Traddodiad Clapio Wyau

Clapio Wyau

Canllaw Rhiant & Athro
Clapio Wyau

Byddai mynd i glapio (neu glepio) cyn y Pasg yn arfer poblogaidd gan blant Ynys Môn blynyddoedd maith yn ôl.

Yn ôl Elen Parry a anwyd yn y Gaerwen yn 1895:

Fydda ni fel rheol yn câl awr neu ddwy dudwch o’r ysgol, ella rhyw ddwrnod neu ddau cyn cau’r ysgol er mwyn cael mynd i glapio cyn y Pasg. A wedyn bydda’ch tad wedi gwneud beth fydda ni’n galw yn glapar. A beth odd hwnnw? Pishyn o bren a rhyw ddau bishyn bach bob ochor o bren wedyn, a hwnnw’n clapio, a dyna beth odd clapar.

Byddai’r plant yn mynd o amgylch y ffermydd lleol neu unrhyw dyddyn lle cedwid ieir yn curo ar ddrysau, yn ysgwyd y clapwyr ac yn adrodd rhigwm bach tebyg i hwn:

Clap, clap, os gwelwch chi’n dda ga’i wy
Geneth fychan (neu fachgen bychan) ar y plwy’

A dyma fersiwn arall o’r pennill gan Huw D. Jones o’r Gaerwen:

Clep, Clep dau wy
Bachgen bach ar y plwy’

Byddai’r drws yn cael ei agor a’r hwn y tu mewn i’r tŷ yn gofyn “A phlant bach pwy ’dach chi?” Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi wŷ yr un i’r plant. Fel arfer, byddai trigolion y tŷ yn adnabod y plant ac os byddai chwaer neu frawd ar goll, byddid yn rhoi wŷ i’r rhai absennol yn un o’r basgeidiau.

Wyau ar y Dresel

Ar ôl cyrraedd adref byddai’r plant yn rhoi’r wyau i’w mam a hithau yn eu rhoi ar y dresel gydag wyau’r plentyn hynaf ar y silff uchaf, wyau’r ail blentyn ar yr ail silff ac yn y blaen.

Gellid casglu cryn dipyn o wyau gyda digon o egni ac ymroddiad. Yn ôl Joseph Hughes a anwyd ym Miwmaris yn 1880 ac a recordiwyd gan Amgueddfa Cymru yn 1959:

Bydda amball un wedi bod dipyn yn haerllug a wedi bod wrthi’n o galad ar hyd yr wythnos. Fydda ganddo fo chwech ugian. Dwi’n cofio gofyn i frawd fy ngwraig, “Fuost ti’n clapio Wil?”, “Wel do”, medda fo. “Faint o hwyl ges ti?”, “O ches i mond cant a hannar”.

 

Geirfa
Dresel
Mae dresel yn ddarn sylweddol o ddodrefn sydd i’w gael mewn llawer o ddiwylliannau ledled Ewrop, lle maen nhw fel arfer yn cael lle amlwg yn y brif ystafell fyw.
Tyddyn
Mae tyddyn yn dŷ a thir o’i amgylch sy'n perthyn i deulu ac mae'n aml yn cynnwys ffermdy ac adeiladau allan.
Traddodiad
Rhannu arferion neu gredoau o genhedlaeth i genhedlaeth.
1
Testun & llun
2
Testun & llun
3
Testun & llun
4
Linc
5
Erthygl newyddion
6
Cerdyn trump
7
Cyfres o luniau
8
Fideo
9
Rhyngweithiol