Mae’r enw ‘Cymru' yn dod o hen air Brythoneg ‘Cymbrogi’ sy'n golygu ‘pobl o’r un fro’ neu 'cyd-wladwyr'. Ar hyn o bryd mae poblogaeth Cymru tua 3.2 miliwn ac mae mwy na 20% yn gallu siarad Cymraeg. Caerdydd yw prifddinas Cymru.
Am ddegawdau roedd Cymru'n adnabyddus oherwydd ei heconomi diwydiannol, lle'r oedd llawer o gyfoeth yn dod o ddeunyddiau crai fel glo a llechi. Bydd gan lawer o bobl y Gogledd a'r De neiniau a theidiau a hen neiniau a hen deidiau oedd yn gweithio ar ffermydd, mewn chwareli llechi, pyllau glo, y diwydiant dur, ar beiriannau stêm ac mewn ffatrïoedd. Efallai y byddai ein hynafiaid hyd yn oed wedi ymfudo i Gymru o'r tu allan ac wedi ymgartrefu yma i weithio yn y diwydiannau sylfaenol ac eilaidd hyn.
Mae'r Gymru newydd yn lle llawer iachach, glanach a gwyrddach; mae llawer o'r diwydiannau peryglus a llygredig wedi diflannu ac mae Cymru'n ei gweddnewid ei hun yn gyrchfan y mae llawer o bobl o bob rhan o'r byd yn dymuno ymweld â hi ar gyfer gwyliau a gweithgareddau hamdden. Ar ddiwedd oes Victoria roedd twristiaeth yn ffynnu yng Nghymru a datblygodd cyrchfannau ar lan y môr yng Nghymru yr atyniadau diweddaraf un, sef pierau glan môr. Mae atyniadau diweddaraf y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys cyfleoedd antur fel arforgampau, gwifrau gwibio a sglefrfyrddio i lawr mynyddoedd. Unwaith eto, mae Cymru ar flaen y gad o ran cyrchfannau a gweithgareddau gwyliau cyffrous!
Mae gan Gymru ganrifoedd lawer o hanes ac adeiladau hanesyddol; amrywiaeth o dirweddau a chynefinoedd, bryniau hardd, cymoedd, llwybrau arfordirol a thraethau tywodlyd. Mae gan Gymru amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, ar y tir ac yn y moroedd o'n cwmpas. Mae yma fannau aros sy’n addas i bob poced, boed ar y bryniau neu o amgylch y glannau gwych. Mae yma fannau sy'n darparu gweithgareddau hamdden sy'n addas i lawer o wahanol oedrannau, galluoedd a diddordebau.
Mae'r rhifyn hwn yn ystyried yr hyn y gall Cymru ei gynnig i bobl sy'n dymuno ymweld â hi. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau am sut mae gwlad yn addasu at newid mewn economeg, diwydiant a chymdeithas.
Croeso i Gymru!
Wel croeso nôl bawb i'r blog, lle dwi'n rhannu gyda fy ffrindiau beth dwi wedi bod yn ei wneud yn ogystal â rhai o'm syniadau i, yn enwedig pan hoffwn i wybod eich syniadau chi hefyd!
Buodd Mam a fi yn y Gogledd, lle roedd hi eisiau gweld yr Wyddfa a'r glannau, yn enwedig y pierau o oes Victoria yn y trefi ar lan y môr. Roedd hi hefyd eisiau mynd i Gerddi Bodnant. Ond fy ffefryn i oedd Zipworld yn hen Chwarel Lechi’r Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Roeddwn i'n poeni y byddwn i'n rhy ifanc i fynd ar y gwifrau gwibio sy'n mynd ar draws y tomenni gwastraff llechi ac o dan y ddaear lle mae miloedd o dunelli o lechi wedi'u cloddio allan i roi’r toeon ar adeiladau ledled Cymru a'r byd! Ond fe adawon nhw imi fynd gan fy mod i’n ddigon hen i fynd ar y gwifrau uwchben y ddaear ac o dan y ddaear yn yr ogofâu enfawr sydd wedi’u creu gan y chwarelwyr!
