Annwyl Dr. Beeching,
Gyda siom y clywson ni yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned lleol am eich cynnig i gau'r rheilffordd rhwng Rhiwabon a'r Bermo, sy'n rhedeg drwy ein pentref. Mae canran fawr o’r pentrefwyr yn dibynnu ar y rheilffordd am eu bywoliaeth. Bydd cau 338 o orsafoedd yn ddiwedd ar ein cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae'r orsaf yma yn ganolfan fasnachol bwysig ar gyfer dosbarthu glo, bwydydd anifeiliaid, nwyddau cartref a nwyddau haearn. Hefyd, mae'r trên yn danfon y Post Brenhinol i Swyddfa'r Post bob dydd. Mae'n gyswllt hanfodol i'n heconomi. Yn wir, mae pum aelod o un teulu yn gweithio i'r GWR mewn rhyw swydd neu'i gilydd. Mae’r Gorsaf-feistr hefyd yn byw yn y pentref. Mae'r rheilffordd yn ffynhonnell waith hanfodol i'n dynion ifanc a does dim rhagolygon o swyddi eraill yn lleol. Nid yw eich penderfyniad yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd.
Yn ymgyrch etholiadol ein Haelod Seneddol yn ddiweddar, fe roddodd sicrwydd i’r gymuned y byddai'r rheilffordd yn parhau ar agor ar gyfer y genhedlaeth i ddod. Yn amlwg, nid yw hyn yn wir, a dim ond addewid wag oedd hyn i ennill pleidleisiau. Byddem yn croesawu cyfle i gyfarfod wyneb yn wyneb â chi er mwyn ichi weld drosoch eich hun effeithiau negyddol eich penderfyniad arfaethedig i gau'r rheilffordd.
Felly, rydym yn gofyn ichi ailystyried gan ein bod ni fel plwyf cymunedol yn anghytuno'n ffyrnig â'ch cynigion ffwndrus.
Yn gywir,
Arthur Edwards, Clerc y Cyngor Plwyf, Llanuwchllyn.