Oeddech chi'n gwybod nad pysgodyn yw dolffin! Mae'n famal ac yn perthyn yn agos i ni!
Yn y Rhifyn hwn rydym yn dysgu mwy am ddolffiniaid, aelodau eraill o deulu’r morfil a bywyd y môr yn ein byd ni a chawn wybod mwy am beth ydyn nhw a ble gallwn ni eu gweld ledled Cymru. Ystyriwn beryglon posibl sy'n wynebu dolffiniaid a bywyd arall y môr a’r pethau da a drwg ynglŷn â chadw creaduriaid gwyllt mor hardd mewn caethiwed.
Does dim llawer o bobl yn ymwybodol bod y dolffin yn greadur deallus iawn: maen nhw’n dweud bod ymennydd dolffin trwyn potel, y byddwch chi’n eu gweld o amgylch glannau Cymru, yn fwy ac yn drymach na'r ymennydd dynol! Yn wahanol i lawer o rywogaethau’r môr, maen nhw’n gallu adnabod eu hunain mewn drych, sy'n dangos bod ganddyn nhw hunanymwybyddiaeth!
Er bod pobl yn credu am ganrifoedd bod dolffiniaid yn aelod o deulu’r pysgod, erbyn hyn rydym yn sylweddoli eu bod yn famaliaid mewn gwirionedd er eu bod yn byw yn y môr. Mae dros 40 o wahanol rywogaethau, ond yr un y byddwch chi’n fwyaf tebygol o'i gweld yma yw'r dolffin trwyn potel. Mae pob dolffin, llamhidydd ac Orca (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel morfil danheddog ) yn rhan o'r grŵp o anifeiliaid o'r enw morfilod. Maen nhw hefyd yn glyfar iawn am eu bod yn defnyddio sain – o’r enw ecoleoli – i hela ac i ddeall eu hamgylchoedd.
Maen nhw’n ystwyth iawn ac yn gallu sboncio a neidio a dywedir eu bod yn gallu plymio hyd at drigain metr o dan wyneb y dŵr: meddyliwch, mae hynny mor ddwfn â thaldra deg o dai. Maen nhw hefyd yn gallu neidio allan o'r dŵr yn llwyr a nofio'n gyflym iawn.
Yng Nghymru gallwch eu gweld yn aml ym Mae Ceredigion ac yn aml maen nhw’n nofio ochr yn ochr â chychod a llongau fel y fferïau sy'n hwylio i Iwerddon.
Oeddech chi'n gwybod bod dolffiniaid ar arfordir Cymru?
Os byddwch yn amyneddgar ac yn benderfynol, gallwch weld dolffiniaid mewn llawer man o amgylch glannau Cymru, yn enwedig yn y gorllewin. Mae hefyd yn bosibl eu gweld os byddwch yn teithio ar fferi ar draws Môr Iwerddon achos weithiau, maen nhw’n nofio ochr yn ochr â chychod a llongau. Mamaliaid fel ni yw dolffiniaid ac mae’n debyg eu bod yn hynod o ddeallus. Mae rhai awduron yn awgrymu bod yna fond rhyfedd rhwng pobl a dolffiniaid ers miloedd o flynyddoedd.
Mae dau brif aelod o deulu’r morfil i’w cael o amgylch Cymru; y dolffin trwyn poteli, a llamhidydd yr harbwr. Mae dolffiniaid trwyn potel yn aml yn cael eu gweld mewn grwpiau teuluol o’r enw 'podiau', a byddan nhw’n neidio ac yn chwarae yn y dŵr ac mae'n ymddangos eu bod yn greaduriaid cyfeillgar!
Mae gan ddolffiniaid trwyn potel fola lliw golau gyda lliw llwyd tywyllach ar eu rhan uchaf. Mae angen digon o amser i geisio gweld pod neu ddolffin, ac mae binocwlar yn ddefnyddiol hefyd. Yn aml iawn, y cyfan welwch chi yw asgell neu grŵp o esgyll yn torri wyneb y dŵr, ond gwyliwch yn ofalus ac efallai y cewch eu gweld yn torri wyneb y dŵr neu hyd yn oed yn neidio allan o'r dŵr yn llwyr. Bydd dolffiniaid yn dilyn wrth cychod gan neidio a chwarae yn olion y don sy’n cael ei greu gan drwyn y cwch.
