Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli pa mor gyflym mae cyfathrebu wedi newid dros y ganrif ddiwethaf, ac yn enwedig dros y ddau ddegawd diwethaf. Dim ond o fewn yr ugain mlynedd diwethaf y mae llawer o bobl yn gallu cario llond byd o wybodaeth a dulliau cyfathrebu personol yn eu dwylo lle bynnag y bôn nhw!
Efallai ei bod yn anodd credu mai dim ond ers 2007 mae'r ffôn iPhone a’r ffôn Android ar gael; mewn gwirionedd mae rhai'n dweud mai dyma'r flwyddyn y newidiodd y byd i gyd. Allwch chi ddychmygu byd heddiw heb ebost, y rhyngrwyd a negeseua gwib, fideo a galwadau yn eich dwylo a’r rheiny ar gael bob amser?
Cyn y cynnydd ym mhoblogrwydd y ffôn symudol, pe baech chi i ffwrdd o'ch ffôn cartref, byddech chi’n gorfod cael darnau arian yn eich poced a chwilio am "Flwch Ffôn" coch a oedd wedi'i gysylltu â rhwydwaith gwifrau Swyddfa'r Post.
Mae rhai o'r blychau coch hyn yn dal ar gael – ydych chi wedi gweld un rywle?
Cyn bod y ffôn llais ar gael, roedd yr un math o system wifrau’n cael ei defnyddio ar gyfer rhywbeth o'r enw "telegraffiaeth" a oedd yn anfon negeseuon o un lle i'r llall. Dyma lle byddai gweithredwyr wedi’u hyfforddi yn defnyddio 'Cod Morse', sef cyfres o glychau neu lampau yn fflachio'n fyr ac yn hir i anfon negeseuon.
Pan gafodd y ffonau diwifr cyntaf neu'r "ffonau celloedd" eu cyflwyno maes o law roedden nhw mor fawr fel eu bod fel arfer yn cael eu gosod mewn car neu gerbyd arall. Dyna sut cododd yr enw "Carphone Warehouse" yn wreiddiol.
Yn y rhifyn hwn mae Sofia wedi ymchwilio ymhellach oherwydd bod ei mam wedi addo ffôn symudol iddi ac felly mae Sofia wedi dod o hyd i’w chanfyddiadau wrth iddi ystyried y datblygiadau yn y ganrif ddiwethaf ac yn enwedig yn yr ugain mlynedd diwethaf.
Allwch chi fynd ati, fel Sofia, i ddychmygu sut beth fyddai bywyd a gwaith dysgu heb y dechnoleg hon – yn enwedig ar adegau pan fo pandemig ar gael ac nad yw'n ddiogel bod yn rhy agos at bobl eraill?
Blog Sofia – fy ymchwil i fy hun i'r newidiadau mewn cyfathrebu personol dros y ddwy ganrif ddiwethaf!
Mae Mam yn dweud y galla i gael ffôn symudol newydd pan fydda i’n troi'n un ar ddeg oed. Bydd angen imi fod yn ofalus iawn i beidio â'i golli ac yn ymwybodol iawn o'r goblygiadau o ran diogelwch! Dwi wedi bod yn ymchwilio i wahanol fodelau er mwyn gwneud y dewis gorau. Penderfynes i edrych yn ôl ar hanes cynnydd a phwysigrwydd cyfathrebu radio yng Nghymru, gan chwilio ar y Rhyngrwyd. Dyma beth dwi wedi’i ganfod:
Mae'r prif gystadleuydd i'r iPhone yn defnyddio system weithredu o'r enw Android, sydd wedi'i datblygu gan Google. Nawr mae angen i mi benderfynu pa un yr hoffwn i ei gael, meddai mam; tra bydd hi'n cynilo i’w brynu!
Yn y mathau eraill o hen ffonau symudol, dim ond rhifau oedd ar yr allweddi. I gael llythrennau gwahanol i’w defnyddio mewn neges destun byddai'n rhaid ichi bwyso'r allweddi fwy nag unwaith o’r bron – dwi ddim yn siŵr y gallwn i ymdopi â hyn gyda’r llwyth o negeseuon testun dwi’n gobeithio eu hanfon!
