Pwy sy’n gyfarwydd â’r geiriau “gwlad beirdd a chantorion”? Rwy’n siŵr y bydd bob un ohonoch wedi clywed y geiriau yma rhywbryd yn ystod eich bywyd, boed wrth ganu ar ddechrau gêm rygbi rhyngwladol, ar ddiwedd eisteddfod ysgol neu mewn cyngerdd.
Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o‘n bywydau ni fel Cymry, o’r canu yn yr Eisteddfod i gystadleuaeth Cân i Gymru, o’r canu emynau mewn capeli i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau corawl, o’r canu mewn gemau rygbi i ganu hwiangerddi mewn meithrinfeydd. Meddyliwch am yr wythnos diwethaf, pryd ydych chi wedi cael y cyfle i wrando ar gerddoriaeth?
Mae rhai Cymry wedi rhoi ein gwlad ni ar fap cerddorol y byd. Mae enwau fel Tom Jones a Shirley Bassey yn enwau cyfarwydd o gwmpas y byd erbyn hyn, ac mae cân Gymraeg o Gymru hyd yn oed wedi cyrraedd rhif 1 yn y siartiau Prydeinig iTunes. Ar ddechrau 2020 fe gyrhaeddodd cân boblogaidd ym Mharc y Scarlets, Yma o Hyd gan Dafydd Iwan, rif 1 yn siartiau iTunes gan werthu yn fwy na bandiau fel ‘The Weekend’. A wir i chi, ble ond yng Nghymru y byddai chwaraewyr rygbi yn dathlu sgorio cais drwy wrando ar gân gan un o gantorion gwerin y wlad?
Mae traddodiad cerddorol yn gynhwysol iawn yma yng Nghymru. Mae plant yn cael eu hannog yn ifanc iawn i fynd ar lwyfan i ganu offeryn neu i ganu yn ein gŵyl gelfyddydol fwyaf ni yma yng Nghymru, yr Eisteddfod. Dyma ddechrau’r daith lwyddiannus i nifer o gantorion ac offerynwyr enwog yng Nghymru. Mae hyd yn oed cystadleuaeth canu emyn ar gyfer pobl dros 60 yn yr Eisteddfod.
Mewn nifer helaeth o Eisteddfodau, yr uchafbwynt bob tro yw’r canu corawl. Ond nid yw’r traddodiad yma ar gyfer corau proffesiynol yn unig! O na! Mae fideos yn cael eu cymryd yn aml o grwpiau o ffrindiau, neu weithiau dieithriaid, yn dechrau canu mewn 4 llais mewn llefydd annisgwyl fel ar fysiau neu mewn bwytai!
Beth am ddarllen yr erthyglau i ddysgu mwy am ambell i agwedd ar weithgareddau ‘gwlad y gân’?
Waw! Am gig!!
Ar ôl llwyddiant gigiau’r gorffennol benderfynais eleni fynd i Gig y Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe allaf ddweud gyda llaw ar fy nghalon - ROEDD YN WYCH!!
Penderfynodd y trefnwyr eleni drefnu gig gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Roedd yn gig, yn gyngerdd ac yn un parti mawr! Cyrhaeddais yn gyffro i gyd yng nghanol torf o Gymry. Yn amlwg roedd rhaid stopio yn gyntaf i gael bag o losin ar y maes ac yna fy wnes fy ffordd i fy sedd. Caneuon y 90au oedd yn cael eu chwarae ac roedd yn braf clywed caneuon fy mhlentyndod unwaith eto! Does dim gwell na bach o ‘Paid â Bod Ofn’!
Rwy’n ffan mawr o gerddoriaeth Diffiniad a Lleden, ac rwy’n eithaf siwr mai fi yw number one fan Eden! Roedd y cantorion i gyd yn wych ond yr uchafbwynt i fi oedd clywed Cerddorfa’r Welsh Pops. Rwy wedi bod mewn gig ar ôl gig yn gwrando ar wledd o gantorion Cymraeg ond dyma’r tro cyntaf i fi glywed cerddorfa yn fyw.
Os bysen i’n gorfod rhoi marc allan o 10 i’r gig, byswn i’n bendant yn rhoi 11! Rwy’n edrych ymlaen at gig y flwyddyn nesaf yn barod!
Hen wlad fy nhadau
Cyfansoddwyd yr anthem genedlaethol yn 1856. Roedd yn brosiect teuluol gan mai Evan James ysgrifennodd y geiriau a’i fab James James gyfansoddodd yr alaw. Glan Rhondda oedd yr enw gwreiddiol a roddir ar y gân gan mai wrth lan yr afon, yn ôl bob sôn, wnaeth James James feddwl am yr alaw. Wedi i James gyfansoddi’r alaw gofynnodd i’w Dad i ysgrifennu geiriau. Ysgrifennodd Evan y geiriau mewn ymateb i gais gan ei frawd i ymfudo i America gydag ef. Mae’r geiriau llawn emosiwn ac yn dangos cariad amlwg Evan at ei wlad.
