Dathliadau’r 100

Mudiad yr Urdd yn 100 oed

Canllaw Rhiant & Athro
Mudiad yr Urdd yn 100 oed

Mae gan bob ysgol yng Nghymru gyswllt gyda’r Urdd. Mae’r Urdd yn fudiad sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922 ac eleni bydd y mudiad yn dathlu ei ganmlwyddiant.  

 

Bwriad Syr Ifan ar y dechrau oedd amddiffyn yr iaith Gymraeg. Er bod dros filiwn o bobl yn siarad Cymraeg ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd Syr Ifan yn poeni nad oedd plant yn cael digon o gyfleoedd i fwynhau siarad yr iaith tu allan i’r cartref. 

 

Ers hynny, mae’r Urdd wedi mynd o nerth i nerth ac wedi dathlu sawl carreg filltir. Agorwyd Adran gyntaf yr Urdd yn Treuddyn Sir Y Fflint ym 1922 ac adran gyntaf De Cymru yn Abercynon ym 1924. 

 

Penderfynodd Syr Ifan gynnal gwersylloedd i’r aelodau gan ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac ar ôl arbrofi gyda gwersyll symudol agorwyd gwersyll sefydlog cyntaf yr Urdd yn Llangrannog ym 1932, a Glan-llyn ym 1950. Erbyn heddiw mae’r gwersylloedd yn cynnig pob math o brofiadau i ieuenctid Cymru o lethr sgïo i farchogaeth i hwylio a chanŵio ar Lyn Tegid ac, yn ôl gwefan yr Urdd, mae 49,000 yn ymweld â'r gwersylloedd bob blwyddyn! Fe ymddangosodd y cymeriad hoffus Mr Urdd am y tro cyntaf ym 1976 a bydd ei bresenoldeb yn siŵr o fod yn amlwg yn nathliadau canmlwyddiant. 

 

Ydych chi erioed wedi mynychu Eisteddfod neu fabolgampau’r Urdd? 

 

Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yr Urdd yng Nghorwen ym 1929 a’r mabolgampau ym 1932. 

 

Os ewch chi ar wefan presennol yr Urdd fe welwch fod y mudiad yn cynnig llawer mwy i’w haelodau yma yng Nghymru a dramor. Mae’r Urdd wedi sefydlu partneriaethau ar draws y byd, un o’r rhain yw Disneyland ym Mharis ble mae cyfle i aelodau gymryd rhan mewn gweithgareddau yno yn ystod dathliadau Cymreig y parc ar Fawrth 1af. Mae Mistar Urdd a Mickey Mouse yn ffrindiau mawr! 

 

Dethlir y canmlwyddiant gydol 2022 ble bydd yr Urdd yn “cydnabod y gorffennol ac arloesi at y dyfodol.” 

Geirfa
Canmlwyddiant
Y diwrnod neu'r flwyddyn sy'n syrthio 100 mlynedd ar ôl digwyddiad pwysig.
1
Cofnod dyddiadur
2
Cofnod dyddiadur
3
Llythyr
4
Erthygl newyddion
5
Cerdyn trump
6
Cyfres o luniau
7
Fideo
8
Fideo
9
Fideo
10
Testun & llun
11
Rhyngweithiol