 litr). Mae cawod bŵer am bum munud yn defnyddio’r un faint o ddŵr â bath). 
  • Mae teclynnau awyru mewn rhai cawodydd a thapiau newydd. Mae'r rhain yn ychwanegu aer at y dŵr sy'n golygu eu bod yn defnyddio llai o ddŵr o lawer na thapiau a chawodydd safonol. 
  • Mae taenellwyr yn yr ardd yn defnyddio llawer iawn, rhwng 500 a 1000 litrau yr awr. Mae can dyfrio'n dal tua 10 litr. Os llenwch chi'r can dyfrio o gasgen ddŵr, yna mae hynny'n well byth! 

 

Cofiwch: does dim dŵr newydd yn y byd. Rydyn ni’n defnyddio'r un dŵr ag a ddefnyddiodd y deinosoriaid! Y tro nesaf y byddwch yn agor y tap, defnyddiwch gymaint o ddŵr ag sydd ei angen arnoch ond peidiwch â'i wastraffu! 

Geirfa
Litr
Mae litr yn uned fetrig o gyfaint. Mae 1 litr yn hafal i 1 desimetr ciwbig. 1 litr yw cyfaint ciwb sy'n 10 cm x 10cm x 10cm.
Miliwn
Mae miliwn yn nifer sy'n hafal i 1,000 lluosi 1,000.
Seston
Tanc i storio dŵr ar gyfer cyflenwi tapiau neu fel rhan o doiled fflysio yw seston.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
4
Testun
5
Linc
6
Linc
7
Llythyr
8
Erthygl newyddion
9
Cyfres o luniau
10
Rhyngweithiol