Elizabeth John oedd y cyntaf i berfformio’r gân a gwnaeth hyn yn festri Capel Tabor ym Maesteg. Er i’r gân ddod yn fwy fwy poblogaidd ar ddiwedd y 19eg ganrif gan fod pobl wedi dechrau ei chanu mewn amrywiaeth o Eisteddfodau, roedd rhaid aros tan 1905 cyn ei chlywed hi am y tro cyntaf ar ddechrau gêm rygbi rhyngwladol.
Bellach mae cofeb wedi cael ei chodi ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd er cof am y cyfraniad aruthrol y mae Evans a James James wedi ei wneud i’n gwlad fach ni.
Cân i Gymru
Cystadleuaeth yw Cân i Gymru sy’n cael ei dangos ar S4C ar ddechrau mis Mawrth, o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae cyfansoddwyr ar draws Cymru gyfan yn cael y cyfle i gystadlu drwy gyfansoddi cân. Mae’r gystadleuaeth yn dyddio yn ôl i 1969, ond nid Cân i Gymru oedd enw’r gystadleuaeth ar y pryd ond Cân Disg a Dawn. Erbyn heddiw mae’r cyfansoddwr buddugol yn cael swm o arian ac yn cael y cyfle i deithio i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Enillydd Cân i Gymru 2021 oedd Morgan Elwy gyda’r gân Bach o Hwne.
Yn 2016 cynhaliwyd pleidlais lle’r oedd y gwylwyr yn cael y cyfle i bleidleisio dros eu hoff gân Cân i Gymru erioed. Dyma’r canlyniadau:
1af – Torri’n Rhydd gan Matthew McAvoy a Steffan Rhys Williams
2il – Gofidiau gan Lowri Watcyn Roberts ac Elfed Morgan Morris
3ydd – Y Cwm gan Huw Chiswell
4ydd – Harbwr Diogel gan Arfon Wyn a Richard Synnott
5ed – Galw Amdanat Ti gan Barry Evans a Mirain Evans
6ed – Dagrau Tawel gan Meinir Richards a Tudur Dylan Jones
7fed – Cerrig yr Afon gan Iwcs a Doyle
Y Cymry ar The Voice
Pwy wyt ti?
Joe Woolford ydw i o Rhuthun.
Pryd dechreuaist ti ganu?
Dechreuais i rapio yn 13 oed.
Beth wnest ti yn 2015?
Es i ar The Voice. Es i ar dîm Rita Ora. Dewisais i hi achos mae hi’n ifanc ac yn dalentog a hefyd roeddwn i’n meddwl, “Bydd hi’n help mawr i mi.”
Beth ganaist ti ar The Voice?
Canais i lawer o ganeuon o “Lights” (Ellie Goulding ) i “I wont give up” (Jason Mraz). Yn y rowng cyn-derfynol, canais i “Jealous” (Labrinth).
Beth wnest ti rhwng pob rhaglen?
Ymarfer! Roedd rhaid ymarfer llawer ond weithiau es i allan gyda’r cystadleuwyr eraill. Aethon ni allan am fwyd ac aethon ni i siopa ac roedd o’n wych. Roedd pobl yn dod i siarad â ni ac roedden nhw’n gofyn, “Ydych chi ar The Voice? Roedd o’n ddoniol – ond roedd o’n neis hefyd.
Est ti i weld Rita Ora yn perfformio?
Do, es i weld hi a Charli XCX yn perfformio yn yr 02 Empire yn Sheppard's Bush. Roedd y gig yn anhygoel. Roedd Rita a Charli XCX yn wych a dysgais i lawer.
Beth fwynheuaist ti am y profiad o ganu ar The Voice?
Popeth! Roedd o’n wych ond roedd rhaid i mi weithio’n galed i gyrraedd The Voice. Gweithiais i’n galed am flynyddoedd. Pan oedd pobl yn dweud, “Na!” roeddwn i’n trio eto. Os ydych chi’n gweithio’n galed byddwch chi’n cael beth rydych chi eisiau.
Gruff: Mae llawer o ganeuon Cymraeg nawr yn cael eu cysylltu â champau gwahanol.
Rori: Ti’n iawn! Rwy wrth fy modd yn clywed cefnogwyr yn canu caneuon Cymraeg, mae’n ffordd o ddod a’r cefnogwyr i gyd at ei gilydd!
Anest: Es i i weld y Scarlets yn chwarae neithiwr! Roedden nhw’n wych! Sgorion nhw 5 cais a bob tro roedd y bêl yn croesi’r llinell roedd Yma o Hyd gan Dafydd Iwan yn cael ei floeddio dros y stadiwm!
Gruff: Dyna un o fy hoff ganeuon Cymraeg i!
Cara: Rwy’n hoffi’r holl emynau sy’n cael eu canu!
Anest: A finne hefyd – mae cefnogwyr o hyd yn canu emynau mewn gemau rygbi rhyngwladol; Cwm Rhondda, I bob un sy’n ffyddlon a Chalon Lân.
Gruff: A phaid ag anghofio caneuon fel Ar Hyd y Nos.
Rori: Pêl-droed sy’n mynd a’m bryd i mae rhaid i fi gyfaddef. Llafarganu mae cefnogwyr pêl-droed yn ei wneud gan amlaf.
