GIG Cymru

Iechyd yng Nghymru

Canllaw Rhiant & Athro
Iechyd yng Nghymru

GIG Cymru yw’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol i Gymru sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei gyllido’n gyhoeddus gan y Llywodraeth i’r boblogaeth yng Nghymru.

 

Prif egwyddor Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol Cymru yw sicrhau ‘gofal iechyd da ar gael i bawb, difater o gyfoeth.’

 

Sefydlwyd y GIG ar Orffennaf 5ed 1948. Prif bensaer y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol oedd y Gweinidog dros Iechyd a’r Cymro Aneurin Bevan. Y tro nesaf byddwch yn ymweld â phrifddinas Cymru ewch draw ar hyd Heol y Frenhines ger y castell i weld cofgolofn efydd sy’n ei anrhydeddu am sefydlu’r GIG.

 

Cyn sefydlu’r GIG darperid gofal iechyd ar sail eich gallu i dalu amdano’n breifat. Roedd pobl yn gorfod talu am wasanaethau iechyd amrywiol ac roedd llawer yn dioddef oherwydd diffyg ariannol a thlodi.

 

Darperir nifer o wasanaethau amrywiol gan GIG Cymru gan gynnwys rhoi gorau i ysmygu, sgrinio cyn-geni, a thriniaeth arferol o beswch i lawdriniaeth gymhleth e.e. calon agored, sgrinio cancr, triniaeth damwain ac argyfwng a gofal diwedd bywyd.

 

Mae Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Llywodraeth Cymru yn rheoli GIG Cymru gyda gweinidog cabinet o’r enw Vaughan Gething (https://llyw.cymru/vaughan-gething-as ) yn adrodd fel Gweinidog am Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Brif Weinidog Cymru.

 

GIG Cymru yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru gyda dros 90,000 o staff yn gweithio i’r gwasanaeth. Darperir gyllideb o £8.9 biliwn gan Lywodraeth Cymru i’r gwasanaeth ac mae 75% o’r gyllideb yn mynd tuag at gyflogau staff.

 

Yn ogystal i staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru mae yna broffesiynau iechyd eraill yn cefnogi’r gwasanaeth sydd yn cynnwys deintyddion, optegwyr, fferyllwyr a bron i 2,000 o feddygon teulu sy’n gweithio yn bennaf mewn lleoliadau gofal sylfaenol.

 

Mae cyllideb blynyddol GIG Cymru tua 50% o holl gyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Mae GIG Cymru yn cyflwyno ei gwasanaethau drwy Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Beth yw enw’r Bwrdd Iechyd sydd yn eich ardal chi? Pa wasanaethau sydd ar gael i’ch cefnogi?

Geirfa
Biliwn
1 biliwn yw 1 fil o filiynau (1,000,000,000).
Gweinidog Cabinet
Mae Gweinidogion Cabinet yn Aelodau o'r Senedd. Maen nhw’n rhan o'r llywodraeth ac yn gwneud penderfyniadau polisi am faterion cenedlaethol sy'n effeithio ar ein bywydau yng Nghymru.
Cyllid
Cyllid yw rheoli arian ac mae'n cynnwys gweithgareddau fel buddsoddi, benthyca, cyllidebu a chynilo.
Gwasanaeth
Gwasanaeth yw'r weithred o helpu neu wneud gwaith i rywun.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Cofnod dyddiadur
5
Testun
6
Linc
7
Erthygl newyddion
8
Cerdyn trump
9
Linc
10
Rhyngweithiol