Ar y llaw arall, dim ond mewn grwpiau bach y mae llamidyddion yn cael eu gweld ac fel arfer maen nhw’n llai cymdeithasol. Mae'r creaduriaid hyn yn anoddach i'w gweld. Maen nhw'n dangos asgell y cefn ac yn chwythu aer pan fyddan nhw'n torri wyneb y dŵr. Maen nhw’n dywyll ar eu cefnau ac yn fwy golau ar eu hochr a’u bola.
Mae Sofia yn gobeithio creu graffig "aruthredd" ar gyfer ei blog. Mae hi wedi dod o hyd i lawer o ffeithiau diddorol am ddolffiniaid.
Oeddech chi’n gwybod …
Maen nhw’n greaduriaid ARUTHROL!
Gwir neu Gau?
Allwch chi helpu Sofia drwy benderfynu pa osodiadau sy'n wir neu'n gau?
Atebion
1 Gau, 2 Gwir, 3 Gau, 4 Gwir, 5 Gau, 6 Gwir, 7 Gwir, 8 Gau, 9 Gau , 10 Gwir
SOFIA:
Shwmae bawb, Sofia sydd yma!
Dwi wedi bod wrthi’n ceisio dysgu popeth posib am y creaduriaid rhyfeddol yna, dolffiniaid, a dwi’n ei chael hi'n anodd credu sut gallen nhw fod wedi esblygu o anifeiliaid tir ac wedi addasu mor dda at fyw yn y môr. Oeddech chi'n gwybod mai mamaliaid ydyn nhw mewn gwirionedd ac nid pysgod? Dwi wedi gofyn i mam a ga fynd i nofio gyda dolffiniaid. Allwch chi ddim gwneud hyn yng Nghymru erbyn hyn, ond rydych chi’n dal yn cael nofio gyda nhw yn Fflorida ac mae hynny'n swnio'n hollol anhygoel!! Byddwn i wrth fy modd yn nofio gyda nhw – maen nhw'n edrych mor gyfeillgar!
DAFYDD D:
Dwi'n meddwl mai syniad plentynnaidd gwirion ydy hynny! Pam fyddet ti am wneud hyn te, Sofia? Fe aethon ni i Seaworld unwaith; fues i ddim yn hoff iawn ohono; dydyn nhw ddim yn gadael ichi nofio yn y môr agored pan fyddwch chi'n mynd i’r parciau bywyd môr yma; mae'n rhaid ichi nofio gyda dolffiniaid sydd wedi'u cloi mewn tanciau gwydr a choncrid caeedig. Gan dy fod di’n meddwl bod yr anifeiliaid hyn mor arbennig, wyt ti ddim yn credu ei bod hi’n greulon eu cadw nhw dan glo dim ond i ddiddanu pobl a gwneud triciau?
SOFIA:
Ydw, ond ydyn nhw ddim yn fwy diogel ac yn fwy cynnes ac yn cael eu bwydo'n dda yn y parciau bywyd môr yma? Gan eu bod mor chwareus dwi’n siŵr y bydden nhw’n mwynhau gwneud triciau er mwyn cael danteithion ac yn mwynhau cael pobl i nofio gyda nhw.
DAFYDD D:
Wel, ti sydd i benderfynu drosot ti fy hunan, Sofia, ond yn fy marn i mae'n greulon mynd ag anifeiliaid gwyllt o'r fath i ffwrdd o'u cynefin naturiol a'u cadw nhw mewn caets a’u dangos nhw er mwyn i rywun wneud arian allan ohonyn nhw. Dwi'n gwybod eu bod nhw'n ceisio eu cadw gyda dolffiniaid eraill ac nid ar eu pen eu hunain, ond nid dyma’u cartref naturiol nhw wedyn!
