Cafodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ei hagor ym mis Mai 2000. Lleolir yr ardd ger Llanarthne yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Mae'r ardd yn atyniad i ymwelwyr ac yn ganolfan ar gyfer ymchwil a chadwraeth botaneg wyddonol. Yno mae tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf y byd, a gynlluniwyd gan yr Arglwydd Foster, ac sy'n mesur 110m o hyd a 60 metr o led. Y tŷ gwydr sydd â'r arddangosfa orau o blanhigion hinsawdd y Môr Canoldir yn Hemisffer y Gogledd.
Ers 2000, mae dros 2.5 miliwn o bobl wedi ymweld â'r ardd er mwyn gweld a dysgu am y planhigion a'i phrosiectau ymchwil wyddonol sy'n gysylltiedig â chadwraeth. Mae gan yr ardd gasgliad anhygoel o dros 8000 o wahanol fathau o blanhigion ar fwy na 560 erw o gefn gwlad.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sy'n arwain y ffordd ar gyfer codau bar DNA i blanhigion. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i adnabod DNA ei holl blanhigion blodeuo a'i holl gonwydd brodorol. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi adnodd enfawr i wyddonwyr ymchwilio i gadwraeth bioamrywiaeth ac iechyd pobl drwy Gronfa Ddata Codau Bar Bywyd. Bydd modd cymharu dilyniannau DNA anhysbys yn y gronfa ddata er mwyn canfod o ba blanhigyn y maen nhw wedi dod.
Gallai’r gwaith codau bar DNA sy’n cael ei wneud yn yr ardd gael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd i helpu gwyddonwyr yn y dyfodol. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys:
Mae gwaith gwyddonol yr Ardd yn cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Ar hyn o bryd maen nhw wrthi’n adnabod DNA fflora'r gweddill o’r Deyrnas Unedig ac yn ymwneud â phrosiectau rhyngwladol ar ecoleg coedwigoedd glaw.
Beth am fanteisio ar y cyfle i ymweld â'r gerddi i weld drosoch eich hun?