Mae’n siŵr eich bod chi i gyd yn gwybod faint o galorïau dylai dynion, menywod a phlant eu bwyta a’i yfed bob dydd.
Wel, oeddech chi’n gwybod bod llawer iawn iawn o bobl - y rhan fwyaf efallai yn bwyta mwy na dwywaith y nifer yna ar Ddydd Nadolig?
Petaech chi’n gofyn iddyn nhw ar Ddydd San Steffan faint o galorïau maen nhw wedi eu bwyta, bydden nhw’n dweud, “O tua 3,000!” achos dydyn nhw ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi bwyta cymaint.
Sleisien o dwrci - 190 o galorïau
Sosej mewn cig moch – 60 o galorïau
Pelen o stwffin – 50 o galorïau
Tatws rhost – 140 o galorïau
Tatws – 100 o galorïau
Grafi – 50 o galorïau
Ar ben hyn i gyd, rydyn ni’n bwyta cacen Nadolig sy’n tua 220 o galorïau yn dibynnu ar faint y darn wrth gwrs. Yn ogystla mae dros 200 o galorïau mewn mins peins!
Ond peidiwch â phoeni, dim ond ar un diwrnod y flwyddyn mae hyn yn digwydd – GOBEITHIO!
Yn wir, petaech chi’n bwyta fel hyn bob dydd, byddech chi’n rhoi 26 stôn ymlaen a byddech chi’n mynd yn sâl, mae hynny’n sicr!
OND…
Tra mae rhai ohonon ni’n bwyta’n rhy dda ar Ddydd Nadolig, mae pobl eraill yn gorfod byw ar y nesaf peth i ddim. Dw i’n cyfeirio at y ffaith bod pobl yn ein gwlad ni… yng Nghymru… ym Mhrydain… yn byw ar ychydig iawn a hynny drwy’r flwyddyn, nid yn ystod cyfnod y Nadolig yn unig.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell cafodd 1.9 miliwn o barseli bwyd ei rhannu i deuluoedd ym Mhrydain fawr yn ystod 2019/20. Mis Ebrill eleni cynyddodd y nifer o barseli a rannwyd o 89% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn ystod mis Ebrill eleni gofynnodd 100,000 o deuluoedd ychwanegol am roddion bwyd i fwydo’r teulu.
Wrth i ni fwynhau’r dathliadau Nadolig ydych chi’n barod i gefnogi eich banc bwyd lleol?
Cliciwch ar y cyswllt i weld ble mae eich banc bwyd lleol chi.
https://www.trusselltrust.org/get-help/find-a-foodbank/