Tu mewn i'r cwch gwenyn

O Ble daw Mêl? 

Canllaw Rhiant & Athro
O Ble daw Mêl? 

Mae hi’n anodd dweud yn union am ba mor hir mae mêl wedi bod mewn bodolaeth, gan ei fod mor bell yn ôl. Mae paentiadau mewn ogof yn Sbaen yn dangos tystiolaeth fod dynoliaeth wedi bod yn cadw gwenyn ers 7000 o flynyddoedd Cyn Crist (CC). Fodd bynnag, mae ffosiliau o wenyn wedi eu darganfod a’u dyddio yn ôl i oddeutu 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’n anhygoel meddwl bod hudoliaeth a phwysigrwydd mêl mewn hanes yn deillio mor bell yn ôl! 

 

Mae'r cofnod cynharaf o gadw gwenyn yn eu cychod gwenyn yn dod o deml o’r enw ‘Teml yr haul’ ger Cairo yn yr Aifft ac mae’n dyddio yn ôl i 2400CC. Mae lluniau o wenyn yn ymddangos yn aml mewn hieroglyffau yn yr Aifft ac roeddent yn cael ei ffafrio gan y Pharoaid ac yn cael eu symboleiddio ar lefel frenhinol. 

 

Roedd yr Eifftiaid hynafol yn defnyddio mêl fel melysydd ac fel rhodd i'w duwiau, a hyd yn oed fel cynhwysyn mewn hylif pêr-eneinio corff yn dilyn marwolaeth. Byddai’r Eifftiaid yn coginio cacennau gan ddefnyddio mêl fel un o’r cynhwysion a’i chynnig i’w duwiau fel offrwm i’w tawelu. Yn ddiweddarach, bu i’r Groegiaid ddilyn yr un traddodiad gyda’u duwiau hwythau. 

 

Roedd y Groegiaid yn gweld y mêl yn bwysig nid yn unig fel rhan o’u bwyd, ond hefyd fel rhan o’u meddyginiaeth i iacháu gwendid. Mae tystiolaeth o fêl yn cael ei ddefnyddio mewn ryseitiau Groegaidd hynafol, gan gynnwys cacennau mêl a chacennau caws a mêl. 

 

Yn ogystal, roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio mêl fel rhodd i'r duwiau ac roeddent yn ei ddefnyddio’n helaeth wrth goginio. Drwy gydol yr ymerodraeth Rufeinig, bu i’r broses o gadw gwenyn ffynnu gyda’r Rhufeiniaid.  

 

Unwaith cafodd Cristnogaeth ei sefydlu, bu cynnydd aruthrol yn y defnydd o fêl a chŵyr i ateb y galw ar gyfer canhwyllau eglwys. 

 

Gyda dyfodiad siwgr yn ystod cyfnod mewn hanes o’r enw Dadeni, golygai fod y defnydd o fêl wedi lleihau. Yn yr 17eg ganrif defnyddiwyd siwgr yn fwy ar gyfer melysu diodydd a bwydydd. 

 

Am wybodaeth bellach ar wenyn cysylltwch â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru. Mae’r mudiad yn cydweithio gyda nifer o gymdeithasau amrywiol, gan gynnwys ysgolion, i hybu’r wenynen yng Nghymru. https://wbka.com/

Geirfa
Cyn Crist (CC)
Mae CC yn dynodi'r nifer o flynyddoedd cyn i Crist gael ei eni
Cŵyr gwenyn
Y cŵyr mae’r gwenyn yn ei ddefnyddio wrth adeiladu diliau mêl mewn cychod
Ffosil
Gweddill wedi'i gadw, argraff neu olion o rywbeth byw o'r gorffennol
Heiroglyff
Mae hieroglyff yn gymeriad yn system ysgrifennu hynafol yr Aifft
1
Blog
2
Cofnod dyddiadur
3
Fideo
4
Linc
5
Erthygl newyddion
6
Cân / cerdd
7
Testun & llun
8
Fideo
9
Fideo
10
Rhyngweithiol