Fe glywsoch sôn am Forys y Gwynt
A’i fod yn rhedwr nerthol,
Ond mi wn i am wibiwr gwell,
Un bachgen chwim, gwefreiddiol.
Roedd llam ei draed fel mellt o dân
Yn fflachio dros y dolydd,
A holltai’i goesau’r rhwystrau i gyd
Wrth rasio i ben y mynydd.
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.
Ni allai’r cŵn na’r meirch i gyd,
Na hyd yn oed y sgwarnog
Fyth guro camp y bachgen hwn –
Hedfanai’n gynt na’r hebog.
Rhyfeddai’i dad wrth weld ei fab
Yn galw’r praidd mor fuan,
Heb gi a ffon – ‘mond nerth ei draed –
Fe ddenai’r ŵyn i’r gorlan.
Pan fyddai’i fam, wrth hwylio te,
Yn ei ddanfon i nôl neges,
Fe fyddai’i mab yn ôl o’r dre
Cyn bod y dŵr yn gynnes.
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.
Aeth sôn drwy’r wlad am fab Nyth Brân
A daeth yn arwr enwog,
A byddai pawb, wrth fentro punt
Ar hwn, yn dod yn gefnog.
Yna, rhyw ddydd, daeth un John Prince
I herio’r Cymro enwog:
Fe guraf fi y llencyn hwn –
Mae gen i farch ardderchog!’
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.
Ni faliai Guto fotwm corn
Am ymffrost ei wrthwynebwr,
A chysgodd y noson cyn y ras
Mewn breuddwyd hardd ddifwstwr.
Drwy oriau’r nos, dychmygai Siân
Yn ei ddal mewn coflaid esmwyth,
A gwres y das yn gwrlid gwair,
Yn cadw’i gorff yn ystwyth.
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.
Er gwaetha’r dorf, doedd fawr ddim brys
Ar Guto’r bore hwnnw,
A lonciai’n braf heb sylwi dim
Ar y cynnwrf mawr a’r twrw.
‘Der mla’n! Der Guto! Rhed yn gynt!
Mae Prince a’i farch yn hedfan!
Fe fyddi’n siŵr o golli’r dydd,
A cholli Siân a’r cyfan!’
Ond gwyddai Guto’n dawel bach
Fod angen dechrau’n araf
Er mwyn cael ennill ras mor hir
A churo’r march cyflymaf.
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.
A fesul milltir, wele Prince
A’i geffyl mawr yn blino,
Ond wrth i’r rhedeg fynd yn faith
Dihunai awydd Guto.
Llamodd ymlaen fel ewig blwydd
A neidiodd dros rwystrau’r gelyn,
Ymlaen! Ymlaen! Heb edrych ‘nôl
A’i lygad ar y terfyn.
Roedd tre Casnewydd ymhell o’i ôl
A Bedwas ar y gorwel,
A’r eglwys fach a phen y daith
Yn ei ddenu ar yr awel.
Ac ar y llinell olaf hon
Fe waeddai’r dorf, ‘Y Diwedd!’
‘Mae Guto wedi cario’r dydd!
Mae’n haeddu’r holl anrhydedd!’
A chyda hyn, aeth mab Nyth Brân
At Siân, ei annwyl gariad,
‘Well done, fy machgen!’ a’i wasgu’n dynn –
A chollodd ei galon guriad.
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.
Diwedd y ras, a diwedd y dydd,
A diwedd y mab o’r mynydd
A allai redeg fel y gwynt,
Yn gynt na’r dryw a’r hedydd.
Bu farw Guto o fferm Nyth Brân,
A syrthio yn yr unfan.
Ac er ennill arian mawr y ras
Fe gollodd Siân y cyfan.
Guto Nyth Bran
A’i galon ar dân
Yn rhedeg a rhedeg
I ennill llaw Siân.