Awyrlun o Lundain

Perthynas Llundain â Chymru

Canllaw Rhiant & Athro
Perthynas Llundain â Chymru

A wyddoch chi fod dros ddwbl poblogaeth Cymru yn byw yn Llundain? Mae hyn yn wahaniaeth enfawr gan ystyried fod Cymru dros ddeuddeg gwaith maint Llundain mewn km2!!

Llundain yw dinas fwyaf Prydain Fawr. Mae ganddo 32 o fwrdeistref. Rhwng canol y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif Llundain oedd y ddinas fwyaf yn y byd.

Ffeithiau diddorol am Lundain:

  • Agorwyd y trên tanddaearol Y Tiwb yn 1863. Mae 1.37 biliwn o deithwyr yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Mae’r holl rwydwaith yn 402km o hyd.
  • Mae 72 biliwnydd yn byw yn Llundain (mwy nag unrhyw ddinas arall yn y byd).
  • Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lladdodd Sw Llundain bob anifail gwenwynig oedd ganddynt rhag ofn y byddai’r sw yn cael ei fomio a byddai’r anifeiliaid yn dianc.
  • Mae mwy na 300 o ieithoedd yn cael eu siarad yn Llundain.
  • Prifysgol Llundain oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i adael menywod astudio yno.

Gwlad yw Cymru ac mae ganddi 22 sir.

Ffeithiau diddorol am Gymru:

  • Mae gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y Ewrop.
  • Cafodd Everest ei enwi ar ôl y Cymro Syr George Everest.
  • Mathemategydd o Gymru wnaeth ddyfeisio’r arwydd mathemategol ‘=’.
  • Cymru oedd y wlad gyntaf i ennill y Gamp Lawn. Fe faeddon nhw Iwerddon yn y gêm derfynol yn 1908 ond nid oedden nhw yn gwisgo eu cit traddodiadol gan fod rhywun wedi pacio'r un anghywir!
  • Cafodd y siec gyntaf o filiwn o bunnoedd ei arwyddo yng Nghaerdydd yn 1904

Dyma pa mor bell yw Llundain o ddinasoedd Cymru:

Dinasoedd

Pellter o Lundain

Casnewydd

138 milltir

Caerdydd

151 milltir

Abertawe

188 milltir

Llanelwy

242 milltir

Tyddewi

257 milltir

Bangor

274 milltir

Mae llawer o gysylltiadau rhwng Cymru a Llundain, o’r bobl enwog i’r adeiladau, o’r canu i’r ysgolion, o’r llaeth i’r Quidditch. Yn 2017 coeden Nadolig o Gŵyr oedd yn sefyll tu allan i 10 Downing Street. Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru hyd yn oed wedi ymweld â Llundain ddwywaith! Dyma gyfle i ddysgu fwy am brifddinas Lloegr, i ystyried y cysylltiadau Cymreig ac i gymharu’r ddinas enfawr boblog gyda’n gwlad fach ni.

Geirfa
Caerdydd:
Caerdydd yw prifddinas Cymru.
Llundain:
Llundain yw prifddinas Lloegr.
Poblogaeth:
Y nifer o bobl sy’n byw mewn un man. e.e Poblogaeth Cymry yn 2019 oedd 3,152,879.
Biliwnydd (billionaire):
Biliwnydd yw rhywun sydd werth £1,000,000,000.
Poblog:
Poblog yw ardal lle mae llawer o bobl yn byw.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Erthygl newyddion
5
Cyfres o luniau
6
Fideo
7
Fideo
8
Fideo
9
Rhyngweithiol