Ambiwlans ar alwad frys gyda'i oleuadau glas yn fflachio

Godidogrwydd ein Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol

Canllaw Rhiant & Athro
Godidogrwydd ein Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol

Sefydlwyd y GIG ar 5ed Gorffennaf 1948. Y Gweinidog Iechyd ar y pryd oedd Aneirin Bevan. Roedd ganddo 3 prif egwyddor dros sefydlu’r gwasanaeth sef estyn parch, urddas a thosturi a gofal at bobl yn rhad ac am ddim pan fyddent eu hangen. Ar lansio’r GIG dyma oedd y system iechyd orau yn y byd i gyd. Cyn 1900, elusennau yn bennaf oedd yn darparu gofal iechyd a hynny o fewn y wyrcws, dan gyfraith wael ynghyd â sector breifat heb ei reoleiddio.


Dros y blynyddoedd mae’r gwasanaeth wedi newid a gwella.
3 Mai 1968 – trawsblaniad calon gyntaf yn Ysbyty Cenedlaethol Y Galon, Llundain.
1972 – sgan CT cyntaf yn chwyldroi'r ffordd gall meddygon archwilio’r corff.
1980au – Sgan Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) ar gael.
1987 – Trawsblaniad ysgyfaint, calon ac afu cyntaf.
1991 – Ton gyntaf sefydlu ymddiriedolaethau GIG.
1994 – Sefydlu cofrestr rhoddwr organau.
1998 – Sefydlu Galw Iechyd Cymru sy’n ymdrin â bron i hanner miliwn o alwadau pob mis.


Erbyn heddiw mae’r GIG yn dathlu ei ben-blwydd yn 63 mlwydd oed. Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn heriol i’r gwasanaeth yn dilyn Covid-19. Serch hynny ynghanol yr holl anawsterau erbyn 28ain Gorffennaf 2021 mae Cymru wedi gweinyddu 2,292,572 dos cyntaf o frechlyn COVID-19, sef 72.3% o’r holl boblogaeth a 2,036,670 o’r ail ddos sef 64.3% o boblogaeth y wlad.

Geirfa
Aneirin Bevan
Gweinidog Iechyd a sylfaenydd y GIC. Gŵr o dde Cymru a ddechreuodd ei yrfa fel glöwr pan adawodd ysgol yn 13 oed.
Sgan CT
Sgan cyfrifiadurol tomograffeg sy’n defnyddio pelydr-X a chyfrifiadur i greu delweddau manwl o du mewn y corff.
Trawsblaniad calon cyntaf
Y trawblaniad calon cyntaf ym Mhrydain gan Donald Ross sef tîm o 18 doctor a nyrsys. Frederick West oedd y claf a dderbyniodd calon gan ŵr o’r enw Patrick Ryan.
Wyrcws
Lle roedd pobl tlawd yn gallu byw a gwneud gwaith a chael bwyd o dan amodau gwael rhwng1700-1900.
1
Blog
2
Blog
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Testun & llun
6
Cofnod dyddiadur
7
Rhyngweithiol
8
Erthygl newyddion
9
Cerdyn trump