Ffitrwydd

Ffitrwydd

Canllaw Rhiant & Athro
Ffitrwydd

Beth yn union yw ffitrwydd?

Ydy gallu rhedeg yn bell iawn neu godi llawer o bwysau yn y gampfa'n golygu eich bod chi'n heini ac yn ffit? Nac ydy. Mae pum elfen i ffitrwydd, ac mae angen asesu'r pum elfen i weld beth yw lefel eich ffitrwydd:

  • Dygnwch eich calon a'ch ysgyfaint
  • Cryfder eich cyhyrau
  • Dygnwch eich cyhyrau
  • Cyfansoddiad eich corff
  • Hyblygrwydd

Dygnwch eich calon a'ch ysgyfaint

Beth yw ystyr hyn?

  • Gallu eich calon a'ch ysgyfaint i roi tanwydd i'r corff wrth ymarfer am gyfnod.

I wella dygnwch eich calon a'ch ysgyfaint:

  • Dewiswch weithgareddau sy'n codi curiad y galon yn ddiogel am gyfnod o amser.
  • Does dim rhaid i'r gweithgaredd fod yn egnïol dros ben i wella'r dygnwch.
  • Dechreuwch yn araf, a chynyddu'n raddol.

 

Cryfder eich cyhyrau

Beth yw ystyr hyn?

  • Gallu eich cyhyrau i ymdrechu yn erbyn rhywbeth pan fyddwch chi'n ymarfer.

I wella cryfder eich cyhyrau:

  • Dewiswch weithgareddau sy'n gwneud i'ch cyhyrau weithio'n galed.

 

Dygnwch eich cyhyrau

Beth yw ystyr hyn?

  • Gallu eich cyhyrau i ddal ati wrth ichi ymarfer heb ichi flino.

I wella dygnwch eich cyhyrau:

  • Dewiswch weithgareddau lle mae eich calon a'ch ysgyfaint weithio'n galed.

 

Cyfansoddiad eich corff

Beth yw ystyr hyn?

  • Faint o'r corff sy'n gyhyrau, braster, esgyrn ac ati. Efallai na fydd pwysau rhywun ar y glorian yn newid dros gyfnod o amser, ond dydy'r glorian ddim yn dangos faint o'r corff sy'n fraster, esgyrn ac ati.

I wella cyfansoddiad eich corff:

  • Dewiswch weithgareddau sy'n llosgi braster ac sy'n adeiladu'r cyhyrau.

 

Hyblygrwydd

Beth yw ystyr hyn?

  • Gallu eich cymalau i symud. Po fwyaf hyblyg yw eich cymalau, lleiaf tebygol rydych chi o gael anafiadau.

I wella hyblygrwydd eich cyhyrau:

  • Dewiswch weithgareddau sy'n gwneud i'ch cyhyrau ymestyn.

 

Oes rhaid gwario llawer o arian i gadw’n ffit? Nac oes!

Geirfa
Calon:
Cyhyr yw’r galon. Mae’n pwmpio gwaed o amgylch y corff. Mae ochr dde eich calon yn derbyn gwaed o’r corff ac yn ei bwmpio i’r ysgyfaint ac mae ochr chwith eich calon yn derbyn y gwaed o’r ysgyfaint ac yn ei bwmpio i weddill y corff.
Cyhyrau:
Mae ein cyhyrau yn ein helpu i symud. Maen nhw’n gweithio drwy gontractio ac ymlacio.
Cymalau:
Cymal yw lle mae dau asgwrn yn cwrdd
Egni:
Egni sy’n ein helpu ni i wneud pethau. Mae angen egni arnom i wneud y tasgau lleiaf fel codi ein braich i ddweud hwyl fawr. Byddai angen hyd yn oed fwy o egni arnom i redeg marathon!
Ysgyfaint:
Organ yw’r ysgyfaint. Mae gan y corff ddau ysgyfant, un bob ochr i’r corff. Pan rydych yn anadlu i mewn mae aer yn cynnwys ocsigen yn llifo mewn i’r ysgyfaint a phan ydych yn anadlu allan mae carbon deuocsid yn gadael yr ysgyfaint.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Testun & llun
6
Cofnod dyddiadur
7
Linc
8
Cân / cerdd
9
Rhyngweithiol