Cofiwch Dryweryn
Mae hi’n dawel iawn yma. Mae popeth yn barod ac yfory bydd y cart yn dod i symud ein pethau ni i gartref newydd – ond dydyn ni ddim eisiau mynd. Dw i ddim eisiau mynd. Dydy’r plant ddim eisiau mynd a dydy pobl y pentref ddim eisiau mynd. Ond rhaid i ni fynd achos mae pobl Lerpwl eisiau dŵr!
Mae popeth wedi cau. Mae bywyd y pentref wedi gorffen. Mae’n boenus! Mae’n rhy boenus! Rydyn ni wedi protestio. Rydyn ni wedi bod i Lerpwl yn protestio ond dydy pobl Lerpwl ddim eisiau gwybod – achos maen nhw eisiau dŵr.
A rŵan, dyma fi yn yr ystafell fach yn pacio popeth – achos dw i’n mynd i gartref newydd yfory, ond dw i ddim eisiau mynd! Yn yr ystafell yma mae fy mhlant i wedi bwyta ... ac wedi chwarae. Dyma ble rydyn ni wedi byw fel teulu – dyddiau hapus, gwych! Ond dim mwy!
Mae’r peiriannau mawr yn gwneud sŵn ofnadwy yn mynd i fyny ac i lawr y ffordd. Dw i’n teimlo’n ofnus ac yn nerfus – ac yn drist ofnadwy achos yfory bydd y cartref yma’n gerrig ar y llawr. Ac yna, cyn bo hir, bydd y dŵr yn dod a bydd ein pentref bach ni – ein pentref annwyl ni – o dan y dŵr – achos mae pobl Lerpwl eisiau dŵr ...
Nos da. Na, ddim “Nos da” ond “Hwyl fawr!”