Bobol bach, roedd hi’n anhygoel yn enwedig am fod mam wedi dod hefyd! Buon ni’n hedfan gyda'n gilydd drwy'r awyr ar gyflymder aruthrol! Ond, wrth edrych o gwmpas, doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth roeddwn i’n feddwl am y newid o'r diwydiant llechi i le hamdden.
Beth ddywedai’r hen chwarelwyr, tybed, y miloedd o ddynion fu’n chwysu yma drwy gydol eu bywydau am flynyddoedd lawer, pan oedd y rhan fwyaf o'r llechi’n cael eu tynnu â llaw, eu torri a'u siapio gan y cymeriadau caled hyn. Roedd gan y chwareli hyd yn oed eu hysbyty a'u marwdy eu hunain am fod cymaint o ddamweiniau’n digwydd.
Ydych chi’n credu y dylen ni anghofio'r holl waith caled a’r holl ddioddef mewn ardaloedd diwydiannol fel chwarel lechi Llechwedd?
Oes yna bwyntiau da ynglŷn â’r newid hwn? Mae Zipworld yn rhoi gweithgareddau hwyliog a chyflogaeth ddefnyddiol i lawer o bobl yr ardal. Maen nhw’n denu pobl o bob rhan o'r byd i ymweld ac i aros yng Nghymru ond oni ddylen ni ddangos mwy o barch at yr hanes?
Byddwn i wrth fy modd yn gwybod eich barn chi am hyn! Ar ôl codi'r cwestiynau hyn, rhaid imi ddweud fy mod i’n credu ei bod yn anhygoel a dwi’n mynd i gynilo ar gyfer ymweliad arall! Dwedwch wrth eich ffrindiau i gyd!
Dwi'n falch iawn mai heddiw rydw i’n byw ac nid yn oes y glo a’r llechi!
Sofia
Croeso nôl i'r blog, lle dwi'n rhannu beth dwi wedi bod yn ei wneud a rhai o fy syniadau i hefyd...
Roedd Mam eisiau mynd am saib yn Sir Benfro er mwyn inni dreulio amser yn cerdded llwybr yr arfordir. Waw, roeddwn i'n meddwl mai dim ond siopa a bolaheulo oedd o ddiddordeb iddi!
Fe gawson ni amser gwych ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ond y syndod mwyaf oedd ble roedd hi wedi trefnu lle i ni aros!
Roedd hi wedi cadw lle mewn un o'r "podiau glampio" cyntaf sydd wedi'u hangori erbyn hyn ym Marina Aberdaugleddau. Flynyddoedd yn ôl (nid mor bell yn ôl â hynny, yn ôl Tad-cu) roedd hwn yn ddoc prysur iawn lle roedd miliynau o dunelli o bysgod môr yn cael eu glanio, eu rhoi mewn bocsys rhew a'u hanfon ar y trên stêm i leoedd fel Caerdydd, Birmingham a Llundain.
Ar y cei mae amgueddfa sydd â hen ffotograffau sepia. Yn ôl y bobl leol, pan oedd y doc ar ei anterth, gallech chi gerdded o’r naill ochr i'r llall heb wlychu’ch traed gan fod y dociau’n llawn llongau hela morfilod, llongau pysgota a chychod eraill!
Yn ddiweddar, mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau wedi goruchwylio'r gwaith o adfywio'r rhan yma o Gymru ac wedi dymchwel hen adeiladau paratoi a phacio pysgod ac wedi rhoi siopau a fflatiau modern yn eu lle. Mae'r rhan fwyaf o’r llongau pysgota a’r cychod gwaith eraill wedi mynd hefyd ac wedi cael eu disodli gan gychod hamdden fel cychod hwylio a badau bach eraill. Maen nhw ar fin codi gwestai aml-lawr yma hefyd.
