Angel yr awyr
Diwrnod gwaethaf fy mywyd! Dechreuodd y cyfan fel gwireddu breuddwyd. Cerdded hen lwybr y Mwynwyr i ddringo mynydd uchaf Cymru Yr Wyddfa gyda chriw o gyfeillion. Roedd popeth yn iawn cyn i’r tywydd ddechrau troi hanner ffordd i fyny. Caeodd y niwl ac arllwysodd y glaw a chyn i mi sylweddoli dim roeddwn wedi disgyn oddi ar ochr y mynydd i gafn islaw. Roedd y boen yn fy mhen-glin yn echrydus!
O fewn dim o amser clywais sŵn hofrennydd coch yn chwyrlio uwch fy mhen. Sŵn oedd yn tawelu fy meddwl gan i mi wybod bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi dod i fy achub. Roedd y rhyddhad o gael gorwedd ar y stretsier a derbyn chwistrelliad i leihau’r boen yn anesboniadwy. Iddynt hwy mae’r diolch fy mod yma heddiw yn holliach. Rwyf bellach yn un o’r ystadegau pwysig hynny sef 39,155 o gleifion sydd wedi cael eu hachub gan Ambiwlans Awyr Cymru ers 2001. Diolch iddynt a mawr fydd fy rhodd iddynt.