Cuetzalan, Puebla, Mecsico. Campesinos brodorol yn cynaeafu coffi. Aelodau o Tosepan Titataniske (Gyda’n Gilydd fe Orchfygwn ni), menter gydweithredol masnach deg.

Masnach Deg

Canllaw Rhiant & Athro
Masnach Deg

Beth yw Masnach Deg?

Yn aml iawn, mae ffermwyr o wledydd o bedwar ban byd yn tyfu ac yn casglu cynnyrch ac yn eu gwerthu fel bod pobl fel ni yng Nghymru yn gallu eu defnyddio neu eu bwyta. Cyn i Fasnach Deg gael ei gyflwyno doedd y ffermwyr ddim yn cael tâl teg am y cynnyrch (cyn lleied â 60c y diwrnod!) ac roedden nhw’n gweithio’n galed mewn amodau gwaith heriol am y canran lleiaf o elw. Mae Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i safon byw y ffermwyr!

Amcanion Masnach Deg yw i sicrhau:

  • pris teg i ffermwyr a chynhyrchwyr
  • prisiau gwell ar gyfer cynnyrch
  • amodau gwaith diogel
  • cynaliadwyedd lleol

 

Pythefnos Masnach Deg

Mae Pythefnos Masnach Deg yn cael ei gynnal bob blwyddyn rhwng diwedd Chwefror a dechrau Mawrth gyda’r prif nod o godi ymwybyddiaeth oedolion a phlant o bwysigrwydd prynu nwyddau Masnach Deg. Mae thema wahanol i’r pythefnos bob blwyddyn ac mae 2021 yn canolbwyntio ar sut mae newid mewn hinsawdd yn effeithio ffermwyr ar draws y byd.

Ffeithiau Diddorol:

  • Gwerthir dros 4500 o gynnyrch Masnach Deg yn y Deyrnas Unedig.
  • Dim ond un ym mhob 3 banana sy’n cael eu prynu yn y Deyrnas Unedig.
  • Bellach mae dros 1.66 miliwn o ffermwyr a gweithwyr o gwmpas y byd yn elwa o Fasnach Deg.
  • Mae ôl troed carbon cotwm Masnach Deg bum gwaith yn llai nag ôl troed cotwm arferol ac felly’n llawer gwell i’r amgylchedd.
  • Mae cynnyrch Masnach Deg yn cael ei werthu mewn dros 120 gwlad ar draws y byd.
  • Mae 25% o’r coffi sy’n cael eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig yn goffi Masnach Deg.
Geirfa
Cynaliadwyedd
Ystyr cynaliadwyedd yw ateb ein hanghenion ein hunain heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ateb eu hanghenion nhw.
Codi ymwybyddiaeth
Fe allech chi 'godi ymwybyddiaeth' o achos fel Masnach Deg i helpu ffermwyr ledled y byd i sicrhau pris teg am eu cynnyrch yn ogystal ag amodau gwaith ffafriol.
Newid Hinsawdd
Ystyr newid hinsawdd yw newid hirdymor ym phatrymau tywydd y Ddaear.
Ôl troed carbon
Ôl troed carbon yw cyfanswm y nwyon tŷ gwydr (gan gynnwys carbon deuocsid a methan) sy'n cael eu cynhyrchu gan ein gweithredoedd ni.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Rhyngweithiol
5
Sgwrs
6
Linc
7
Llythyr
8
Cyfres o luniau