Allwch chi ddefnyddio ffôn hen ffasiwn?
Cyn inni gael ffonau symudol a ffonau digidol modern, roedd y rhan fwyaf o ffonau’n defnyddio mecanwaith deial â sbring. Efallai y gwelwch chi un o hyd mewn ambell fan.
I wneud galwad ffôn roedd angen i chi ddilyn y camau a amlinellir isod.
Beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu?
Allwch chi benderfynu pa ddull cyfathrebu yw’r un gorau i'w ddefnyddio i ymateb ym mhob achos? Ystyriwch pa mor gyflym mae angen ymateb, ydy'r person rydych chi’n cysylltu â nhw yn gallu gweld neu glywed eich neges a beth fydd cost y neges.
Atebion ar gael:
Mewn rhai achosion, efallai bod mwy nag un ateb ar gael:
A. Mae eich mam yn siopa yn y dref – rydych chi newydd gofio bod arnoch chi angen pad nodiadau newydd ar gyfer yr ysgol.
B. Rydych chi wedi cael llythyr mewn llawysgrifen gan eich hen fodryb sydd wedi anfon arian atoch ar eich pen-blwydd.
C. Mae eich ffrind wedi’ch gwahodd mewn neges destun i fynd i'r sinema gyda hi a'i theulu. Mae angen iddi wybod yn gyflym a allwch chi fynd ai peidio.
CH. Rydych chi wedi cael llythyr gan yr ysgol yn gofyn a oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan yn yr eisteddfod leol.
D. Rydych chi eisiau anfon ffotograffau digidol o'r dref leol at eich ffrind gohebu.
DD. Rydych chi eisiau anfon cyflwyniad PowerPoint rydych chi wedi'i greu at eich ffrind sy'n byw ymhell i ffwrdd.
E. Mae angen ichi gwyno i gwmni archebu drwy'r post am nwyddau diffygiol maen nhw wedi'u hanfon atoch.
F. Rydych chi am archebu “pryd ar glud" oddi wrth siop fwyd gyflym leol.
FF. Rydych chi am ganslo apwyntiad yn y ddeintyddfa.
G. Rydych chi eisiau cysylltu â'ch papur lleol gyda hysbyseb i werthu'r pryfed brigyn rydych chi wedi'u bridio eich hun.
NG. Mae angen ichi anfon eich gwaith cartref ar-lein i'r ysgol.
Atebion
Cwestiynau ar Flog Sofia – beth rydych chi'n ei gofio?
Allwch chi helpu Sofia i gofio'r dyddiadau y dechreuodd gwahanol ddyfeisiau gael eu defnyddio’n eang. Mae hi eisoes wedi rhestru'r rhain yn ei blog ond mae angen ei hatgoffa hi!
1. Ym mha flwyddyn roedd yr iPhone ar gael gyntaf?
2. Dyw Sofia ddim yn gallu cofio pryd anfonodd Marconi neges am y tro cyntaf ar draws Môr Hafren gan ddefnyddio rhywbeth o'r enw Cod Morse. Dywedodd Tad-cu fod hyn yn cyfateb i'r neges destun gyntaf! Ym mha flwyddyn anfonodd Marconi y neges hon?
3. Pan ddywedodd Sofia wrth Tad-cu ei bod yn gobeithio cael ffôn symudol, dywedodd Tad-cu ei fod e wedi bod yn gweithio i Swyddfa’r Post yn ôl yn y 1950au. Pa swydd oedd ganddo:
4. Wrth wneud ei hymchwil ar hanes telathrebu, fe welodd Sofia fod y neges delegraff danddwr gyntaf o Gymru i Iwerddon ac yna ymlaen i America wedi cael ei hanfon o draeth yn Sir Benfro. Pa draeth:
5. Cafodd yr iPhone ei ddyfeisio gan Apple Computers yn yr Unol Daleithiau. Mae eu prif gystadleuydd nhw’n defnyddio system weithredu o'r enw "Android" – ond pa gwmni sy'n berchen ar y system Android ac yn ei datblygu, yn ôl Sofia?
Annwyl Sara,
Sut wyt ti?
