Chwedl Taliesin

Chwedl Taliesin

Canllaw Rhiant & Athro
Chwedl Taliesin

Mae llawer o chwedlau Cymru'n rhyfedd iawn.

Dyma chwedl Taliesin. Roedd Ceridwen y wrach yn byw gyda'i gŵr, Tegid Foel, ger Y Bala, Gwynedd (mae Llyn Tegid wedi cael ei enwi ar ei ôl) ac roedd ganddyn nhw ddau blentyn. Creirfyw, oedd y ferch harddaf yn y byd, ond eu mab, Morfran, oedd y bachgen hyllaf yn y byd.

Roedd Ceridwen yn poeni tipyn am ei mab, felly aeth ati i wneud diod arbennig iddo er mwyn ei wneud yn ddoeth. Bu'n berwi perlysiau mewn crochan hud am flwyddyn a diwrnod ac ar ddiwedd y cyfnod, roedd Morfran i fod i yfed y tri diferyn olaf. Roedd ei gwas, Gwion Bach, yn ei helpu gyda'r ddiod. Yn anffodus, un diwrnod, pan oedd e'n helpu i droi'r ddiod, llyncodd ddiferyn ohoni a chafodd e'r ddawn i fod yn fardd.

Aeth Ceridwen yn wyllt gacwn a rhedodd ar ôl Gwion Bach. Gan fod y ddiod yn ddiod ryfeddol, trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog. Roedd y ddiod ryfeddol wedi rhoi gallu arbennig iddo. Y funud nesaf, dyma Ceridwen, y wrach, yn ei throi ei hun yn filgi cyflym a dyma hi'n rhedeg nerth ei thraed ar ei ôl.

Roedd Ceridwen ar fin dal Gwion pan gyrhaeddodd afon. Felly, dyma Gwion yn troi'n bysgodyn a neidiodd i'r dŵr. Trodd hithau'n ddyfrgi i'w hela yn yr afon ac er i Gwion nofio'n gynt ar hyd yr afon, roedd Ceridwen yn agosáu ato.

Yn sydyn, neidiodd Gwion allan o'r afon a throdd yn aderyn, ond fe drodd Ceridwen ei hun yn hebog, gan hedfan ar ei ôl fel mellten. Llwyddodd Gwion i hedfan oddi wrthi ond roedd yr hebog yn aderyn llawer cynt ac roedd Ceridwen wrth ei gynffon yn fuan iawn.

Yna, cafodd Gwion syniad: beth am droi'n hedyn o ŷd? Felly, trodd yn hedyn a disgynnodd i'r ddaear i ganol pentwr o ŷd. Roedd yn ddiogel, meddyliodd. Fyddai Ceridwen byth yn gallu dod o hyd iddo. Ond na - roedd Ceridwen yn agos unwaith eto. Roedd hi wedi'i throi ei hun yn iâr ac roedd hi'n dechrau bwyta'r ŷd. Bwytodd hi'r ŷd i gyd, gan gynnwys Gwion!

Naw mis yn ddiweddarach, cafodd Ceridwen faban, sef Gwion Bach, yr hedyn ŷd roedd hi wedi'i lyncu. Er ei bod hi'n grac gyda Gwion Bach, doedd hi ddim yn gallu ei ladd. Roedd e'n faban mor hardd. Ond roedd Morfran yn flin, felly lapiodd Ceridwen y baban mewn bag o ledr a'i daflu i'r môr yn Abermaw.

Roedd Morfran yn gobeithio y byddai Gwion Bach yn boddi ond, beth amser yn ddiweddarach, cafodd ei ddarganfod gan Gwyddno Garanhir ger y Borth, rai milltiroedd i'r gogledd o Aberystwyth. Gwyddno Garanhir oedd brenin Cantre'r Gwaelod ac aeth e â Gwion Bach gartre a rhoi'r enw Taliesin arno.

Wrth iddo dyfu, roedd pawb yn gweld bod Taliesin yn fachgen galluog iawn a'i fod yn siarad mewn barddoniaeth. Roedd e'n fachgen rhyfeddol.

Geirfa
Crochan
Pot mawr o haearn bwrw ar gyfer coginio neu ferwi dros dân agored
Dyfrgi
Mamal o deulu’r wenci sy’n bwyta pysgod
Hebog
Aderyn ysglyfaethus sy’n adnabyddus am ei sgiliau hela anhygoel
Perlysiau
Planhigion ar gyfer rhoi blas ar fwyd ac i’w defnyddio hefyd mewn meddygaeth
1
Testun & llun
2
Rhyngweithiol
3
Testun & llun
5
Linc
6
Testun & llun
7
Erthygl newyddion
8
Cyfres o luniau
10
Linc
11
Fideo