SOFIA:
Wel, dwi’n dechrau newid fy meddwl ynglŷn â hyn yn bendant!
DAFYDD D:
O, gyda llaw Sofia, wyt ti’n hoffi bwyta tiwna tun i ginio?
SOFIA:
Ydw, ond pam wyt ti’n holi?!
DAFYDD D:
Achos bod y pysgotwyr tiwna sy'n dal y tiwna a’i allforio i ni mewn tuniau yn aml yn lladd dolffiniaid; mae'r dolffiniaid yn cael eu dal yn y rhwydi gyda'r tiwna (maen nhw'n ceisio bwyta'r tiwna felly mae fel gwledd barod iddyn nhw!) ac yna mae'r pysgotwyr yn eu lladd nhw fel na fyddan nhw'n bwyta tiwna yn y dyfodol! Mae hi mor greulon ac mor ddiangen! Mae gwybodaeth am hyn ar y rhyngrwyd, ond fyddwn i ddim yn chwilio amdano am ei fod yn greulon iawn a braidd yn erchyll!
SOFIA:
Waw; don i ddim yn gwybod hyn Dafydd!!
DAFYDD D:
Hefyd, mae llawer o ddolffiniaid yn cael eu hanafu a'u lladd gan gychod oddi ar y glannau sydd â phropelor allanol – os byddi di’n llwyddo i weld dolffin ar daith oddi ar y glannau, efallai y gweli di rychau ar hyd ei gefn lle mae wedi cael ei "redeg drosodd" gan gwch yn y gorffennol!
SOFIA:
Wel Dafydd, o diar! Dwi'n credu efallai y bydd angen i mi ailfeddwl am fy mreuddwyd o nofio gyda dolffiniaid a hefyd edrych yn fwy ar y creulondeb mae'r creaduriaid truan yn ei wynebu a sut gallwn ni roi stop arno fe!
Oes gan rywun arall sy'n darllen fy edefyn unrhyw ffeithiau, syniadau a barn am hyn? Ychwanegwch eich sylwadau chi at fy edefyn dolffiniaid! Atebwch yn y blwch sylwadau isod:
Shwmae ffrind!
Cawson ni amser gwych yng Nghaernarfon ar drywydd fy hoff wyddonydd i, Marconi. Aethon ni i bob math o leoedd! Oeddet ti'n gwybod eu bod nhw’n galw Ynys Môn yn "Fôn mam Cymru”! Bydd rhaid i mi ddarganfod mwy o'r rheswm dros hynny!
Wel, mae'n rhaid imi sôn – ers i mam a fi weld y dolffiniaid anhygoel yma’n chwarae o dan Bont y Borth rydyn ni wedi bod yn ceisio dod o hyd i rywle i chwilio am ddolffiniaid! Roedd hi’n anarferol gweld dolffiniaid yma achos bod y dŵr yn rhy fas iddyn nhw!
Er eich bod chi’n dal yn gallu eu gweld nhw mewn sioeau dolffiniaid yn yr Unol Daleithiau a hefyd mewn rhai lleoedd yn Ewrop, mae’n drist dweud i bod yn amhosibl nofio gyda dolffiniaid mewn caethiwed yng Nghymru nac unman arall yn y Deyrnas Unedig na hyd yn oed eu gweld nhw mewn caethiwed.
Wyt ti’n meddwl bod hyn yn deg – pam gall Americanwyr gael cymaint o hwyl ac nid ni yma yng Nghymru?!
Dywedodd Tad-cu ei fod e’n cofio gweld dolffiniaid ymhell yn ôl ym 1972 mewn lle oedd yn cael ei alw’n Dolffinariwm yn Coney Beach ym Mhorth-cawl; waw, mae hynny bron hanner canrif yn ôl, roedden nhw'n arfer cael tripiau bws i lawr i Borth-cawl o'r cymoedd lle roedd e’n byw pan oedd e’n ifanc.
