Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog o hanesion a chwedlau hud a lledrith o'r Mabinogion i Gawr y Carneddau a llawer o broffiliau o frenhinoedd, cewri, beirdd ac awduron enwog.
Mae chwedl yn stori draddodiadol sydd weithiau'n cael ei chyfrif yn hanesyddol ond sydd heb ei dilysu fel un wir wedi’i seilio ar ffeithiau. Y gred yw bod mythau a chwedlau yn storïau lled wir sydd wedi eu trosglwyddo o’r naill berson i'r llall drwy'r oesoedd.
Mae mytholeg Gymreig yn cynnwys traddodiadau gwerin a ddatblygwyd yng Nghymru a thraddodiadau a ddatblygwyd gan y Brythoniaid Celtaidd mewn mannau eraill cyn diwedd y mileniwm cyntaf. Y Brythoniaid Celtaidd neu’r Hen Frythoniaid oedd y bobl Geltaidd frodorol a oedd yn byw ym Mhrydain Fawr o Oes yr Haearn ym Mhrydain o leiaf (y 12fed Ganrif CC) tan yr Oesoedd Canol (500 -1500), pan aethon nhw ar wahân fel tair cenedl: Cymry, Cernywiaid a Llydawiaid.
Fel yn y rhan fwyaf o gymdeithasau, cafodd mytholeg a hanes y Celtiaid eu cofnodi ar lafar gan unigolion fel derwyddon. Dros ganrifoedd mae cofnod llafar y derwyddon neu’r beirdd wedi'i golli neu wedi’i newid gan greu'r chwedlau adnabyddus rydyn ni’n eu deall heddiw. Mae'n hynod ddiddorol bod llawer o'r chwedloniaeth a'r hanes yma wedi’i gadw mewn llawysgrifau Cymreig o’r oesoedd canol, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Aneirin a Llyfr Taliesin. Mae'n bosibl gweld cynnwys y llawysgrifau canoloesol amhrisiadwy hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth neu ar-lein drwy eu porth digidol. Tybed a welwch chi chwedl am eich ardal leol chi?
Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw fythau a chwedlau yn eich ardal leol chi? Pwy a ŵyr, efallai eich bod yn cerdded i'r ysgol ar hyd llwybrau beirdd, cewri neu frenhinoedd yr oes a fu!