Roeddwn i'n meddwl mor drist fyddai pawb oedd yn arfer gwneud eu bywoliaeth drwy bysgota a hyd yn oed drwy hela morfilod o'r dociau yma, o weld y cyfan yn cael ei ddymchwel a'u bywydau nhw'n cael eu hanghofio.
Fyddech chi’n cytuno y dylen ni gofio sut roedd pethau, ond symud ymlaen i ddyfodol mwy disglair?
Mae Sir Benfro’n mynd yn fwyfwy poblogaidd ac maen nhw’n dweud ei bod hi fel "pot mêl" yn denu twristiaid o'r tu allan. Yn ôl y bobl leol y cwrddes i â nhw, mae hyn yn dda, ond maen nhw’n sôn bod taliadau parcio ceir a phrisiau tai yn codi erbyn hyn, ac maen nhw hefyd yn poeni y gallai'r ysbyty lleol a meddygon gael eu llethu.
Beth yw’ch barn chi? Ydy pob newid yn dda?
A ddylai Cymru fod wrthi’n hybu twristiaeth neu'n gofalu am y rhai sy’n byw yma’n barod? Yn y pen draw, chi a fi fydd yn etifeddu hyn i gyd, felly mae angen i bob un ohonon ni fod yn ymwybodol o'r wlad hyfryd rydyn ni’n byw ynddi.
Wel, dyna ddigon gen i am y tro.
Gadewch imi gael eich barn chi!
Sofia
Mae yna lawer o safbwyntiau ar y lleoedd gorau i ymweld â nhw ar eich gwyliau yng Nghymru.
Er enghraifft, yn 2018 cyhoeddodd y Daily Mirror restr o'r deg lle harddaf i ymweld â nhw, yn eu barn nhw.
Mae eu herthygl nhw’n dweud:
“Os ydych chi'n meddwl am wyliau gartref, yna mae digon o resymau pam dylai Cymru fod ar frig y rhestr ar gyfer eich gwyliau bach nesaf. Wedi'r cyfan, mae ganddi dirnodau sy'n cymryd eich anadl a golygfeydd hynod o drawiadol hefyd.
O dirweddau eang ysgubol i bentrefi pert a chestyll hanesyddol, mae digon o lecynnau na fyddwch chi am eu colli p’un a ydych chi am ddiwrnod allan neu rywle i gael gwyliau byr."
Beth am greu eich rhestr eich hun o leoedd yr hoffech chi ymweld â nhw neu’r deg lle gorau ar gyfer gwyliau yn eich barn chi? Pam?
Ffordd y Cymry!
Sofia:
Wel mae Mam yn dweud ei bod yn mynd â ni i Lanberis, ein bod ni’n mynd i glampio, ac yna dringo’r Wyddfa gyda'n gilydd. Ond dwi’n credu mai twyllo wnaiff hi, ac yn y trên y byddwn ni’n mynd!
Kamal:
Gobeithio y byddwch chi'n dod i ben ac yn cyrraedd y copa; mae hi wedi bod yn erchyll eleni oherwydd nifer y bobl sy'n cerdded i fyny! Maen nhw'n dweud bod mwy na deng miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn a bod o leiaf 600,000 yn cyrraedd y copa, sydd ddim mor uchel â hynny!
Ceisiodd fy nheulu i gyrraedd y copa ym mis Awst. Fe fuon ni mewn ciw hir i gyrraedd a chael sefyll ar y copa! Roedd hi’n werth yr ymdrech pan gyrhaeddon ni mewn gwirionedd, roedd yr olygfa’n rhyfeddol!
Sofia:
Mae Mam yn dweud ei bod hi wedi bod yn brysur iawn am fod pobl o'r Deyrnas Unedig heb fynd dros y môr eleni oherwydd y pandemig. Dwi’n meddwl ei bod hi’n wych bod cynifer o bobl wedi dod i Gymru. Mae'n wych eu bod yn teimlo bod croeso iddyn nhw yma a’u bod nhw’n gwario arian y bydden nhw wedi'i wario dros y môr.
