Llysiau Tymhorol

O’r pridd i’r plât

Canllaw Rhiant & Athro
O’r pridd i’r plât

Ydych chi erioed wedi meddwl o ble mae’r bwyd ar eich plât wedi dod?

  • Pa fwydydd sy’n cael eu cynhyrchu yma, yn y Deyrnas Unedig?  
  • Pam ydyn ni’n mewnforio ac allforio bwyd o wahanol wledydd?  
  • Pa mor bell mae’r bwydydd wedi teithio?  
  • Beth yw effaith hynny ar ein planed a bywyd bob dydd?  
  • Oes yna ateb i’r problemau?  
  • Sut gall y llywodraeth gyd-weithio gyda cynhyrchwyr, prynwyr, gwyddonwyr ac amgylcheddwyr i wella’r sefyllfa?  

Sut gall y llywodraeth gyd-weithio gyda cynhyrchwyr, prynwyr, gwyddonwyr ac amgylcheddwyr i wella’r sefyllfa?

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gweld twf mawr yn y diddordeb mewn garddio. Yn ystod y cyfnod clo mae gerddi wedi dod yn llefydd pwysicach nag y buon nhw erioed. Gyda pobl yn gwerthfawrogi yr ardal tu allan maent wedi bod yn arbrofi gyda tyfu llysiau, ffrwythau a phlanhigion o bob math mewn gwelyau yn y gerddi, mewn potiau yn yr iard gefn neu hyd yn oed mewn bocsys ar sil y ffenest.

Mae gerddi yn lle pwysig i bryfed a pheillwyr allu ymweld â nhw.

Mae blodau yn bwysig i’r peillwyr ac mae peillwyr fel cacwn, gwenyn, pryfed hofran ac ati yn hanodol i’r bwyd yr ydym yn ei fwyta.

Mae tyfu llysiau a phlannu coed ffrwythau yn yr ardd yn ein galluogi ni i fyw bywyd fwy hunangynhaliol ac i leihau ôl troed carbon. Mae rhandiroedd a gerddi cymunedol hefyd yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ar gyfer tyfu amrywiol fwydydd tymhorol.

Mae rhaglenni garddio wedi dod yn boblogaidd ar y teledu a nifer o wefannau yn cynnig cynghorion ar suti dyfubwyd a phlanhigion yn llwyddiannus.

Mae clybiau garddio yn boblogaidd yn ein hysgolion ac mae ambell i arbenigwr fel Adam Jones o Ddyffryn Aman yn cynnig hyfforddiant ar arddio i arddwyr hen a newydd drwy gyfrwng fideos, erthyglau a blogiau.

Geirfa
Mewnforio
Mewnforio yw’r broses fasnachol o dderbyn nwyddau neu wasanaethau o wlad arall.
Allforio
Allforio yw’r broses fasnachol o anfon nwyddau neu wasanaethau i wlad arall.
Peilliwr
Mae peilliwr yn anifail sy'n symud paill o'r anther gwryw ar flodyn i’r stigma benyw ar flodyn.
Rhandir
Rhandir yw llain o dir a ddefnyddir gan unigolyn ar gyfer tyfu llysiau neu flodau.
1
Cofnod dyddiadur
2
Linc
3
Linc
4
Linc
5
Testun & llun
6
Llythyr
7
Testun & llun
8
Testun & llun
9
Fideo
10
Linc
11
Rhyngweithiol