Ydych chi'n nabod rhywun sydd â chloc cwcw? Dydy cloc cwcw ddim yn taro fel cloc cyffredin. Mae sŵn y gwcw'n canu ac mae'r aderyn ei hun yn dod allan ar yr un pryd.
Nid rhywbeth newydd yw gwneud cloc cwcw. Mae'r syniad yn mynd yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd. Ond mae'r cloc cwcw 'modern' yn dod o ardal y Goedwig Ddu yn ne'r Almaen. Dechreuodd pobl wneud clociau cwcw yno tua 1740. Roedd blodau wedi'u peintio ar y deialau cynharaf. Wedyn, dechreuon nhw gerfio dail ac anifeiliaid pren arnyn nhw, fel yr un yma ar y dde.
Mae rhai clociau'n edrych fel 'chalet' bach, fel y rhai ar y chwith isod.
Mae rhai clociau'n canu cân ar ôl i'r gwcw ganu. Weithiau, mae pethau eraill yn symud, fel dyn yn torri coed neu anifail yn neidio.
Yr hen a'r newydd
Gyda chlociau 'hen ffasiwn', rhaid eu weindio naill ai bob dydd neu bob wythnos. Batri cwarts sy'n gyrru clociau modern. Mae synhwyrydd golau mewn rhai clociau, felly dydy'r gwcw ddim yn canu yn y nos, diolch byth! Mae clociau cwcw sydd wedi'u gwneud â llaw yn eithaf drud fel arfer.
Y cloc cwcw mwyaf yn y byd
Mae clociau cwcw mawr wedi cael eu hadeiladu mewn sawl pentref yn y Goedwig Ddu, i ddenu twristiaid. Maen nhw'n dweud bod y cloc cwcw mwyaf yn y byd yn Triberg. Mae pobl yn mynd yno i dynnu llun y cloc.
Big Ben – a Chymru!
Mae pawb yn gwybod mai yn Llundain mae Big Ben, felly beth ydy'r cysylltiad â Chymru?
Wel, y cysylltiad ydy Benjamin Hall (1802-1867). Yn y 19eg ganrif, roedd yn aelod seneddol dros Sir Fynwy ac wedyn dros Marylebone. Peiriannydd sifil oedd e, felly gwyddai sut roedd codi adeiladau a phontydd yn ddiogel. Benjamin Hall oedd y goruchwyliwr yn ystod gwaith ailadeiladu'r Senedd yn Llundain. Ef oedd yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod y gloch fawr 13.8 tunnell yn cael ei gosod yn iawn yn y tŵr.
Enw'r gloch ydy 'Big Ben' ac mae rhai pobl yn dweud ei bod wedi cael ei henwi ar ôl Benjamin Hall. Hwyrach am fod ei enw ar y gloch, neu efallai am ei fod e'n ddyn mawr, tal - neu'r ddau!
Ydy tŵr Big Ben yn gwyro?
Ydy, mae'n debyg! Mae Tŵr y Cloc ym Mhalas San Steffan lle mae cloch Big Ben wedi'i lleoli yn gwyro tua 1/250 o'r llinell fertigol.
Yn ystod yr 20fed ganrif, cafodd maes parcio pum llawr ei adeiladu o dan y Senedd yn Llundain, a llinell Jubilee Line y system trenau tanddaearol hefyd. Ond does dim angen poeni. Mae arbenigwyr yn dweud nad rhywbeth newydd ydy'r gwyro. Maen nhw'n dweud bod tŵr Big Ben wedi symud yn fuan ar ôl cael ei adeiladu, ac nad ydy'r gwaith ar y maes parcio a'r llinell drên wedi cael effaith. Maen nhw'n cadw llygad arno, felly fydd e byth fel Tŵr Pisa - gobeithio!
Big Ben a Gwenynen Gwent
Priododd Benjamin Hall ag Augusta Waddington, o Blas Llanofer yn sir Fynwy a daethon nhw'n Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer. Roedd hi hefyd yn cael ei galw'n 'Gwenynen Gwent'.
Doedd Arglwyddes Llanofer ddim yn siarad Cymraeg, ond roedd diddordeb mawr ganddi mewn cerddoriaeth, dawnsio a gwisgoedd traddodiadol Cymru.