Wel, sut mae pethau te? Ydy’r tywydd wedi cynhesu? Sut mae dy Fam-gu erbyn hyn? Fel ti’n gwybod, dwi wedi bod yn ceisio perswadio Mam i adael imi gael ffôn symudol ar gyfer fy mhen-blwydd yn un a ddeg. Pan oeddwn i’n ymchwilio ynglŷn â’r ffôn symudol newydd (gobeithio!!) roeddwn i’n synnu'n fawr o weld sut mae'r defnydd o ffonau symudol wedi cydio ledled Prydain.
Roedd Tad-cu’n dweud, pan oedd e’n "waco" (dyna'r gair ddefnyddiodd e yn lle “canlyn”) fod rhaid iddo fe ffonio Mam-gu o hen flwch ffôn coch rhewllyd, a bwydo darnau arian iddo o hyd i gadw’r alwad i fynd heb gael ei dorri i ffwrdd!
Mae mwy o synnwyr cyffredin gan Mam; dwedodd hi pan oedd hi'n ifanc fod ganddi ffôn symudol hen ffasiwn yr un maint â bricsen. Dwi ddim yn hollol siŵr beth mae hi'n feddwl: wyt ti?
Yn y ddolen isod mae yna dudalen ar wefan sy'n edrych yn eitha dilys i fi – mae siart yma sy'n dangos bod mwy a mwy o bobl yn defnyddio ffonau symudol erbyn hyn. Beth wyt ti’n feddwl – wyt ti Sara yn cytuno bod hon yn ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth?
Fe ddysges i yn yr ysgol fod y term "canran" yn golygu un allan o bob cant. Felly, er enghraifft, pe bai 5% (y cant) yn defnyddio ffôn symudol, mae hyn yn golygu pum aelwyd allan o bob cant.
Ond, paid â becso gormod am hyn Sara. Y peth pwysig yn fy marn i yw eich bod chi’n gallu gweld y "duedd" neu mewn geiriau eraill faint mae pethau'n newida pha mor gyflym.
Wyt ti’n meddwl ei bod yn dda bod cymaint o ffonau symudol erbyn hyn? Roedd mam fel petai hi'n poeni bod yna fwy o berygl ymbelydredd ond erbyn hyn mae'n debyg ei bod hi wedi stopio poeni! Fyddan nhw’n rhedeg mas o rifau yn y pen draw?!
Beth bynnag, fe anfona i eto i ddweud fath o ffôn y bydd Mam yn gadael imi gael a hefyd a ydy hi'n ei "gloi e lawr" i wneud yn siŵr mai dim ond “pan fydd angen” (yn ei barn hi) y ca i ddefnyddio fe!
Hwyl am y tro! Aros yn saff!
Sofia
Os oes gennych ffôn symudol a'ch bod am siarad, anfon neges destun neu ddefnyddio data, yna wrth gwrs mae angen signal symudol arnoch!
Pan gafodd ffonau symudol eu cyflwyno i ddechrau roedden nhw’n cael eu hadnabod fel "ffonau celloedd" a hynny am fod y person oedd yn gyrru car ar y ffôn car a byddai'n symud o un ardal i'r llall ac yn cael ei signal o wahanol fastiau mewn gwahanol "gelloedd" heb i'r signal dorri allan rhwng y celloedd.
Mae pedwar prif ddarparwr gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig, bob un â'u "rhwydwaith" eu hunain o fastiau. Enwau’r darparwyr yw O2, EE, Vodafone a Three. Mae yna rwydweithiau llai eraill sy'n defnyddio’r rhai mawr hyn ac mae'n werth gwirio pa rwydwaith o fastiau maen nhw’n ei ddefnyddio. Gall y mastiau hyn fod â throsglwyddyddion bach iawn sy’n isel iawn eu pŵer ac sy'n gwasanaethu ffonau symudol yn eithaf agos atyn nhw neu gallan nhw fod yn llawer mwy. Oherwydd pryderon ymbelydredd, mae llawer o bobl yn poeni pan gân nhw eu codi’n agos at gartrefi ac ysgolion. Unwaith eto, y cwestiwn y dylen ni ei ofyn yw "ydy’r fantais yn fwy na'r risg?"
