Yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni'n defnyddio 150 litr o ddŵr yr un ar gyfartaledd bob dydd. Mae gennym lawiad uchel yng Nghymru, ac yn aml nid ydyn ni'n meddwl am faint o ddŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio am fod cyflenwad toreithiog o ddŵr glaw gyda ni.
Mae Dŵr Cymru yn cyflenwi 825 miliwn litr o ddŵr y dydd i'n gwlad a hynny drwy rwydwaith o bibellau sy’n 26,500km o hyd!
Mae llawer o waith yn mynd i gynhyrchu'r dŵr sy'n dod allan o'r tap. Rydyn ni'n defnyddio ynni trydan i symud y dŵr o un man i'r llall, trwy bibellau i gartrefi a busnesau neu o amgylch y gweithfeydd trin eu hunain. Trwy fod yn ofalus gyda'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio, rydyn ni'n arbed dŵr ond yn arbed ynni hefyd!
Awgrymiadau a ffeithiau cadwraeth dŵr bob dydd
Cofiwch: does dim dŵr newydd yn y byd. Rydyn ni’n defnyddio'r un dŵr ag a ddefnyddiodd y deinosoriaid! Y tro nesaf y byddwch yn agor y tap, defnyddiwch gymaint o ddŵr ag sydd ei angen arnoch ond peidiwch â'i wastraffu!