Ceri:
Helo chi’ch dau. Ga i gynnig fy marn i hefyd? Dwi'n byw ym Meddgelert ac mae fy nhad yn rhedeg gwesty yma. Byddai o'n cytuno yn bendant. Mae’n rhaid inni gael y pres mae’r twristiaid yn dod ag o i'r ardal ac mae o'n dweud bod rhaid ichi “daro tra bo’r haearn yn boeth”. Mae’n gwesty ni wedi bod yn llawn ac rydyn ni wedi bod yn gwrthod cwsmeriaid am fod y lle’n llawn!
Kamal:
Sorri, ond mae cael cymaint yn dringo’r Wyddfa yn dechrau creu problemau. Mae'r llwybrau'n erydu, ac mae'r amgylchedd yn cael ei ddifetha am fod gormod o bobl yno yr un pryd. Hefyd, dwi wedi gweld adroddiadau bod llawer o sbwriel wedi'i adael ar y mynydd! Maen nhw’n ystyried codi tâl ar bobl am ddringo nawr, a defnyddio'r arian i adfer y llwybrau.
Ceri:
Beth? Ddylen nhw ddim meddwl codi tâl hyd yn oed! Ein mynydd ni ydi o a ni sy’n byw yn lleol! Digywilydd!
Sofia:
Mae Mam yn dweud bod yna gydbwysedd bob amser. Oes gan rywun arall sy'n darllen hyn farn achos dwi ddim yn siŵr beth dwi'n ei feddwl erbyn hyn! Dwi’n gwybod y dylen ni roi croeso i bobl. Dwi newydd ddod o hyd i hyn ar newyddion y BBC ar gyfer y Gogledd. Gwallgof! Beth yw’ch barn chi?
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53975782
Croeso i Gymru
Os ydych chi’n ddigon ffodus i fyw yng nghefn gwlad neu ar lannau Cymru yn barod, efallai na fyddwch chi’n sylweddoli y byddai llawer o bobl sy'n byw i ffwrdd neu'n byw yma mewn dinasoedd yn llawn cenfigen atoch. Weithiau mae angen i bob un ohonon ni stopio a chofio mor ffodus ydyn ni yn cael byw yma. Beth sy'n gwneud Cymru'n arbennig i chi?
Yn y gweithgaredd hwn mae cyfres o osodiadau ynglŷn â Chymru a allai demtio rhywun i ymweld ac aros. Allwch chi benderfynu sut byddech chi’n rhoi’r gosodiadau isod yn eu trefn o ran eu blaenoriaeth i chi. Beth fyddai'n eich denu chi’n fwyaf arbennig i Gymru?
Does dim atebion cywir: chi biau dewis a hynny ar sail eich syniadau a'ch diddordebau chi. Beth fyddai eich pump uchaf chi? Beth fyddech chi'n ei ychwanegu at y rhestr?
Draw ymhell mae llais yn galw
megis clychau’r co’
tyrd adre nôl, tyrd adre nôl
yw galwad y galon ers tro.
Fe fydd ’na groeso yn y mynydd
a chroeso drwy bob pant a dôl,
fe fydd y tir yn dal i ganu
pan ddoi di adre’ i Gymru nôl.
Fe gei di groeso yn ei chanu,
fe gei gynhesrwydd yn ei chôl,
fe gei di wlad sy’n llawn o hiraeth
pan ddoi adref i Gymru nôl.
Fe fydd ’na groeso yn y mynydd
a chroeso drwy bob pant a dôl,
fe fydd y tir yn dal i ganu
pan ddoi di adre’ i Gymru nôl.
Fe gei di groeso yn ei chanu,
fe gei gynhesrwydd yn ei chôl,
fe gei di wlad sy’n llawn o hiraeth
pan ddoi adref i Gymru nôl.