Gruff: Mae llawer o ganeuon nawr yn gysylltiedig gyda’r Ewros.
Rori: Oes, wrth gwrs! Daeth ‘Rhedeg i Baris’ gan y Candelas yn anthem answyddogol i Ewros 2016.
Anest: Ac rwy’n hoffi cân newydd Yws Gwynedd ar gyfer Ewros 2020 ‘Ni Fydd y Wal’.
Cara: Gobeithio deith y gân a bach o lwc i ni yn y twrnamaint eleni!
Jordan: Es i i Tafwyl yn yr haf ac roedd e’n wych. Nawr, dw i eisiau clywed mwy o fandiau Cymraeg.
Rob: Tafwyl? Beth ydy Tafwyl?
Jordan: Gŵyl Gymraeg yng Nghastell Caerdydd.
Rob: Gŵyl Gymraeg?!?!?!? Diflas dw i’n meddwl!
Jordan: Dim o gwbl.
Rob: Oedd “Welsh cakes” yno?
Jordan: Welais i ddim pice ar y maen.
Rob: Oedd cawl cennin yno?
Jordan: Welais i ddim cawl cennin.
Rob: Beth am gennin Pedr?
Jordan: Welais i ddim cennin Pedr.
Rob: Beth oedd yno ’te?
Jordan: Wel, roedd llawer o fandiau Cymraeg yn perfformio – roedden nhw’n wych.
Rob: Bandiau Cymraeg?
Jordan: Bandiau Cymraeg!
Alys: Mae llawer o fandiau Cymraeg gwych o gwmpas.
Rob: Er enghraifft?
Alys: Dw i’n hoffi Anelog.
Rob: Pwy?
Alys: Anelog. Os wyt ti eisiau clywed Anelog yn canu, clicia yma: https://soundcloud.com/anelog
Gwranda ar y gân “Siabod”. Mae’r gerddoriaeth yn ddiddorol – mae’r sŵn yn wahanol – mae’r offerynnau’n wych ac maen nhw’n canu’n dda hefyd.
Chris: Mae’n well gyda fi fand o’r enw Y Bandana. Os wyt ti eisiau clywed Y Bandana’n canu, clicia yma: https://www.youtube.com/watch?v=PRoOwxWstVY
Mae’r geiriau ar y sgrin hefyd felly mae hynny’n help mawr. Maen nhw’n canu’n ardderchog.
Khalid: y hoff gân i ydy “Coffi Du” gan Gwibdaith Hen Frân. Clicia yma: https://www.youtube.com/watch?v=N5ZHRYVBGok
i glywed y gân ac i weld y geiriau – ac i ganu gyda nhw.
Rob: Canu gyda nhw – yn Gymraeg? Dw i ddim yn meddwl.
Khalid: Pam lai? Mae bandiau Cymraeg gwych o gwmpas heddiw.
Jordan: Dw i’n cytuno – mae bandiau ardderchog yn canu yn Gymraeg. Os wyt ti eisiau clywed mwy, beth am wrando ar raglen C2 ar Radio Cymru.
Rob: Iawn!
Cafodd y cylchgrawn Cymraeg ‘Y Selar’ ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2004. Mae bellach yn cael ei gyhoeddi 4 gwaith y flwyddyn ac maen nhw’n cynnal Gwobrau Selar sy’n rhoi gwobrau i artistiaid yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg cyfoes.
Ar y wefan yma gallwch ddarganfod gwybodaeth bellach am ‘Y Selar’ a gweld pwy sydd wedi ennill amrywiaeth o wobrau yn y blynyddoedd diwethaf.
Busnesau bach Cymru yn defnyddio caneuon yn eu gwaith
Shnwcs
Draenog
Dillad lele
Hwnahwna
Llwyddiant Catatonia
Dechreuodd Catatonia ganu gyda’i gilydd yn 1992. Cerys Matthews oedd prif leisydd y band a Mark Roberts ar y gitâr. Roedd llawer o bobl eraill wedi bod yn rhan o’r band rhwng 1992 a 2001 ond erbyn cyfnod olaf y band Paul Jones oedd ar y gitâr fas, Owen Powell ar y gitâr ac Aled Richards ar y drymiau. Ymhlith eu caneuon mwyaf poblogaidd mae Road Rage, Mulder and Scully a International Velvet. Cyrhaeddodd Mulder and Scully rif 3 yn y siartiau a Road Rage yn rhif 5. Perfformiwyd International Velvet yn seremoni agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999. Rhoddodd Catatonia eu stamp eu hunain ar y sîn gerddorol Gymraeg ar y pryd a chodi ymwybyddiaeth yr iaith Gymraeg ym Mhrydain.
Cyrraedd y miliwn!
Y gân yma gan Alffa yw’r gân Gymraeg gyntaf sydd wedi cyrraedd miliwn o wrandawiadau ar blatfform ffrydio cerddoriaeth Spotify. Rhyddhaodd y ddeuawd roc eu cân nol yn 2017 ac wedi cael llwyddiant aruthrol gyda’r gân. Erbyn heddiw mae wedi cael ei chwarae dros 3 miliwn o weithiau!