Storm y ganrif
Roedd storm ofnadwy neithiwr. Roedd y corwynt yn gryf ac mae llawer o ddifrod i’w weld yn yr ardal.
Bu llongddrylliad ar y creigiau ger Porth Alerth. Tua un ar ddeg o’r gloch y nos, angorodd y Royal Charter oddi ar yr arfordir. Roeddwn yn gorwedd yn y gwely pan welais olau yn yr awyr. Roeddwn yn gwybod bod rhywun mewn perygl. Codais ac es allan i geisio cynorthwyo. Roedd hi’n gwbl amhosib i unrhyw gwch neu long fentro allan i roi cymorth. Am tua 1 o’r gloch y bore cafodd y llong ei gwthio tuag at y draethell gan fod y ddwy gadwyn oedd yn ei chlymu wedi torri.
Rhedais o gwmpas y pentref i geisio trefnu cymorth. Yn y cyfamser, nofiodd un o’r dynion o’r llong i’r lan gyda rhaff, a dechreuodd rhai pobl ddod oddi ar y llong, gan ddefnyddio’r rhaff. Aeth tua 28 o bobl y pentref i lawr i’r traeth i geisio cynorthwyo. Ond yna, cafodd y llong ei hyrddio ar y creigiau a boddodd y rhan fwyaf o’r bobl oedd arni.
Mae’n debyg bod rhai pobl wedi neidio i’r dŵr ac wedi ceisio nofio i’r lan ond methon nhw gan eu bod wedi llenwi eu pocedi ag aur ac wedi gwisgo gwregysau yn llawn aur.
Mae cyrff rhai o’r bobl druenus wedi cyrraedd y traeth erbyn hyn – tybed faint mwy sydd i ddod?