Golygfa o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

I ben draw’r byd!

I ben draw’r byd!

Ydych chi wedi clywed rhai pobl yn defnyddio’r ansoddair ‘bach’ i ddisgrifio Cymru? Mae’r dywediad ‘Cymru Fach’ wedi cael ei ddefnyddio ers amser hir. A phe byddech chi’n edrych ar fap o’r byd, byddai’n anodd iawn dod o hyd i Gymru oherwydd ei maint. Bydden ni’n gorfod edrych yn fanwl iawn. Mae nifer o wledydd sydd â llawer mwy o bobl yn byw ynddyn nhw. 

Mae tua 3.1 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, sydd tua: 

  • 4.8% o boblogaeth gwledydd Prydain 
  • 0.42% o boblogaeth Ewrop 
  • 0.04% o boblogaeth y byd. 

Er y canranau bach yma, mae ei dylanwad yn fawr ym mhedwar ban y byd. Mae pobl o bob cwr o’r byd wedi clywed am Gymru – diolch i rai pobl neu rai pethau. Mae rhai pobl a rhai pethau wedi teithio o Gymru i bedwar ban y byd ac mae pobl eraill – a phethau eraill – wedi teithio i Gymru o bedwar ban y byd. 

Rydyn ni gyd wedi clywed am ‘wlad beirdd a chantorion’, ond mae pobl yn gwybod am llawer fwy am Gymru na hyn. Ydych chi erioed wedi clywed am chwedl Madog neu wedi clywed am daith y Cymry i Batagonia yn 1865? Pwy a wyr pa symbolau Mathemategol y bydden ni’n eu defnyddio yn yr ysgol heddiw heb ddylanwad Robert Recorde. A thybed beth fyddai’n digwydd ar wair Wimbledon bob haf os na fyddai Walter Clopton Wingfield wedi dyfeisio tennis?! 

Dewch, da chi, i ddarllen fwy am ddylanwad mawr ein gwlad fach ni ar weddill y byd!  

Geirfa
Ansoddair:
Ansoddair yw gair sy’n disgrifio rhywbeth.
Dylanwad
Dylanwad yw’r gallu i gael effaith ar rywbeth neu rhywun arall.
Poblogaeth
Poblogaeth yw faint o bobl sy’n byw yn rhywle.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Testun & llun
6
Llythyr
7
Cân / cerdd
8
Cerdyn trump
9
Rhyngweithiol