Yn y 19eg ganrif, gwnaeth Gwenynen Gwent lawer o waith i ddatblygu'r wisg Gymreig. Roedd merched Cymru wedi dechrau anghofio am y gwisgoedd, a cheisiodd hi eu hannog nhw i wisgo ei fersiwn hi o'r wisg Gymreig. Dyma'r wisg sydd ar gardiau post a rhoddion o Gymru, a'r un sydd ar werth adeg dydd Gwyl Dewi.
Blwyddyn naid
Mae 2020 yn flwyddyn arbennig - mae hi'n flwyddyn naid.
Pam mae eisiau blwyddyn naid?
Mae'r ddaear yn cymryd 365 diwrnod, 6 awr i fynd o gwmpas yr haul. Heb y diwrnod ychwanegol bob pedair blynedd, bydden ni'n colli chwarter diwrnod y flwyddyn. Felly, mae'r flwyddyn naid yn cywiro'r calendr.
Beth os ydych chi'n cael eich pen-blwydd ar flwyddyn naid?
Mae pobl sy'n cael eu geni ar 29 Chwefror fel arfer yn dathlu eu pen-blwydd ar 28 Chwefror neu 1 Mawrth. Mae rhai pobl yn dweud eu bod nhw chwarter yr oedran ydyn nhw - e.e. pan maen nhw'n 28 oed, maen nhw dathlu eu 7fed pen-blwydd - felly maen nhw'n dweud eu bod nhw'n 7 oed!
Y Gemau Olympaidd a'r flwyddyn naid
Mae'r Gemau Olympaidd yn digwydd mewn blwyddyn naid fel arfer. Roedd y gemau eleni i’w cynnal yn Tokyo ond oherwydd y pandemig Covid-19 maent wedi ei gohirio i Awst 2021.
Sut mae gweithio allan pa flwyddyn sy'n flwyddyn naid?
Os ydych chi'n gallu rhannu'r flwyddyn â 4, mae hi'n flwyddyn naid, e.e. 2004, 2008.
Traddodiadau'r flwyddyn naid
Clociau Cymru
Heddiw, dydyn ni ddim yn meddwl am Gymru fel gwlad sy'n enwog am glociau, ond roedd diwydiant gwneud clociau bywiog iawn yn arfer bod yma...
Tystiolaeth gynnar
Mae'r bardd Dafydd ap Gwilym (tua 1320-70) yn sôn am gloc wal swnllyd yn ei ddeffro mewn cywydd a ysgrifennodd dros 600 mlynedd yn ôl:
Och i'r cloc yn ochr y clawdd,
Du ei ffriw, a'm deffroawdd . . . (ffriw = wyneb; deffroawdd = deffrodd)
A'i ddwy raff iddo, a'i rod (rhod = olwyn)
A'i bwysau, pelennau pwl (pwl = trwm)
A'i fuarthau, a'i forthwl . . .
Dafydd ap Gwilym, yn y cywydd hwn, oedd un o'r cyntaf i ddisgrifio cloc ym Mhrydain.
Cloc yr eglwys
Roedd clociau i'w cael ar eglwysi cadeiriol ac eglwysi yng Nghymru, e.e:
Cloc y dref
Dyma rai o glociau tref cynnar Cymru:
Clociau mewn cartrefi
Does dim sôn bod clociau mewn cartrefi cyn y 1600au. Erbyn tua 1700, roedd gan fwy o bobl glociau ac roedden nhw'n cael eu gadael mewn ewyllysiau.
Tyfodd nifer y gwneuthurwyr clociau hefyd. Ym 1700, roedd gwneuthurwyr clociau mewn wyth ardal yng Nghymru; erbyn 1750 roedd 72 o wneuthurwyr ac ym 1800 roedd y nifer wedi codi i 200. Felly, erbyn hynny, roedd rhywun yn gwneud clociau ym mhob tref, fwy neu lai.
Clociau cynnar
Wyneb pres oedd gan y clociau cynnar, ac roedd y cas o dderw. Fel arfer roedd angen weindio'r cloc bob 30 awr ('clociau un dydd un nos' oedden nhw), ond roedd clociau drutach gan y boneddigion a oedd yn gallu mynd am 8 niwrnod neu fis, hyd yn oed.