Mae’n bosibl y bydd rhai o'r mastiau hyn wedi cael eu "cuddio" hyd yn oed ac yn edrych fel coed, neu efallai mai dim ond blwch bach sydd yno, wedi'i folltio ar bolyn telegraff. Ond ydych chi'n gwybod ble mae’r mastiau agosaf atoch chi? Cadwch lygad allan pan fyddwch yn cerdded neu'n gyrru o gwmpas.
Mae'n hawdd gwirio a oes mast yn agos atoch, a hynny drwy ddefnyddio gwiriwr signal OFCOM yn y ddolen yma. Os ydych yn gymharol agos at drosglwyddydd yna byddwch yn gweld signal cryf ar eich sgrin symudol. Yn anffodus, ychydig iawn o signal sydd gan rannau o Gymru o hyd a hynny o achos y tir bryniog yn ogystal â'r boblogaeth denau. Yn anffodus, mae straeon wedi bod am bobl yn ceisio defnyddio’u ffonau mewn mannau anghysbell yng Nghymru yn ystod argyfwng ac yn methu â chael cymorth mewn pryd am nad oedd signal symudol ar gael ar eu rhwydwaith penodol nhw, felly fe allai fod yn ddefnyddiol sicrhau bod signal ar gael lle bynnag rydych chi’n mynd cyn ichi gychwyn.
Rhowch eich cod post i mewn i weld pa rwydweithiau y gallwch eu defnyddio. Efallai yr hoffech roi cynnig hefyd ar ble rydych chi'n mynd ar eich gwyliau.
CYMRU MOBILES CYF
Canghennau ym Mangor, y Drenewydd, Caerdydd ac Abertawe
Ein pecynnau SIM-YN-UNIG gorau yn Cymru Mobiles – SIM i ffitio’ch ffôn eich hun am bris arbennig i bobl ifanc!
Dewiswch rhwng cyfradd fisol arbennig i fyfyrwyr a defnyddwyr ifanc neu drefniant talu-wrth-fynd syml. Gallwch drefnu data ychwanegol pryd bynnag y mynnoch am fis ar y tro neu dalu fesul munud neu fesul neges destun wrth ddefnyddio’ch ffôn!
Taliadau’r pecyn misol:
Cyfradd Misol Arbennig £5 y mis! – anfonwch neges yn dweud ‘testun misol’ i 124569:
Yn cynnwys munudau heb gyfyngiad, negeseuon heb gyfyngiad a 2gb o ddata bob mis!
I gael 2gb o ddata y mis yn ychwanegol – anfonwch neges yn dweud ‘data5’ i 124569
Sylwch: ar ddiwedd pob mis byddwch yn colli unrhyw ddata, negeseuon neu funudau sydd heb eu defnyddio – mae negeseuon sy’n cynnwys llun yn costio mwy.
Taliadau talu wrth fynd:
Galwadau 10c y funud
Negeseuon testun 10c yr un
Data £3 y gb
Brysiwch, mae’r cynnig yn gorffen yn fuan. Prynwch ar-lein neu dewch i’r siop ar Stryd Fawr Bangor (gan ddilyn y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol).
Gallwch ychwanegu at eich cyfrif drwy brynu taleb mewn unrhyw archfarchnad neu drwy neges destun gan ddefnyddio cerdyn banc. Rhaid i bob defnyddiwr fod yn fyfyriwr neu o dan 18 oed. Rhaid i ddefnyddwyr o dan 14 oed gael caniatâd rhiant neu warcheidwad i wneud cytundeb gyda Cymru Mobiles Ltd. Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd.
Cymru Ifanc
14 Medi 2020
Roedd llawer o oedolion heddiw yn fodlon fel plant 11 oed i chwarae ar y stryd, chwarae gyda theganau dan do, gwylio'r teledu neu ddarllen llyfrau, ond mae Cymru Ifanc yn dweud bod pethau'n newid! Hyd yn oed cyn belled yn ôl â 2014, awgrymwyd bod 70% o blant 11-12 oed yn berchen ar eu ffôn symudol eu hunain (gan godi i 90% ar gyfer plant 14 oed). Erbyn hyn, yn 2020 rydyn ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae gan bron bob person ifanc ei ffôn symudol ei hun cyn cyrraedd yr ysgol uwchradd.
