Cyfarchion mewn nifer o ieithoedd

Pob iaith dan Haul

Canllaw Rhiant & Athro
Pob iaith dan Haul

Sawl gwaith ydych chi wedi clywed bod dysgu a siarad Saesneg yn bwysig? Byddai pobl yn arfer dweud ei bod yn rhaid cael Saesneg ‘i ddod ymlaen yn y byd’. Ond pa mor wir ydy hynny erbyn heddiw tybed? 

Mae’r rhestr isod yn dangos dosraniad 5 o’r ieithoedd swyddogol neu iaith gyntaf mwyaf poblogaidd yn y byd.

  1. Mandarin (909 miliwn)
  2. Sbaeneg (460 miliwn)
  3. Saesneg (379 miliwn)
  4. Hindi (341 miliwn)
  5. Arabeg (315 miliwn)

Does dim sôn am Gymraeg! Iaith leiafrifol ydy’r Gymraeg, iaith sy’n cael ei siarad gan leiafrif poblogaeth y wlad. Ond coeliwch neu beidio, mae 60 o ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop yn unig (heb sôn am weddill y byd) gyda dros 40 miliwn o bobl yn eu siarad.

Iaith Geltaidd ydy’r Gymraeg. Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae’r ieithoedd Celtaidd yn cael eu rhannu yn Frythoneg – Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg – a Goideleg, sef Gaeleg, Gwyddeleg a Manaweg. Y gwledydd sy’n cael eu hadnabod fel "gwledydd Celtaidd" heddiw ydy’r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin Ewrop – yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw a Llydaw.

Yn ystod mis Awst 2016 cyhoeddodd Prif weinidog Cymru fanylion ymgyrch Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rydym yn genedl sy'n ymfalchïo yn ein dwyieithrwydd. Mae cymunedau bywiog Cymraeg eu hiaith yn cyfrannu at amrywiaeth y wlad, gan wneud Cymru'n wlad heb ei hail i fyw ynddi neu ymweld â hi. 

Mae’r Arolwg Poblogaeth Flynyddol a gyhoeddwyd ym Mehefin 2020 yn nodi bod 28.5% o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg. O ran y boblogaeth gyfan hon mae’n cyfateb i 861,700 bobl. Ymlaen at y miliwn felly!

Geirfa
Cenedl
Cenedl yw grŵp mawr o bobl sy’n byw mewn un ardal neu wlad gyda’u llywodraeth eu hunain, iaith, diwylliant a thraddodiadau amrywiol.
Dosraniad
Dosraniad yw’r sut mae rhywbeth wedi ei rannu ymysg nifer penodol.
Lleiafrifol
Lleiafrifol yw’r nifer sy’n cynrychioli llawer llai na hanner y cyfanswm cyfan.
Mandarin
Mandarin yw’r iaith sydd yn cael ei siarad yn ardaloedd gogleddol a de-orllewinol Tsieina.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
4
Testun
5
Linc
6
Erthygl newyddion
7
Cân / cerdd
8
Fideo
9
Rhyngweithiol