Sawl gwaith ydych chi wedi clywed bod dysgu a siarad Saesneg yn bwysig? Byddai pobl yn arfer dweud ei bod yn rhaid cael Saesneg ‘i ddod ymlaen yn y byd’. Ond pa mor wir ydy hynny erbyn heddiw tybed?
Mae’r rhestr isod yn dangos dosraniad 5 o’r ieithoedd swyddogol neu iaith gyntaf mwyaf poblogaidd yn y byd.
Does dim sôn am Gymraeg! Iaith leiafrifol ydy’r Gymraeg, iaith sy’n cael ei siarad gan leiafrif poblogaeth y wlad. Ond coeliwch neu beidio, mae 60 o ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop yn unig (heb sôn am weddill y byd) gyda dros 40 miliwn o bobl yn eu siarad.
Iaith Geltaidd ydy’r Gymraeg. Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae’r ieithoedd Celtaidd yn cael eu rhannu yn Frythoneg – Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg – a Goideleg, sef Gaeleg, Gwyddeleg a Manaweg. Y gwledydd sy’n cael eu hadnabod fel "gwledydd Celtaidd" heddiw ydy’r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin Ewrop – yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw a Llydaw.
Yn ystod mis Awst 2016 cyhoeddodd Prif weinidog Cymru fanylion ymgyrch Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rydym yn genedl sy'n ymfalchïo yn ein dwyieithrwydd. Mae cymunedau bywiog Cymraeg eu hiaith yn cyfrannu at amrywiaeth y wlad, gan wneud Cymru'n wlad heb ei hail i fyw ynddi neu ymweld â hi.
Mae’r Arolwg Poblogaeth Flynyddol a gyhoeddwyd ym Mehefin 2020 yn nodi bod 28.5% o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg. O ran y boblogaeth gyfan hon mae’n cyfateb i 861,700 bobl. Ymlaen at y miliwn felly!