Clociau diweddarach
Erbyn 1850, doedd dim llawer o glociau'n cael eu gwneud yng Nghymru. Roedd gwneuthurwyr Cymru'n prynu clociau o Birmingham neu Swydd Gaerhirfryn ac yn peintio eu henw a'u tref ar y deial. Ar ôl i ffatrïoedd ddechrau gwneud clociau, daeth y traddodiad i ben.
Colli diwrnod
Ddiwedd 2011, collodd Samoa ddiwrnod, sef 30 Rhagfyr 2011. Neidion nhw'n syth o 29 Rhagfyr i 31 Rhagfyr. Felly, roeddech chi'n anlwcus iawn os oeddech chi'n byw ar yr ynysoedd ac yn dathlu eich pen-blwydd ar 30 Rhagfyr.
Mae Samoa hanner ffordd rhwng Seland Newydd a Hawaii. Ym mis Mai 2011, penderfynon nhw groesi'r Ddyddlinell fel eu bod nhw'r un diwrnod ag Awstralia a Seland Newydd.
Masnachu
Ers 119 mlynedd, roedden nhw wedi bod yr un diwrnod ag Unol Daleithiau America (UDA). Ond maen nhw'n masnachu mwy gydag Awstralia a Seland Newydd. Roedd y Ddyddlinell yn gwneud pethau'n anodd iddyn nhw:
Felly, dim ond ar ddyddiau Mawrth, Mercher ac Iau roedden nhw'n gallu cysylltu â phobl eraill mewn swyddfeydd. Hefyd, mae llawer o bobl o Samoa wedi mynd i fyw i Seland Newydd, felly roedd hi'n anodd i deuluoedd drefnu cwrdd â'i gilydd.
Y Ddyddlinell
Mae'r Ddyddlinell yn rhedeg o'r gogledd i'r de ar hyd llinell hydred 180 gradd yn y Môr Tawel.
Llinell ddychmygol yw hi - hynny yw, dydy hi ddim yno go iawn.
Dydy hi ddim yn hollol syth chwaith. Weithiau mae hi'n gwyro i'r chwith neu i'r dde fel nad yw hi'n croesi tir a hefyd fel bod grŵp o ynysoedd gyda'i gilydd yn yr un diwrnod.
Ceri
Tybed os oes rhywun yn gallu helpu? Mae’n fis Hydref ac mae angen troi’r awr yn ei ôl. Pam?
Kamal
Rydyn ni'n troi'r awr yn ei ôl fel ei bod hi'n oleuach yn y bore ac yn tywyllu'n gynt.
Ceri
Pam bod angen i ni newid yr amser? Beth yw’r manteision?
Non
Mae hyn yn fantais fawr i'r Alban, oherwydd eu bod nhw'n nes at begwn y gogledd, a'r dydd yn fyr yn y gaeaf.
Cai
Ia mae’n ddiddorol. Mae rhai eraill eisiau i ni droi'r clociau ymlaen awr drwy gydol y flwyddyn er mwyn bod yr un amser â'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop.
Ceri
O dwi’n deall. Felly ydw i’n iawn i ddweud os y byddwn yr un amser â'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop byddai hi'n dywyllach yn y bore ond byddai mwy o oriau o olau gyda'r nos?
Non
Ia ti’n iawn. Byddai mwy o oriau o olau ar ôl i bobl ddod adref o'r gwaith. Bydden ni'n treulio mwy o amser ar ddihun yn ystod oriau golau. Felly, o bosib byddai llai o allyriadau carbon oherwydd fydden ni ddim yn goleuo a gwresogi cymaint ar ein tai.
Kamal
Cywir! Gellir dadlau y buasai llai o ddamweiniau ar y ffyrdd yn ogystal. Mae damweiniau'n digwydd wrth iddi nosi gan fod pobl wedi blino. Mae llawer o blant yn cael eu bwrw i lawr wrth gerdded adref o'r ysgol yn y tywyllwch.
Ceri
Diddorol. Ond drwy symud y cloc ymlaen drwy’r flwyddyn mae’n anfantais i’r Alban. Fyddai hi ddim yn gwawrio tan 10 y bore. Byddai plant yn mynd i'r ysgol yn y tywyllwch a ffermwyr yn gweithio am oriau yn y bore cyn iddi oleuo. Dwi’n deall nawr pam fod angen newid yr awr ddwywaith y flwyddyn! Tegwch i bawb!