Serch hynny, mae’n ofidus bod erthygl yn y Daily Express yn dweud bod ymchwilwyr yn awgrymu bod plant o bosibl yn wynebu mwy o risg drwy ymbelydredd, a hynny am fod cyfanswm yr ymbelydredd y byddan nhw’n agored iddo dros eu hoes yn llawer mwy nag unrhyw oedolyn heddiw.
Mae’r erthygl yn dweud: “Er nad oes tystiolaeth bendant bod y rhain yn effeithio ar iechyd oedolion, mae arbenigwyr yn credu y gallai plant fod yn fwy agored i niwed am fod eu systemau nerfol sy'n dal yn datblygu a'u penglogau teneuach yn amsugno lefelau uwch o egni radio”.
Dywedodd yr Adran Iechyd ar y pryd: "Does dim tystiolaeth bod defnyddio ffonau symudol yn effeithio ar iechyd, ond rydym am adolygu'r holl wybodaeth sydd ar gael yn gyson". Y prif gwestiwn sy’n codi i'r defnyddwyr ac i athrawon, rhieni a gwarcheidwaid yw “ydy’r manteision yn fwy na'r risg?"
Yn Sweden mae rhai ysgolion wedi leinio waliau'r ystafell ddosbarth â phlwm i atal tonnau radio rhag cyrraedd y disgyblion. Mae rhai ysgolion yng Nghymru wedi gwahardd disgyblion rhag dod ag offer o'r fath i'r dosbarth ac mae eraill wedi annog disgyblion i ddefnyddio dyfeisiau clyfar gan fod hynny’n eu galluogi i ymchwilio a gweithio'n annibynnol. Mae gan ysgolion rwydweithiau diwifr eu hunain mewn ystafelloedd dosbarth hefyd.
Gyda phandemig 2020 a'r symudiad cyflym iawn i ddysgu gartref a "dysgu cyfunol" sy’n defnyddio amgylcheddau dysgu ar-lein fel "Hwb" Addysg Cymru, lle gallwch weithio ar-lein a rhyngweithio ag athrawon, fe allai hyn ddod yn broblem bosibl.
Hoffai "Cymru Ifanc" wybod barn pobl ifanc Cymru – ydych chi'n meddwl bod y risgiau posibl hyn yn werth eu cymryd ac ydy dysgu ar-lein o fudd i chi? Ydy hi’n deg nad yw rhai disgyblion yn gallu defnyddio dulliau dysgu ar-lein yn hawdd am fod eu teuluoedd yn methu fforddio prynu'r offer?
Ble bydden ni'n dechrau gyda’r stori am sut mae cyfathrebu personol wedi esblygu? Ar ryw adeg mae'n rhaid bod pobl wedi dysgu siarad a hefyd wedi dysgu cyfathrebu drwy wneud marciau i gofnodi pethau i bobl eraill nad oedden nhw yno ar y pryd gael eu clywed neu eu darllen!
Wrth i amser fynd heibio, mae dyfeisiau ar gyfer cyfrifo, ar gyfer cyfathrebu dros wifrau ac yn ddiwifr a dyfeisiau digidol eraill wedi cael eu cyfuno gan arwain at y ffôn symudol cyflawn ac amryddawn sydd ar gael erbyn hyn, ac yn fwy diweddar mae hyn yn cynnwys galwadau fideo a siarad â seinydd clyfar fel Amazon Echo. Pwy a ŵyr ble bydd pethau'n mynd nesaf?! Beth yw’ch barn chi?
Hyd at ganol y ganrif ddiwethaf, roedd "cysylltwyr" mewn "cyfnewidfa" a'u gwaith nhw oedd eich cysylltu chi drwy blygio’ch "llinell" chi i mewn i linell person arall. Yn raddol, cafodd hyn ei ddisodli gan ddeialu uniongyrchol, a dros bellter hir roedd rhywbeth ar gael o'r enw STD a oedd yn sefyll am Subscriber Trunk Dialling. Erbyn hyn, mae hyd yn oed ffonau cartref sydd â gwifrau yn anfon eu negeseuon sain mewn fformat digidol. Mae pethau'n esblygu'n gyflym iawn!
