Annwyl ddyddiadur,
Wel, am ddiwrnod!! Dwi yma, dwi wedi cyrraedd Mecca!! Mae’r peth yn anghredadwy! Ar ôl yr holl safio arian a chynllunio mae’n braf cael trafeilio gyda fy nghyd Fwslemiaid a chael cyrraedd yma o’r diwedd.
I ddechrau roedd rhaid i bawb wisgo mewn gwyn ac roedd pawb yn gweddïo. Yna cymeres i ran yn y Tawaf sef cerdded o gwmpas y Kab’ah saith gwaith – roedd yn anferth a chymrodd llawer o amser. Roedd y balchder oeddwn i’n teimlo wrth wneud hyn yn amlwg ar fy ngwyneb. Roeddwn hefyd yn teimlo rhyddhad fy mod yn dilyn cyfarwyddiadau Allah o’r Qur’an, a’r peth gorau? Doeddwn ddim ar fy mhen fy hun! Roedd pawb yno am yr un rheswm – am deimlad gwefreiddiol!
Wedyn, yfais ddŵr o ffynnon Zamzam. Roeddwn yn ymwybodol o’r ffynnon yma yn barod o’r stori yn y Qur’an gan ei fod wedi cael ei greu er mwyn osgoi fod Ishmael yn marw o syched. Pwy a ŵyr pam, ond roedd y dŵr yn blasu yn eithaf melys.
Ar ôl hynny, troediais yr un daith â Hagar yn y Qur’an! Cerddais rhwng dau fryn saith gwaith. Does dim syndod fy mod wedi blino’n lân heno!!
Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod bythgofiadwy!