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yn hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Roedd cloc y chwarel yn chwarae rôl ganolog mewn nifer o ffyrdd. Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy am bwysigrwydd cloc y chwarel.
Pryd mae’r clociau'n mynd yn ôl mewn gwledydd eraill?
Awr yn fwy yn y gwely!
24 Hydref 2020
Yn y Deyrnas Unedig ar 25 Hydref 2020 mae’r clociau'n troi’n ôl yn oriau mân fore Sul. Ond nid y Deyrnas Unedig yw'r unig wlad sy’n symud yr awr.
Mae troi'r amser yn ôl bob mis Hydref yn gwneud y nosweithiau'n llawer byrrach yn ystod misoedd y gaeaf. Ym mis Mawrth bob blwyddyn rydym yn symud y clociau ymlaen, sy'n golygu ein bod yn gallu mwynhau awr ychwanegol o olau'r haul yn yr haf.
2020 – Clociau’n mynd ymlaen 29 Mawrth
2020 – Clociau’n mynd yn ôl 25 Hydref
2021 – Clociau’n mynd ymlaen 28 Mawrth
2020 – Clociau’n mynd yn ôl 31 Hydref
Ddydd Sul 25 Hydref pan fydd hi’n 2 o’r gloch y bore, bydd y Deyrnas Unedig yn troi’r cloc yn ôl i 1 o’r gloch.
Mae llawer o ddyfeisiau clyfar fel ffonau, setiau teledu a chyfrifiaduron llechen yn ailosod yn awtomatig. Bydd angen i glociau a watshys analog a dyfeisiau analog eraill gael eu dirwyn yn ôl.
Ydy gwledydd eraill yn newid yr amser?
Nid y Deyrnas Unedig yn unig sy'n troi’r clociau'n ôl bob hydref. Mae pob gwlad yn Ewrop, ac eithrio Belarws a Gwlad yr Iâ, yn newid eu hamser ar yr un noson â'r DU.
Mae gwledydd fel Ffrainc a Sbaen sydd ar Amser Cymedrig Greenwich (GMT) +1 yn mynd yn ôl am 3 o’r gloch y bore, amser lleol, (sef 2 o’r gloch yn y Deyrnas Unedig). Mae hyn yn golygu bod y Deyrnas Unedig bob amser yna ros awr ar eu hôl nhw.
Yn 2019 pleidleisiodd Senedd Ewrop dros gael gwared ar amser arbed golau dydd a rhoi'r gorau i ddirwyn y clociau ddwywaith y flwyddyn. Os bydd pob gwlad yn Ewrop yn cytuno â'r senedd, fe allai Ewrop gael un parth amser parhaol o 2021 neu 2022 ymlaen.
Eleni, trodd Seland Newydd eu clociau ymlaen ar 27 Medi.
Eleni bydd yr Unol Daleithiau yn troi eu clociau yn ôl ddydd Sul 1 Tachwedd.
Mae Rwsia wedi rhoi'r gorau i newid yr amser.
Abraj Al Bait (Tŵr Cloc Brenhinol Makkah) ym Mecca, Saudi Arabia
Gweithwyr yn abseilio i lanhau wyneb Big Ben – tŵr cloc enwog San Steffan
Tŵr y cloc astronomegol enwog yn Prague, y Weriniaeth Tsiec
Y Rathaus-Glockenspiel ar Neuadd Newydd y Dref ar sgwâr Marienplatz ym Munich, yr Almaen.
Tŵr cloc Deira, yr Emiradau Arabaidd Unedig
Tŵr Rajabai o Westy Esplanâd Watson, Bombay, bellach Mumbai yn nhalaith Maharashtra, India
Cloc Cwcw mwya’r byd - Titisee-Neustadt yn y Goedwig Ddu
Edrychwch ar y clip yma ar YouTube sy'n dangos cloc Titisee-Neustadt yn y Goedwig Ddu - gallwch chi weld y gwcw'n dod allan o'r cloc.
Unedau amser
Mae'r rhestr isod yn dangos yr unedau y byddwn yn eu defnyddio i fesur amser. Mae hefyd yn dangos y trawsnewid o un uned i'r llall.
60 eiliad = 1 munud
60 munud = 1 awr
24 awr = 1 diwrnod
7 diwrnod = 1 wythnos
365 diwrnod = 1 blwyddyn (366 diwrnod mewn blwyddyn naid)