Clociau Cwcw

Clociau Cwcw

Canllaw Rhiant & Athro
Clociau Cwcw

Ydych chi'n nabod rhywun sydd â chloc cwcw? Dydy cloc cwcw ddim yn taro fel cloc cyffredin. Mae sŵn y gwcw'n canu ac mae'r aderyn ei hun yn dod allan ar yr un pryd. 

Nid rhywbeth newydd yw gwneud cloc cwcw. Mae'r syniad yn mynd yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd. Ond mae'r cloc cwcw 'modern' yn dod o ardal y Goedwig Ddu yn ne'r Almaen. Dechreuodd pobl wneud clociau cwcw yno tua 1740. Roedd blodau wedi'u peintio ar y deialau cynharaf. Wedyn, dechreuon nhw gerfio dail ac anifeiliaid pren arnyn nhw, fel yr un yma ar y dde. 

Mae rhai clociau'n edrych fel 'chalet' bach, fel y rhai ar y chwith isod.

Mae rhai clociau'n canu cân ar ôl i'r gwcw ganu. Weithiau, mae pethau eraill yn symud, fel dyn yn torri coed neu anifail yn neidio.

Yr hen a'r newydd

Gyda chlociau 'hen ffasiwn', rhaid eu weindio naill ai bob dydd neu bob wythnos. Batri cwarts sy'n gyrru clociau modern. Mae synhwyrydd golau mewn rhai clociau, felly dydy'r gwcw ddim yn canu yn y nos, diolch byth! Mae clociau cwcw sydd wedi'u gwneud â llaw yn eithaf drud fel arfer.

Y cloc cwcw mwyaf yn y byd

Mae clociau cwcw mawr wedi cael eu hadeiladu mewn sawl pentref yn y Goedwig Ddu, i ddenu twristiaid. Maen nhw'n dweud bod y cloc cwcw mwyaf yn y byd yn Triberg. Mae pobl yn mynd yno i dynnu llun y cloc.

1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Testun & llun
5
Sgwrs
6
Linc
7
Erthygl newyddion
8
Cerdyn gwybodaeth
9
Cyfres o luniau
10
Fideo
11
Rhyngweithiol