Fe gei di wlad sy’n llawn o hiraeth
pan ddoi adref i Gymru nôl.
Addasiad Tudur Dylan Jones
Out of copyright
Dyma addasiad o gân Saesneg mae Tad-cu Sofia’n ei chanu’n aml, o’r enw We’ll Keep a Welcome in the Hillsides. Fe gafodd ei hysgrifennu ym 1940 gan Lynn Joshua a dyma’r gân oedd yn agor rhaglen radio o'r enw "Welsh Rarebit" a oedd yn cael ei chynhyrchu gan Mai Jones yng Nghaerdydd ac yn cael ei darlledu bob wythnos ar draws y byd o Neuadd Cory gyferbyn â Gorsaf Heol y Frenhines yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd hwn hefyd yn gyfnod pwysig o newid mawr yng Nghymru.
Dwedodd Tad-cu fod y gân wedi dod yn adnabyddus iawn a bod milwyr Cymru wrth eu bodd yn ei chlywed pan oedden nhw’n gwasanaethu oddi cartref. Mae yna air Cymraeg yn y gân Saesneg a hwnnw’n air sydd heb air i gyfateb iddo mewn unrhyw iaith arall: "hiraeth". Yn ôl Tad-cu mae’r gair “hiraeth” yn crisialu’r teimlad o fod yn Gymro neu Gymraes alltud.
Mae'r gân yn dal yn boblogaidd nawr ac mae llawer o gorau a chantorion enwog o Gymru wedi'i recordio. Mae wedi cael ei defnyddio hefyd mewn hysbysebion teledu modern ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
Llinell amser datblygiad gwyliau yng Nghymru
Daeth trefi fel Bae Colwyn, y Rhyl, Llandudno yn y Gogledd, Llandrindod yn y Canolbarth a mannau fel Ynys y Barri a Dinbych-y-pysgod yn y De yn boblogaidd gyda gweithwyr tua diwedd cyfnod y frenhines Victoria. Cafwyd rhuthr i adeiladu promenadau, pierau a chyfleusterau hamdden eraill wrth i'r rheilffyrdd gyrraedd gan ddod â thwristiaid o bell! Roedd yn gyfnod o newid enfawr!
Dyma’r cyfnod pan gafodd rheilffyrdd stêm eu datblygu, a oedd yn golygu y gallai llawer o bobl fforddio teithio ymhellach i ffwrdd am y tro cyntaf. Cyn hyn, ar gefn ceffyl neu mewn coets yn cael ei dynnu gan geffylau y byddech chi’n teithio, neu ar gwch o amgylch y glannau.
Ar yr un pryd, roedd yna newidiadau a ddaeth â’r Gwyliau Banc cyntaf i mewn. Yn y pen draw, byddai diwydiannau fel y diwydiant glo yn trefnu i'w gweithwyr gael gwyliau fel "Pythefnos y Glowyr" pan fyddai trenau arbennig yn cael eu trefnu i fynd â miloedd o weithwyr i aros mewn tai llety ar lan y môr.
Yn Ne Sir Benfro, hyd yn oed heddiw, mae yna ddau drên gwyliau arbennig; un o ganolbarth Lloegr ac un o Lundain sy'n dilyn amserlen arbennig dydd Sadwrn y gwyliau ar gyfer ymwelwyr â Dinbych-y-pysgod.
Roedd yna wersylloedd gwyliau hefyd a gafodd eu datblygu gan Billy Butlin ac a oedd yn cynnwys rhesi o gabanau, bwyd yn cael ei weini i filoedd o "wersyllwyr" bob dydd ac adloniant mewn bariau a theatrau enfawr. Roedd un ym Mhwllheli ac un yn Ynys y Barri, a'r ddau ar gau cyn diwedd y 1900au.
Yn fwy diweddar rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn carafanau sefydlog, cabanau a bythynnod hunanarlwyo yn ogystal â "phodiau" a "glampio".