Dwedodd e eu bod nhw mewn adeilad concrit ac nad oedden nhw’n edrych yn hapus yno yn ei "farn fach e". Roedd dolffinariwm arall yn nes atat ti Sara, yn y Rhyl ar y pryd, ac mae Tad-cu’n cofio enwau'r dolffiniaid yno yn y Rhyl; "Flipper" oedd un a "Blodwyn" oedd y llall!
Mewn un ffordd, mae’n teimlo’n annheg na allwn ni weld a nofio gyda dolffiniaid er eu bod nhw’n cael gwneud hynny mewn gwledydd eraill. Beth wyt ti’n feddwl, Sara? Does bosib bod yr anifeiliaid yn cael gofal a digon o fwyd?
Roedd dolffinariwm bach yng Nghastell Gwrych hefyd gyda thanc oedd braidd yn fach ac wedi’i leinio â phlastig (roedd e’n gollwng dŵr yn ôl Tad-cu). Dim ond am ddwy flynedd y buodd e ar agor!
Fel gelli di weld, dwi wrthi nawr yn ceisio dysgu popeth posib am yr anifeiliaid rhyfeddol hyn!
Ta-ta tan toc.
Sofi xx
Tŷ Ni
25/09/2020
Sara
Ti’n gwybod, Sara, pryd bynnag y bydda i’n magu diddordeb mewn rhywbeth arbennig dwi am ddysgu popeth posib am y peth! Mae Tad-cu’n dweud fy mod i "fel ci ag asgwrn"; dwi'n meddwl ei fod yn golygu, unwaith y bydd gen i ddiddordeb mewn rhywbeth, dwi ddim yn rhoi'r gorau iddi nes fy mod i’n fodlon fy mod i wedi darganfod cymaint â phosib amdano! Dywedodd fy hoff athrawes unwaith fy mod i’n hoffi "holi’n dwll"!
Wel, Sara, ychydig yn ôl roeddwn i’n aros ar arfordir y Gogledd yng Ngwesty'r Celtic Royal yng Nghaernarfon ar drywydd Marconi, fy hoff ddyfeisiwr i; dwi’n credu fy mod i wedi sôn amdano o'r blaen. Aeth Mam â fi dros Bont Menai i ynys Môn (Môn Mam Cymru yn ôl fy athrawes i) ond ychydig cyn i ni groesi fe sylwon ni fod grŵp o ddolffiniaid yn y pellter yn chwarae odanon ni yn Afon Menai; wel Sarah roedd y peth yn WAW!
"Un diwrnod pan fydda i'n hŷn", dwedes i wrth Mam wrth imi edrych arnyn nhw. "fe fyddwn wrth fy modd yn nofio gyda dolffiniaid".
Dywedodd Mam fod yna ddolffiniaid caeth mewn canolfan bywyd môr ym Mhorth-cawl, yn y Rhyl ac mewn acwaria eraill heb fod yn hir yn ôl, ond erbyn hyn, meddai, diolch byth, does dim un ar ôl mewn caethiwed yn unman ym Mhrydain. Er hynny, mae llawer o "Dolphinariums" o hyd yn yr Unol Daleithiau, yn Tsieina ac mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd. Er enghraifft, mae'n dal yn bosibl nofio gyda dolffiniaid yng nghanolfan y Discovery Cove Aquarium yn Fflorida – sy’n swnio'n wych!
Dyna ni wedyn; er na cha i nofio gyda dolffiniaid yng Nghymru nac ym Mhrydain, dwi am wneud popeth posib i ddarganfod popeth alla i am y creaduriaid anhygoel yma! Dwi'n meddwl mai fy ymdeimlad i o ryfeddu at bethau sydd wedi dechrau eto – felly cymer ofal!
Cei di neges arall gen i cyn rhy hir,
Sofia
Yr Utgorn Dyddiol
19 Awst 2020
Daeth rhyw 150 o wylwyr ynghyd ar bier Sant Siôr ym Mhorthaethwy fore Iau a’r rheiny prin yn gallu credu'r hyn roedden nhw’n ei weld.
