Annwyl deulu,
Mae plant ein dosbarth ni yn ysgol Llanonnen wedi bod yn astudio bwyd a ffermio y tymor hwn. Rydym wedi ymweld a fferm leol ac wedi gweld peiriannau mawr y fferm yn codi tatws a’u storio yn y siediau. Hefyd roedd cae yno yn llawn moron a betys. Rydym am ddysgu coginio rhai llysiau.
Yn anffodus, mae llawer iawn o rieni yn methu fforddio prynu bwydydd i gynnal eu teuluoedd. Mae hynny, am eu bod yn methu cael gwaith.
Byddwn yn cyflwyno gwasanaeth Diolchgarwch yn yr eglwys ar 25 Hydref i ddiolch am bopeth a gawsom eleni. Bydd croeso i rieni ddod i’r gwasanaeth a bydd cyfle i’w weld ar Zoom ond ichi gysylltu efo Mrs Francis i gael y cyfrinair cyswllt Zoom. Fel rhan o’r gwasanaeth rydym am gasglu bwydydd sych ar gyfer y Banc bwyd sydd yn y dre.
Tybed a fyddech yn hoffi neu yn fodlon cyfrannu un neu ddau baced/tun/can o fwyd at y Banc yma. Os cawn ychydig o roddion bydd dau aelod o’n dosbarth ni yn cael mynd i’r Banc bwyd i helpu am fore ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’n gweithio ac yn cefnogi’r gymdeithas leol.
Yr eiddoch yn gywir,
Mali, Jessica a Max.