Cyn inni symud i ffonau symudol, pan oeddech chi’n ffonio lle ac nid person, roedd y ffôn cartref safonol yn edrych fel hyn. Fyddech chi'n gallu defnyddio un? Allwch chi wneud rhestr o'r camau y byddai angen eu cymryd i ffonio am Ambiwlans, y Frigâd Dân neu’r Heddlu? Mae'n syndod faint o bobl sy ddim yn gwybod sut i wneud hyn nawr!
Roedd polion telegraff hen ffasiwn yn cario'r ceblau o un gyfnewidfa i'r llall. Mae ceblau digidol, lloeren a hyd yn oed ceblau sy'n gweithio gyda golau yn cymryd lle'r rhain erbyn hyn! Gofalwch beidio â dringo ar unrhyw beth sydd wedi'i gysylltu â thrydan na chael eich temtio i agor cabinetau a allai fod ag offer trydanol ynddyn nhw!
Mae swydd peiriannydd ffôn yn newid; erbyn hyn does dim angen i gymaint o beirianwyr ddringo polion telegraff gan fod ceblau ffeibr modern yn cael eu gosod mewn pibellau dan y ddaear. Weithiau byddwn yn anghofio'r holl wifrau, pibellau, polion a chabinetau nad ydyn ni byth yn bell iawn ohonyn nhw. Ydych chi'n adnabod unrhyw un sy'n beiriannydd ffôn? Oes gennych chi unrhyw "ddodrefn stryd" ar gyfer ffonau yn agos at ble rydych chi'n byw? Ydych chi'n gwybod ble mae'r mast ffonau symudol agosaf atoch chi?
Risgiau Iechyd Posibl Ffônau Symudol
Pan oeddwn i’n ystyried gofyn i Mam am ffôn symudol, roedd Tad-cu’n edrych braidd yn bryderus "Wyt ti ddim yn gwybod y gallai ffonau symudol a rhwydweithiau symudol wneud niwed i dy iechyd di?"
Fe ddwedodd e hefyd fod rhai ysgolion yn Sweden wedi leinio'r waliau gyda phlwm i atal tonnau symudol a diwifr ac i amddiffyn y disgyblion rhag ymbelydredd oddi wrthyn nhw. Dechreues i feddwl wedyn "ydy’r manteision yn fwy na'r risgiau"?
Dwedes i wrtho fe fod sefydliad o'r enw "OFCOM" yn y Deyrnas Unedig sy'n sicrhau ein bod ni i gyd yn cael ein cadw'n ddiogel rhag unrhyw niwed posibl gan ffonau, ffonau symudol a’r teledu.
Dwedodd Tad-cu fod pobl wedi ceisio tynnu trosglwyddyddion symudol i lawr yn ddiweddar am fod yna "theori gynllwyn" yn awgrymu bod signalau symudol newydd y bumed genhedlaeth (5g) yn creu symptomau'r pandemig sy'n ysgubo ar draws rhannau o Gymru.
Dyma fideo swyddogol gan OFCOM – beth yw dy farn di am eu hymateb nhw i'r bobl hynny mae Tad-cu’n eu galw yn "Luddites" ac sy'n gwrthod derbyn technoleg newydd o'r fath? Yma, mae swyddogion OFCOM yn rhoi eu barn nhw.
Dyma set o ffotograffau y mae Sofia wedi'u darganfod o wahanol ddarnau o offer sy'n gysylltiedig â chyfathrebu. Fe fyddai’n hoffi eu gosod nhw mewn trefn sy’n cael ei galw gan haneswyr yn "drefn gronolegol" o'r dyddiad cynharaf hyd at y presennol.
Gan weithio mewn grŵp neu gyda phartner, allwch chi benderfynu ble y byddech chi’n gosod pob ffotograff ar y llinell amser hon?
Efallai hefyd yr hoffech chi drafod beth sy'n cael ei ddangos ym mhob ffotograff yn eich barn chi, ac a ddylai Sofia fod wedi cynnwys y llun yn ei llinell amser ai peidio.
Fe allech chi hefyd awgrymu ym mha flwyddyn y cafodd pob un o’r technolegau eu defnyddio am y tro cyntaf.