Bu'n rhaid i rai edrych ddwywaith pan welson nhw olygfa mor anghyffredin, tri dolffin yn rhoi perfformiad i'r rhai oedd yn gwylio. Dywedodd rhai o'r gwylwyr fod ganddyn nhw ddagrau yn eu llygaid yn gwylio'r anifeiliaid gwych hyn nad ydyn nhw fel arfer yn cael eu gweld yn y dyfroedd bas yma.
Mae dolffiniaid cyffredin wedi’u gweld yn Afon Menai ar brydiau, ond roedd gweld dolffiniaid trwyn potel yn rhywbeth arbennig, meddai un o'r gwylwyr.
Am 9 o’r gloch fore dydd Iau y cafodd y dolffiniaid eu gweld am y tro cyntaf, gan deithwyr ar gwch RIB oedd ar daith antur ar hyd yr afon gyflym. Rhyfeddodd y teithwyr ac anfon negeseuon testun a negeseuon fideo at eu ffrindiau i ddod i edrych, ac felly dechreuodd nifer y gwylwyr ar y lan gynyddu wrth i fwy o bobl gyrraedd i weld yr olygfa anghyffredin.
Roedd yna sawl barn wahanol ynghylch pam roedd y dolffiniaid wedi penderfynu nofio a chwarae yn y fan yma. Mae rhai o'r farn mai'r rheswm yw mai pysgod fel mecryll yw deiet y dolffin trwyn potel a bod heigiau o fecryll wedi'u chwythu oddi ar eu cwrs arferol ac i mewn i'r afon. Awgrymodd eraill fod y dolffiniaid yno er mwyn cysgodi rhag y stormydd ar hyd glannau Cymru dros yr wythnosau diwethaf.
Beth bynnag oedd y rheswm, rhoddodd y dolffiniaid trwyn potel hyn brofiad gwych i'r rhai oedd yn gwylio ac yn ffilmio o weld y mamaliaid môr hyn yn agos.
Llun gan: Rib Ride
Wel annwyl ddarllenwyr, Sofia sydd yma eto! Dyma fy mlog diweddaraf i roi gwybod i chi beth dwi wedi bod yn ei wneud – a beth dwi’n dysgu amdano ar hyn o bryd! Dechreuodd y cyfan pan welodd mam a fi ddolffiniaid yn Afon Menai a dwedes y byddwn i wrth fy modd yn mynd i chwilio am ddolffiniaid ryw ddydd, a phan fydda i'n hŷn yr hoffwn i nofio gyda nhw hefyd!
Oherwydd hyn, dwi’n nodi rhywfaint o beth dwi wedi'i ddysgu ac fe hoffwn i ofyn a allech chi roi unrhyw ffeithiau eraill sy’n hysbys i chi. Oes rhywun wedi bod allan tybed i chwilio am ddolffiniaid ac yn gallu dweud wrtha i am le da i yrru iddo er mwyn mynd allan mewn cwch i fod yn agos at ddolffiniaid. Hefyd oes unrhyw un yn gwybod am rywle lle gallwch chi nofio gyda dolffiniaid?
Wel, mi wna i roi gwybod i holl ddarllenwyr y blog pan fydda i wedi llwyddo i weld dolffiniaid. Am y tro, daliwch ati i anfon ffeithiau a ffigurau a fydd yn fy helpu i ddysgu popeth posibl am y creaduriaid ANHYGOEL hyn! Alla i ddim credu eu bod wedi esblygu o anifeiliaid tir ac wedi llwyddo i addasu cystal i fywyd yn ein moroedd ni!!
Chwilio am ddolffiniaid, Ceinewydd
Dolffiniaid yn hela pysgod yn Chanonry Point, yr Alban
Sioe Dolffiniaid. Pedwar dolffin yn neidio’r bar.
Dolffin marw wedi'i olchi i fyny ar draeth cerrig mân
Anatomeg Dolffin
Allwch chi labelu rhannu corff Dolffin?
Dolffiniaid trwynbel yn yr Afon Menai
Fideo gan RibRide