Annwyl Sara,
Gobeithio dy fod di a dy deulu yn cadw'n dda! Dwi’n gweithio'n galed yn yr ysgol ac yn ceisio gwella fy sgiliau ysgrifennu llythyrau yn ogystal â defnyddio e-bost ar y cyfrifiadur gartref.
Mae Tad-cu wedi rhoi hen ysgrifbin llenwi imi. Mae’n eithaf anodd ei ddefnyddio am ei fod e’n tueddu i ollwng blotiau inc dros bob man. Dwi'n cymryd fy amser yn ysgrifennu'r llythyr hwn atat ti. Dim llanast hyd yn hyn! Dwi hefyd wedi treulio amser gyda Tad-cu yn ymchwilio i ddyfeisiadau Marconi! Yn ogystal â Larnog, oeddet ti'n gwybod ei fod e wedi bod yn gweithio yn Eryri, heb fod yn bell oddi wrthot ti!
Mewn set arall o arbrofion yn Waun-fawr ar lannau’r Gogledd, fe lwyddodd e i anfon y neges destun gyntaf (neges telegraffiaeth radio oedd hi yn y dyddiau hynny wrth gwrs, yn defnyddio Cod Morse) o Gymru yr holl ffordd i ogledd America gan ddefnyddio radio. Dyna ti gamp ac roedd e’n dal yn ifanc iawn!
Oeddet ti'n gwybod mai offer Mr Marconi a wnaeth alluogi llong anffodus y 'Titanic' i anfon neges telegraffiaeth radio at longau eraill gerllaw i ddweud bod y Titanic yn suddo?
Byddai hyd yn oed mwy o fywydau wedi cael eu colli ar y noson drasig honno oni bai am Mr Marconi a'i ddyfais "hud"!
Pan fyddi di’n agos at gyfrifiadur, galli di ddarllen rhagor am Orsaf Radio Marconi yn Waun-fawr yma:
http://www.heneb.co.uk/ww1/marconi.html
Dwi wedi amgáu llun o rai o'r badau achub a gafodd eu codi o ganlyniad i'r signal “mayday” a gafodd ei hanfon o Ystafell Marconi ar y Titanic ac fe ddylet ti eu gweld nhw yn yr amlen. Rhaid ei bod yn ofnadwy gorfod aros a gobeithio y byddech chi’n cael eich achub wrth i bobl eraill o'ch cwmpas chi foddi.
Mae'n gas gen i fod ar long a byddwn i wedi cael llond twll o ofn mewn bad achub! Maen nhw’n dweud mai "menywod a phlant yn gyntaf" oedd hi yn y dyddiau hynny wrth iddyn nhw gasglu pobl i'r badau achub. Fe fues i’n chwilio am “women and children first” ar y rhyngrwyd gyda Tad-cu ac mae llawer iawn o hanes yn gysylltiedig â’r ymadrodd.
Oeddet ti’n gwybod mai dim ond 20 o fadau achub oedd gan y Titanic, a’r rheiny’n gallu cario 1,178 o bobl yn unig, er bod dros 2,200 ar ei bwrdd y noson honno? Pam nad oedd digon o le i gymaint o bobl, tybed?
Wel Sara, fe rodda i wybod sut dwi’n dod ymlaen â'r ymchwil a phan ga i fy ffôn symudol newydd gallwn ni gadw mewn cysylltiad drwy destun a llais. Gobeithio mai pecyn galwadau a negeseuon diderfyn ga i!
Aros yn saff!
Pob hwyl, Sofia